Khumri a'r Cymry?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Khumri a'r Cymry?

Postiogan rooney » Sul 30 Rhag 2007 5:40 pm

Nid wyf yn hanesydd ond yn ddiweddar darllenais am y deg llwyth o deyrnas ty Israel gafodd eu cipio gan yr Assyriaid oddeutu 700 CC, credir fod tua 6 miliwn o'r pobl yma wedi eu "colli" yn hanes gan na ddychwelon nhw i Israel. Diddorol yw nodi mae un o'r geiriau roedd yr Israeliaid yn cael eu galw gan yr Assyrians oedd "Khumri". Mae'r gair yma'n hynod o debyg i "Cymry".
http://www.orange-street-church.org/tex ... tribes.htm

Pa mor o ddifri mae pobl yn meddwl falle fod ni, ynghyd a gweddill pobl ynysoedd Prydain a gogledd orllewin Ewrop a'r UDA... gyda gwreiddiau yn mynd nol i'r deg llwyth colledig Israel? Gwelais hwn ar y we hefyd yn son am faneri ein gwledydd:
http://www.ibea.org.uk/israelnations.htm

Llyfryn ynglyn a Prydain a'r UDA yn y proffwydoliaethau yma, sy'n adeiladu ar y syniadau uchod:
http://www.tomorrowsworld.org/media/booklets/usp.pdf
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sul 30 Rhag 2007 6:03 pm

The home of the Celtic Cymru, from the Assyrian word Khumri, meaning the house of Omri King of Israel (see Behistun Rock, eastern Turkey). Probably among the first of the tribes to arrive. Dragon symbol a hybridisation of the Israelite symbols of the lion, snake and eagle. Welsh Druidic religion (in it's original style) is indistinguishable from the Hebrew worship through the priestly tribe of Levi. Old Welsh language is essentially Hebrew.

:ofn: Ym... na.

Dwi'n credu bod edrych ar geneteg pobol Cymru wedi dangos eu bod nhw'n wreiddiol yn ddisgynyddion i bobol Ket o Siberia. A mae'r Gymraeg wedi fod o'r iaith Frythonaidd. A daeth symbol y ddraig o'r Rhufeiniaid mae'n debyg.

Sna'm llawer o bwynt mynd ymlaen am y fath bethau erbyn hyn serch hynny. Mae'r byd mor gymysg yn enetig swn i'm yn synnu pe bai gen i waed Iddewig/Mongolian/Beth Bynnag ynddai. Swn i eisiau byw yn Isreal a integreiddio i'w diwylliant fyddwn i'n ystyried fy hun yn un ohonyn nhw, ond sna'm, pwynt smalio ein bod ni fel arall. Mae labeli fel Cymro a Iddew yn fwy dibynnol ar dy ddiwylliant a be tisho galw dy hun na pwy oedd dy dad a dy fam di erbyn hyn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan bartiddu » Sul 30 Rhag 2007 6:21 pm

The King Arthur Conspiracy

The book will interest all Christians because, as I show in massive detail, Christianity arrived in Britain in the realm of this dynasty in "the last year of Tiberius", AD 37. Original Christianity was of Divine Hand; it was brought here by several of Jesus Apostles…


Darllen 'diddorol' yn hwn, yf' lan!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Macsen » Sul 30 Rhag 2007 6:27 pm

Arthur being mortally wounded at Camlann: no, how about Arthur being killed in America by Native Americans, and his body brought back to Wales for burial.

:lol:

Dw i newydd ddarllen un tudalen wan sy'n dadlau mai Eifftiaid yw'r Cymry oherwydd bod meini hirion yn edrych fel obelisgiau. Wel, wrth gwrs.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan huwwaters » Sul 30 Rhag 2007 6:52 pm

Macsen a ddywedodd:
Arthur being mortally wounded at Camlann: no, how about Arthur being killed in America by Native Americans, and his body brought back to Wales for burial.

:lol:

Dw i newydd ddarllen un tudalen wan sy'n dadlau mai Eifftiaid yw'r Cymry oherwydd bod meini hirion yn edrych fel obelisgiau. Wel, wrth gwrs.


Dwi wedi clywed o'r blaen am un neu ddau o bethe yn cysylltu y Cymry efo'r Eifftwyr, un o nhw'n bod fod nhw wedi ffindio aur tebyg i be sy'n cael ei ffindio yn ardal Dolgellau yn yr Aifft.

Mwy na thebyg, mae'r 10 llwyth o Iddewon bellach yn cael eu hadnabod fel yr Arabiaid.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan rooney » Sul 30 Rhag 2007 6:59 pm

huwwaters a ddywedodd:Mwy na thebyg, mae'r 10 llwyth o Iddewon bellach yn cael eu hadnabod fel yr Arabiaid.


sut ti'n dod i'r casgliad yma?
O linach Abraham-> Isaac -> Jacob daeth 12 llwyth Israel

nid Abraham -> Ishamel, Ishmael yw tad y cenhedloedd Arab
http://en.wikipedia.org/wiki/Ishmael
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan bartiddu » Sul 30 Rhag 2007 7:31 pm

Ma' awduron y llyfr wnes i tynnu sylw ato yn mynd mlaen a mlaen am y comet yn 540 AD, diddorol iawn oedd gweld gwyddonydd o'r Iwerddon yn honni bod boncyffion o'r cyfnod hyn a ddarganfyddwyd mewn cors yn y wlad yn dangos rhinweddau rhyfedd oddeutu'r cyfnod hyn, pwy a wyr! Ma gen i bach o halen fan hyn rhag ofn ;)

a great catastrophe struck the Earth in AD 540

Extreme weather events of 535-536
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan huwwaters » Sul 30 Rhag 2007 10:14 pm

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Mwy na thebyg, mae'r 10 llwyth o Iddewon bellach yn cael eu hadnabod fel yr Arabiaid.


sut ti'n dod i'r casgliad yma?
O linach Abraham-> Isaac -> Jacob daeth 12 llwyth Israel

nid Abraham -> Ishamel, Ishmael yw tad y cenhedloedd Arab
http://en.wikipedia.org/wiki/Ishmael


Ie, symleiddio di hwne yng nghyd-destun crefyddol. Ty Israel sef yr Iddewon a derbyn Iesu Nasareth yn Iddew ymhlith gweddill yr Iddewon.

Ond tydi Saeson = Sacsoniaid, gan fod Saeson = Sacsoniaid, Eingliaid, Jutes, Llychlynwyr, Celtiaid, Pictiaid a be bynnag arall, felly bydd:

Arabiaid = epil Ishmael ddim yn wir. Arabiaid = epil Ishmael + mewnfudwyr (os yw hynny'n bosib gyda poblogaeth nomadig).

Rhaid cofio fod nifer yn meddwl yr oedd Mohammad yn Gristion i gychwyn a fod Islam wedi deillio o segt Gristnogol. Yr oedd y Ishmaeliaid yn gweddio tuag at Caersalem i gychwyn efo, wedyn rhywle, mae agwedd Mohammad yn newid tuag at yr Iddewon a maent yn gweddio tuag at Mecca. Bosib iawn i'r 10 llwydd arall wedi ymuno gyda Mohammad cyn iddo fagu agwedd negyddol tuag at Ty Israel.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dylan » Llun 31 Rhag 2007 2:28 am

atgoffa rhywun o'r hen ddyddiau dwl hynny pryd roedden ni i gyd yn argyhoeddedig ein bod yn ddisgynyddion Brutus ac wedi dod o Gaerdroia. Ond roedd hynny cyn dyfodiad ysgolheictod hanesyddol modern. Does dim esgus i'r gwefanau yma.

cracpots
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron