Macsen a ddywedodd:rooney a ddywedodd:rhoddodd DDEWIS i nhw, roedd nhw'n cael bwyta o bob coeden yn yr ardd ond ddim y goeden yna
Fe roddodd o'r goeden yn yr ardd yn gwybod eu bod nhw am fwyta ohono. Doedd dim angen iddo roi'r goeden yno o gwbwl, ond fe wnaeth o yn gwybod yn union be fyddai'n digwydd. Wnaeth Adda ac Efa ddim dewis cael y goeden yno, a gan bod Duw yn gwybod pe bai'n rhoi'r goeden yno y bydde nhw'n byta ohono, dewis Duw oedd o eu bod nhw wedi byta o'r goeden.
Dwed nawr bod gen i wy yn fy llaw a mod i'n ei ollwng o oddi ar adeilad. Oes modd beio'r wy am dorri?
cweit
mae'r cwymp yn gysyniad anghynnes dros ben mewn gwirionedd. Heb sôn am y problemau ynglyn ag ewyllys rydd, mae'r syniad ein bod ni i gyd yn cael ein cosbi oherwydd gweithred person arall yn un digon afiach.
mae duw'n gwybod o flaen llaw, cyn i'r un ohonom gael ein geni, ai uffern neu'r nefoedd fydd ein tynged. Ych.