Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 9:03 am
gan Foel Gornach
Positif80 a ddywedodd:Os fydd Appollonius yn cael sylw, hefyd, fydda i'n hapus.


Beth yw'r obsesiwn hyn am Apollonius sydd gennyt Positif80? Mae ei enw wedi dod lan sawl gwaith nawr. Rwy'n cymryd taw Apollonius o Tyana (bu farw 98 O.C.) sydd gennyt mewn golwg. Gwnaeth y neo-Platoniaid, fel Plotinus o'r Aifft (205-270 O.C.) a Porphyry o Tyrus (233-305 O.C.) wneud arwr o Apollonius mewn ymdrech fwriadol i greu cyfundrefn crefyddol i wrthweithio Cristnogaeth. Gwnaed hyn o dan fendith yr awdurdodau Rhufeinig oedd yn ofni'r Gristnogaeth am ei bod yn herio'r holl werthoedd imperialaidd a militaraidd. Yr oedd Apollonius, felly, yn arwr i'r sefydliad gormesol - ai hynny sy'n ei wneud yn ddeniadol iti?

Synnaf dy fod yn mawrygi'r Gnosticiaid ! Nid oedd meddylfryd y rhain unrhywbeth tebyg i eiddo Apollonius - i'r gwrthwyneb yn llwyr. Ni cheir dim o'u gweithiau hwy yn y Testament Newydd am eu bod yn cyflwyno credoau sy'n groes i'r hyn a ddysgai Iesu. Un o'r gweithiau hynny yw Efengyl Jwdas. Rhaid cofio bod cannoedd o weithiau wedi eu hysgrifennu yn ystod y canrifoedd cynnar hynny; ac fel ym mhob oes yr oedd llawer o sothach yn eu plith. Bu arweinwyr yr Eglwys Fore, fel Irenaeus, yn ddyfal yn sicrhau taw'r gweithiau oedd yn mynegi syniadau sy'n unol a meddylfryd Iesu oedd yn cael eu hystyried fel ysgrythur. Nid yw Efengyl Jwdas ymhlith y rheiny.

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 2:21 pm
gan gethin_aj
hmm. newydd edrych ar y ddau bennod gyntaf. eitha siomedig dwi'n meddwl. bron mor wael a'r math o draethawd fyswn i'n ei sgwennu! a di safon fy nhraethodau i ddim yn uchel o gwbl. mae o fel petai nhw wedi darganfod lot o wybodaeth am bethe gwahanol a meddwl
- beth am sticio hwn efo'i gilydd
- ond di o ddim yn berthnasol
- wel, na, ond neith o lenwi pum munud a nawn ni neud o swnio'n bwysig.

e.e. yn y bennod gyntaf - os esgyrn, dant a phenglog luc oedd yr holl esgyrn na naethon nhw ddarganfod, di o'n newid dim ar y ffaith ei fod ei ysgrifau yn rai oedd wedi'u hymchwilio'n fanwl.
- 'dyn ni'n gwbod fod yr adnodau yna ar ddiwedd marc wedi'u hychwanegu a ma nifer o gyfieithiadau saesneg mwy diweddar yn nodi hwnna a dwi'n nabod rhai sy'n ddigon hapus i'w hanwybyddu nhw - ond ma'r gweddill i gyd yn iawn ac yn ffitio efo'i gilydd.
- ydi, mae'n debygol iawn nad Paul sgwenodd hebreaid - ond di enw Paul ddim arno fo - roedd y rhaglen yn neud i'r llythyr edrych yn annibynadwy yn hynny o beth ond does dim honiad yn y llythyr mai paul di'r awdur.
a efo lot o'r llythyron, y prif reswm dros ddweud mai nid pedr neu paul sgwennodd nhw yn y rhaglen yma ydi "ma'r ysgolhaig yma yn dweud o felly mae'n wir".

dwi ddim yn ysgolhaig na wedi astudio lot o ddiwinyddiaeth (dim eto beth bynnag) ond roedd dadleuon y rhaglen yn wan iawn.
sori - eitha ranti - ond roedd o'n eitha siomedig.

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 7:21 pm
gan Macsen
Dwi'n sylwi na wnes ti ateb fy nghwestiwn Rooney:

Cwestiwn: Os yw Duw yn gwybod popeth o flaen llaw pam wnaeth o roi coeden y da a'r drwg yn yr ardd o flaen Adda ac Efa. Onid oedd o'n gwybod eu bod nhw am fwyta'r ffrwyth? Onid yw hyn fel rhoi'r hufan ia o flaen y plentyn?

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 9:17 pm
gan rooney
GT a ddywedodd:Os dwi'n gwybod (trwy ddulliau goruwch naturiol) bod Joni bach am ddwyn afalau fory, ac mae Joni yn gwneud hynny mae'n codi problem.

Gall Joni feddwl ei fod wedi gwneud dewis - a'i fam, a pherchenog yr afalau. Ond dydi ei ddewis ddim yn un mewn gwirionedd. Mae'r dewis wedi ei raglennu.


non-sequitur, pwy yw'r rhaglennydd?

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 9:23 pm
gan rooney
Macsen a ddywedodd:Cwestiwn: Os yw Duw yn gwybod popeth o flaen llaw pam wnaeth o roi coeden y da a'r drwg yn yr ardd o flaen Adda ac Efa. Onid oedd o'n gwybod eu bod nhw am fwyta'r ffrwyth? Onid yw hyn fel rhoi'r hufan ia o flaen y plentyn?


rhoddodd DDEWIS i nhw, roedd nhw'n cael bwyta o bob coeden yn yr ardd ond ddim y goeden yna

wyt ti'n meddwl am fod e'n gwybod eu dewis ddyle fe ddim rhoi dewis i nhw? ddim yn deall dy wrthwynebiad

rhoddodd DDEWIS & RHYBUDD. Anwybyddodd nhw'r rhybudd a gwneud y dewis anghywir. Mae'r broblem yma'n parhau hyd heddiw. Allai Duw ddim bod yn fwy teg- rhoi dewis ac egluro oblygiadau'r dewis. Mae rhai pobl yn gwneud dewsiadau ffol, ac eraill yn gwneud dewisiadau call.

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 9:39 pm
gan GT
rooney a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Os dwi'n gwybod (trwy ddulliau goruwch naturiol) bod Joni bach am ddwyn afalau fory, ac mae Joni yn gwneud hynny mae'n codi problem.

Gall Joni feddwl ei fod wedi gwneud dewis - a'i fam, a pherchenog yr afalau. Ond dydi ei ddewis ddim yn un mewn gwirionedd. Mae'r dewis wedi ei raglennu.


non-sequitur, pwy yw'r rhaglennydd?


:?

Pam mae o'n non-sequitur?

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 10:01 pm
gan rooney
Positif80 a ddywedodd:Mae mwy o diddordeb gen i yn y stwff wnaethon nhw gadael allan o'r Testament Newydd. Hefyd, mae'r Hen Destament yn llawer mwy diddorol yn fy marn i - llawer mwy o straeon difyr, gan nad ydi'r peth yn canolbwyntio ar hippy barfog.

Ffwrdd a fi i'r History Channel i wylio mwy o raglenni am Hitler.


Positif80, wyt ti'n cytuno gyda'r canlynol?

--------------------------------------------------------------------------------

"The heaviest blow that ever struck humanity was the coming of Christianity. .. The deliberate lie in the matter of religion was introduced into the world by Christianity.... Let it not be said that Christianity brought man the life of the soul, for that evolution was in the natural order of things. "

&

"The best thing is to let Christianity die a natural death.... When understanding of the universe has become widespread... Christian doctrine will be convicted of absurdity.... Christianity has reached the peak of absurdity.... And that's why someday its structure will collapse.... ...the only way to get rid of Christianity is to allow it to die little by little.... Christianity the liar.... We'll see to it that the Churches cannot spread abroad teachings in conflict with the interests of the State. "

&

"Christianity is a rebellion against natural law, a protest against nature. Taken to its logical extreme, Christianity would mean the systematic cultivation of the human failure."

&

"The reason why the ancient world was so pure, light and serene was that it knew nothing of the two great scourges: the pox and Christianity."

&

"The decisive falsification of Jesus' doctrine was the work of St.Paul. He gave himself to this work... for the purposes of personal exploitation.... Didn't the world see, carried on right into the Middle Ages, the same old system of martyrs, tortures, faggots? Of old, it was in the name of Christianity"

&

"Christianity is an invention of sick brains: one could imagine nothing more senseless... Let's be the only people who are immunised against the disease"

&

"There is something very unhealthy about Christianity "

&

"It would always be disagreeable for me to go down to posterity as a man who made concessions in this field. I realize that man, in his imperfection, can commit innumerable errors-- but to devote myself deliberately to errors, that is something I cannot do. I shall never come personally to terms with the Christian lie."

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 10:07 pm
gan Positif80
Mae rhaglen ar y Sianel Hanes am y pwnc yma - wel, y darnau cafodd eu gadael allan o'r Beibl beth bynnag - yn dechrau rwan. Dw i'n meddwl fy mod i wedi'i gweld o'r blaen, felly wna i ddim trafferthu ei wylio eto. Dw i off i ymarfer goosetepping.

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 10:43 pm
gan Macsen
rooney a ddywedodd:rhoddodd DDEWIS i nhw, roedd nhw'n cael bwyta o bob coeden yn yr ardd ond ddim y goeden yna

Fe roddodd o'r goeden yn yr ardd yn gwybod eu bod nhw am fwyta ohono. Doedd dim angen iddo roi'r goeden yno o gwbwl, ond fe wnaeth o yn gwybod yn union be fyddai'n digwydd. Wnaeth Adda ac Efa ddim dewis cael y goeden yno, a gan bod Duw yn gwybod pe bai'n rhoi'r goeden yno y bydde nhw'n byta ohono, dewis Duw oedd o eu bod nhw wedi byta o'r goeden.

Dwed nawr bod gen i wy yn fy llaw a mod i'n ei ollwng o oddi ar adeilad. Oes modd beio'r wy am dorri?

PostioPostiwyd: Maw 15 Ion 2008 1:09 pm
gan Positif80
Rooney, dw i ddim yn dal yr un safbwyntiau a Mr Hitler; ond mae gen i ddiddordeb yn y cyfnod a sut oedd wlad cyfan yn gallu bodu mor wirion. Dw i hefyd yn hoff o raglenni am serial killers fel Jac y Rhugwr a Peter Sutcliffe. Ydi hynna'n meddwl fy mod i am yrri tryc o gwmpas Sir Efrog a jamio screwdrivers mewn i boliau puteiniaid? Neu ydw i isio astudio ochr tywyll ein natur?

Nol i'r pwnc rwan...