krustysnaks a ddywedodd:On i'n meddwl mai gair Duw oedd y Beibl.
Dyna mae'n dweud yn y Beibl ei hun, beth bynnag, ond chai ddim defnyddio hwnna i brofi fy mhwynt am nad ydw i'n credu mewn Duw, na chaf?
Mae Cristnogion yn credu fod Duw wedi defnyddio ac ysbrydoli dynion - dyna sut ysgrifennwyd y Beibl, unwaith eto, mater o ffydd, fedrai ddim profi hyn yn fateriol ond dyna mae Cristnogion a fi yn credu. O ran dy hawl i "ddefnyddio'r beibl" i brofi dy bwynt - fe elli di wrth reswm ond mae'r cyfan a'r dilysrwydd yn dibynnu ar dy ragdyb. Os wyt ti'n Gristion ac yn cychwyn gyda'r ragdyb fod yr ysgrythurau yn air ysbrydoledig Duw mi fydd dy 'take' ar y Beibl yn wahanol i dy 'take' os mae dy ragdyb yw mai nid gair Duw ydyw. Wrth reswm bydd dau berson sydd a rhagdyb gwahanol am y Beibl yn dod i gasgliadau gwahanol. Ond i ti fel anffyddiwr y cwestiwn sylfaenol yw pam fydde ti eisiau defnyddio rhywbeth nad wyt ti'n credu ynddo i brofi dy bwynt, onid oes gen ti ffynhonellau fwy dilys 'seciwlar' i ddadlau yn erbyn ffydd? Dwi'n meddwl mae dyna oedd rooney yn ceisio esbonio ar ddechrau'r edefyn yn ei ffordd ddi-hafal unigryw arferol.