Y Testament Newydd - S4C

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rooney » Sul 13 Ion 2008 10:47 pm

Macsen a ddywedodd:Mae Judas yn gymeriad diddorol. O ystyried bod Duw wedi gyrru Iesu i'r byd i gael ei groeshoelio, dw i'n cymryd felly bod bradychiad Judas a'r Iddewon eraill yn rhan o'r cynllun erioed. Felly mae hi braidd yn anheg ei feio Judas am be wnaeth o gan bod y cwbwl yn anochel ac wedi ei gynllunio'n ofalus gan Dduw ers i Adda ac Efa gymryd brthiad o'r afal.


Dy bwynt? Ni wedi ein creu gyda rhyddid i wneud dewisiadau, a ni'n atebol amdanynt. Roedd gen Judas ryddid fel pawb arall i ddewis neu ymwrthod a Crist.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sul 13 Ion 2008 10:51 pm

Ac eto petai o wedi 'dewis' gwneud pethau'n wahanol, bydde cynllun Duw wedi mynd o chwith? Paid a bod mor naïf. Dyw Duw hollbwerus ddim yn rhoi tynged y byd yn nwylo dewis un dyn. Mae o'n hollwybodol, ac yn gwybod pwy ddewis byddai Judas yn ei wneud yn ôl pan greodd o'r fodolaeth yn y lle cyntaf. Felly doedd gan Judas ddim dewis o fath yn y byd - ei dynged erioed oedd bradychu Iesu.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Sul 13 Ion 2008 10:56 pm

Macsen a ddywedodd:Ac eto petai o wedi 'dewis' gwneud pethau'n wahanol, bydde cynllun Duw wedi mynd o chwith? Paid a bod mor naïf. Dyw Duw hollbwerus ddim yn rhoi tynged y byd yn nwylo dewis un dyn. Mae o'n hollwybodol, ac yn gwybod pwy ddewis byddai Judas yn ei wneud yn ôl pan greodd o'r fodolaeth yn y lle cyntaf. Felly doedd gan Judas ddim dewis o fath yn y byd - ei dynged erioed oedd bradychu Iesu.


Roedd Duw yn gwybod beth fyddai'n wneud, nid yw hyn yn golygu fod gen Judas ddim rhyddid. Mae Duw yn gwybod y dyfodol yn barod, mae'n gwybod beth ni am wneud gyda'n rhyddid.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sul 13 Ion 2008 11:09 pm

Os yw Duw yn gwybod beth ydyn ni am ei wneud yn barod, mae ein gweithredoedd yn ordeiniedig, felly does ganddyn ni ddim rhyddid. Does dim modd cael pethau'r ddwy ffordd - os yw Duw yn hollbwerus, yna does dim dim pwer yn weddill i ni.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Sul 13 Ion 2008 11:17 pm

Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sul 13 Ion 2008 11:40 pm

Dyw'r wefan yna ddim yn ateb y cwestiwn a mae o jesd yn codi mwy.

Likewise, if I put a bowl of ice-cream and a bowl of cauliflower in front of my child, I know for a fact which one is chosen, the ice cream.

Mae hwnna'n analogy sal iawn a dweud y gwir, am ei fod o'n dangos mae'r rhiant sy'n gneud y penderfyniad dros y plentyn. Jesd fel mae Duw wedi penderfynu o flaen llaw be fydden ni'n ei wneud. Hyd yn oed wedyn ei hachos hi nid yw'n gwybod yn 'ffaith' pa un fydd yn cael ei ddewis. Nid yw'n 100% y bydd y plentyn yn dewis y hufen ia, pwy bynnag mor debygol ydi o. Ond dyw talent Duw am wybod o flaen llaw beth ydan ni a ei wneud ddim yn gyfyngedig i'r fath debygolrwydd - does dim margin of error, mae o'n gwybod bob dim. Wnaeth o greu'r byd yn gwybod yn union sut y bydden ni'n gweithredu o'i fewn.

Cwestiwn: Os yw Duw yn gwybod popeth o flaen llaw pam wnaeth o roi coeden y da a'r drwg yn yr ardd o flaen Adda ac Efa. Onid oedd o'n gwybod eu bod nhw am fwyta'r ffrwyth? Onid yw hyn fel rhoi'r hufan ia o flaen y plentyn?

Fe wnaeth Duw greu'r byd yn gwybod beth ydan ni am ei wneud - pe bai fo wedi ei greu mewn ffordd gwahanol fe fydden ni'n gwneud dewisiadau gwahanol. Mae pob un o'n dewisiadau ni yn treiddio nol i'r un gwreiddyn - Duw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Llun 14 Ion 2008 12:11 am

Macsen a ddywedodd:Mae hwnna'n analogy sal iawn a dweud y gwir, am ei fod o'n dangos mae'r rhiant sy'n gneud y penderfyniad dros y plentyn.


nac ydy, y plentyn sydd yn dewis. Mae'n analogy sal yn yr ystyr fod y rhiant ddim yn gwybod, dim ond dyfalu'n ffyddiog.

Jesd fel mae Duw wedi penderfynu o flaen llaw be fydden ni'n ei wneud.


nac ydy, ni sydd gen y dewis a'r cyfrifoldeb dros y dewis

Fe wnaeth Duw greu'r byd yn gwybod beth ydan ni am ei wneud - pe bai fo wedi ei greu mewn ffordd gwahanol fe fydden ni'n gwneud dewisiadau gwahanol. Mae pob un o'n dewisiadau ni yn treiddio nol i'r un gwreiddyn - Duw.


nac ydy, ni wedi cael rhyddid
wnaeth o ddim creu robotiaid, creodd bobl gyda rhyddid i ddewis. Risgi falle, ond dwi ddim yn cwyno. Ni'n byw o fewn amser, mae Duw tu allan i amser, fe greodd amser.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan GT » Llun 14 Ion 2008 12:19 am

rooney a ddywedodd:nac ydy, ni wedi cael rhyddid
wnaeth o ddim creu robotiaid, creodd bobl gyda rhyddid i ddewis. Risgi falle, ond dwi ddim yn cwyno. Ni'n byw o fewn amser, mae Duw tu allan i amser, fe greodd amser.


Hen, hen ddadl athronyddol rooney - ac un anodd i'w hateb.

Os ydi Duw yn hollalluog, yna mae'n gwybod beth mae pob un ohonom am ei wneud.

Os ydi Duw yn gwybod yr hyn rydym am ei wneud cyn i ni ei wneud, yna does ganddom ni ddim dewis.

Felly does gennym ni ddim ewyllys rhydd.

Felly os ydym yn cael ein hel i Uffern, mae am gyflawni gweithredoedd nad oes gennym ni ddewis ond eu cyflawni.

Felly mae Duw wedi penderfynu o'r cychwyn bod rhai yn mynd i'r Nefoedd a bod eraill yn mynd i Uffern.

Felly geiriau'r emyn - A yw fy enw i lawr?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Llun 14 Ion 2008 12:25 am

Os ydi Duw yn gwybod yr hyn rydym am ei wneud cyn i ni ei wneud, yna does ganddom ni ddim dewis.


anghywir

Chi sydd yn penderfynnu lle chi'n mynd. Does wnelo hynny ddim a'r ffaith fod Duw yn gwybod yn barod beth chi'n dewis gwneud gyda'ch rhyddid. Ddylai'r ffaith fod Duw yn gwybod eisoes ddim effeithio chi a beth chi'n dewis gwneud, na bod yn esgus. Fel yng Ngardd Eden mae oblygiadau eich dewis wedi ei roi ddigon plaen i chi, fel roedd i Adda ac Efa.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan GT » Llun 14 Ion 2008 7:32 am

rooney a ddywedodd:
Os ydi Duw yn gwybod yr hyn rydym am ei wneud cyn i ni ei wneud, yna does ganddom ni ddim dewis.


anghywir

Chi sydd yn penderfynnu lle chi'n mynd. Does wnelo hynny ddim a'r ffaith fod Duw yn gwybod yn barod beth chi'n dewis gwneud gyda'ch rhyddid. Ddylai'r ffaith fod Duw yn gwybod eisoes ddim effeithio chi a beth chi'n dewis gwneud, na bod yn esgus. Fel yng Ngardd Eden mae oblygiadau eich dewis wedi ei roi ddigon plaen i chi, fel roedd i Adda ac Efa.


Os dwi'n gwybod (trwy ddulliau goruwch naturiol) bod Joni bach am ddwyn afalau fory, ac mae Joni yn gwneud hynny mae'n codi problem.

Gall Joni feddwl ei fod wedi gwneud dewis - a'i fam, a pherchenog yr afalau. Ond dydi ei ddewis ddim yn un mewn gwirionedd. Mae'r dewis wedi ei raglennu.

Rhagluniaeth ydi'r gair priodol am wn i.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron