Dinoethi'r anffyddwyr: Defnyddio'r Beibl fel tystiolaeth

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rooney » Sad 05 Ion 2008 4:13 pm

huwwaters a ddywedodd:Y broblem gyda denfyddio'r Beibl fel ffynhonell yw ei fod dim ond yn un ffynhonell. Mae anffyddwyr efo nifer anfeidrol o ffynonellau gan gynnwys y Beibl.

Os ti'n sgwennu adroddiad gwyddonol neu gwaith hanesyddol, bydd dy waith yn cael ei anwybyddu mwy neu lai os ti dim ond yn defnyddio un ffynhonell.


Pwynt rhyfedd...
Mae'r Beibl yn gasgliad o 66 llyfr, gen 35-40 awdur dros gyfnod o 1500+ mlynedd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan krustysnaks » Sad 05 Ion 2008 6:22 pm

On i'n meddwl mai gair Duw oedd y Beibl.

Dyna mae'n dweud yn y Beibl ei hun, beth bynnag, ond chai ddim defnyddio hwnna i brofi fy mhwynt am nad ydw i'n credu mewn Duw, na chaf?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 06 Ion 2008 12:29 pm

krustysnaks a ddywedodd:On i'n meddwl mai gair Duw oedd y Beibl.

Dyna mae'n dweud yn y Beibl ei hun, beth bynnag, ond chai ddim defnyddio hwnna i brofi fy mhwynt am nad ydw i'n credu mewn Duw, na chaf?


Mae Cristnogion yn credu fod Duw wedi defnyddio ac ysbrydoli dynion - dyna sut ysgrifennwyd y Beibl, unwaith eto, mater o ffydd, fedrai ddim profi hyn yn fateriol ond dyna mae Cristnogion a fi yn credu. O ran dy hawl i "ddefnyddio'r beibl" i brofi dy bwynt - fe elli di wrth reswm ond mae'r cyfan a'r dilysrwydd yn dibynnu ar dy ragdyb. Os wyt ti'n Gristion ac yn cychwyn gyda'r ragdyb fod yr ysgrythurau yn air ysbrydoledig Duw mi fydd dy 'take' ar y Beibl yn wahanol i dy 'take' os mae dy ragdyb yw mai nid gair Duw ydyw. Wrth reswm bydd dau berson sydd a rhagdyb gwahanol am y Beibl yn dod i gasgliadau gwahanol. Ond i ti fel anffyddiwr y cwestiwn sylfaenol yw pam fydde ti eisiau defnyddio rhywbeth nad wyt ti'n credu ynddo i brofi dy bwynt, onid oes gen ti ffynhonellau fwy dilys 'seciwlar' i ddadlau yn erbyn ffydd? Dwi'n meddwl mae dyna oedd rooney yn ceisio esbonio ar ddechrau'r edefyn yn ei ffordd ddi-hafal unigryw arferol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron