1a. Un o'r pethau mae anffyddwyr yn hoffi ddweud wrth Gristnogion yw:-
"Ti ddim yn cael defnyddio'r Beibl i brofi'r Beibl na Duw" neu "Nid yw'r Beibl yn dystiolaeth"
OND
mae anffyddwyr yn defnyddio'r Beibl dro ar ol tro ar maes-e fel tystiolaeth i gefnogi eu pwyntiau nhw!!! e.e. Duw ddim yn bodoli, Duw yn greulon, gwyrthiau ddim yn digwydd, anghysondebau honedig ayyb.
fel dywed y sais "you can't have your cake and eat it too"
mae'n gwbl afresymol i'r anffyddiwr hawlio'r Beibl fel tystiolaeth i'w defnyddio dim ond gan yr anffyddiwr a ddim gen y Cristion. Rhowch y gorau iddi os gwelwch yn dda.
1b. Mae anffyddwyr yn trio rhoi'r argraff wallus fod nhw'n dehongli'r Beibl mewn modd gywir ac ysgolheigaidd. Dydy nhw ddim! Yr oll mae nhw'n wneud yw camddehongli'r Beibl mewn modd wallus sydd yn creu "comfort bubble" rownd eu hunain i deimlo'n well fod nhw'n deall ystyr y text- ond nid yw eu dehongliad yn gywir, nid yw'n cytuno gyda academyddion gyda cymwysterau yn y maesydd yma sydd wedi bod yn dehongli'r text yma ers canrifoedd.
Felly sut mae dehongli'r Beibl? Dyma ddisgrifiad sydyn o "Biblical textual criticism"- dadansoddi'r Beibl gan ofyn cwestiynau am y text sef- pwy ysgrifennodd ef, pryd, i pwy, pam, beth oedd y cefndir hanesyddol + daearyddol + diwyllianol? Os chi ddim yn gofyn y cwestiynau sylfaenol yna cyn rhoi dehongliad ar y text yna chi ddim yn mynd i'w ddehongli yn gywir.
Gobeithio o hyn ymlaen fydd yr anffyddwyr yn rhoi'r gorau i gamddehongli a camdrin y Beibl ar maes-e.