Y Testament Newydd - S4C

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Maw 15 Ion 2008 1:38 pm

Macsen a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:rhoddodd DDEWIS i nhw, roedd nhw'n cael bwyta o bob coeden yn yr ardd ond ddim y goeden yna

Fe roddodd o'r goeden yn yr ardd yn gwybod eu bod nhw am fwyta ohono. Doedd dim angen iddo roi'r goeden yno o gwbwl, ond fe wnaeth o yn gwybod yn union be fyddai'n digwydd. Wnaeth Adda ac Efa ddim dewis cael y goeden yno, a gan bod Duw yn gwybod pe bai'n rhoi'r goeden yno y bydde nhw'n byta ohono, dewis Duw oedd o eu bod nhw wedi byta o'r goeden.

Dwed nawr bod gen i wy yn fy llaw a mod i'n ei ollwng o oddi ar adeilad. Oes modd beio'r wy am dorri?


cweit

mae'r cwymp yn gysyniad anghynnes dros ben mewn gwirionedd. Heb sôn am y problemau ynglyn ag ewyllys rydd, mae'r syniad ein bod ni i gyd yn cael ein cosbi oherwydd gweithred person arall yn un digon afiach.

mae duw'n gwybod o flaen llaw, cyn i'r un ohonom gael ein geni, ai uffern neu'r nefoedd fydd ein tynged. Ych.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Maw 15 Ion 2008 10:32 pm

Dylan a ddywedodd:mae'r cwymp yn gysyniad anghynnes dros ben mewn gwirionedd. Heb sôn am y problemau ynglyn ag ewyllys rydd, mae'r syniad ein bod ni i gyd yn cael ein cosbi oherwydd gweithred person arall yn un digon afiach.

I fod yn deg nid dyna beth mae'r Beibl yn ei ddweud o b dwi'n dallt. Coeden y Gwybodaeth o'r Da a'r Drwg oedd y goeden wnaethon nhw fwyta ohono. Anwybyddu gorchymun Duw oedd y 'original sin' - ond am ein pechodau ni dyn ni'n cael ein cosbi yn uffern. Be wnaeth y weithred yno o fyta'r afal ei wneud oedd rhoi'r gallu i ni bechu. Am ein bod ni nawr yn adnabod beth sy'n ddrwg a da ers byta'r ffrwyth (dyw'r Beibl ddim yn dweud mai afal ydi o), mae modd i ni ddewis bod yn ddrwg, a dyna sy'n bechadurus.

Be syn eironig mewn ffordd yw bod ewyllus rhydd yn cael ei weld fel anhreg gan Dduw, ond o edrych ar Genesis mae'n ymddangos nad oedd yr ewyllys rhydd dyn ni'n ei fwynhau heddiw ddim yn bodoli cyn bwyta'r afal. Doedden nhw methu dewis bod yn ddrwg neu da oherwydd nad oedd ganddyn nhw ddim unrhyw ddealltwriaeth o'r cysyniad.

Ac felly hefyd y Nefoedd. Os ydi pawb yn hapus yno drwy'r adeg dwi'n cymryd nad yw ewyllus rhydd yn bodoli fan 'no chwaith? Sgen ti'm dewis ond bod yn hapus. Mae fel petai rywun wedi injectio botox mewn i dy fren, fel bo tin gwenu drwy'r adeg 'ar y tu mewn'?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Mer 16 Ion 2008 6:49 pm

Macsen a ddywedodd:Fe roddodd o'r goeden yn yr ardd yn gwybod eu bod nhw am fwyta ohono. Doedd dim angen iddo roi'r goeden yno o gwbwl, ond fe wnaeth o yn gwybod yn union be fyddai'n digwydd. Wnaeth Adda ac Efa ddim dewis cael y goeden yno, a gan bod Duw yn gwybod pe bai'n rhoi'r goeden yno y bydde nhw'n byta ohono, dewis Duw oedd o eu bod nhw wedi byta o'r goeden.


non-sequitur
rhoddodd ddewis i Adda ac Efa. Gwnaeth nhw ddewis ffol. Rhoddod orchymyn i nhw beidio bwyta o'r goeden ond anwybyddodd nhw ef.

am ryw reswm yr wyt yn mynnu beio Duw am bopeth a ddim yn gallu derbyn fod pobl/dynoliaeth gyda unrhyw gyfrifoldeb. Wrth ddilyn dy ddadl fymryn pellach wyt ti'n awgrymu na ddylai Duw fod wedi creu pobl o gwbl os oedd o'n gwybod byddai pobl/dynoliaeth yn camdrin y rhyddid trwy wneud penderfyniadau gwael neu yn ymwrthod ac ef? Wnaeth e greu pobl rhydd ddim robotiaid. Ni ddim yn gallu amgyffred y syniad o greu rhywbeth mor anhygoel a bywyd, ni erioed wedi creu unrhywbeth mor anhygoel. Ni wedi cael rhyddid i ddewis. Mae'n glefyd modern fod pobl yn rhedeg ffwrdd o'u cyfrifoldebau, eisiau beio eraill o hyd.

falle fydde'n ddefnyddiol gwybod o pa gyfeiriad wyt ti'n dod at yr hanes yma- ai dy fwriad yw trio tanseilio neu defnyddio'r gwymp i ddadlau yn erbyn bodolaeth Duw? Rwy'n teimlo dy fod yn mynd allan o dy ffordd i beidio deall/derbyn cysyniad digon rhwydd, pam?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Mer 16 Ion 2008 6:57 pm

Dylan a ddywedodd:mae'r cwymp yn gysyniad anghynnes dros ben mewn gwirionedd. Heb sôn am y problemau ynglyn ag ewyllys rydd, mae'r syniad ein bod ni i gyd yn cael ein cosbi oherwydd gweithred person arall yn un digon afiach.


yw Dawkins yn gallu siarad Cymraeg? mae dy negeseuon bron air am air o'i safbwyntiau ef

mae anffyddwyr yn hoffi rhoi'r argraff fod nhw'n cael eu cosbi oherwydd Adda, a gweiddi "anheg". Mae gen i newyddion i chi:-

Rhufeiniaid 3:22-
Maeír un fath i bawb, 23 am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau eu hunain. 24 Duw syín gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni, am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i'n gollwng niín rhydd.


os chi ddim yn credu fi, gofynwch gwestiwn gonest i chi eich hun- ydych chi wedi cadw'r deg gorchyumun yn berffaith? chi erioed wedi dwyn neu ddweud celwydd? chi erioed wedi casau rhywun yn eich calon? os felly, gwastraff amser yw chwifio'ch dwrn i'r awyr a beio Duw ac Adda:- chi angen edrych nes adref a chi angen gwaredwr. Mae Duw wedi rhoi rhodd o waredwr i ni- Iesu. Ni wedi cael dewis clir unwaith eto gen Dduw. Dewiswch yn ddoeth.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron