Tudalen 1 o 2

Scientology

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 12:24 pm
gan ceribethlem
Oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth am y bobl yma? Neu efallai yn adnabod scientologists?

Y cyfan i fi'n gwbod amdanyn nhw yw mai L. Ron Hubbard nath gychwyn yr holl beth, ac ei fod yn awdur braidd yn gachlyd (a'r pethau amlwg megis Tom Cruise a John Travolta yn aelodau).

Ydyn nhw wir mor boncyrs a mae'n nhw'n swno?

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 1:15 pm
gan GruffuddJOS
cafodd y crefydd eu greu gan L. Ron Hubbard yn 1952.
mae'r aelodau y grwp yn galw L. Ron Hubbard yn "The Source".
dyw e actually gyda ddim byd i neud gyda gwyddoniaeth!

a odi, ma nhw'n hollol bonkers.

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 1:25 pm
gan Dai dom da
Spooky, dwi newydd fod yn darllen am rhein ar y we y funud ma.

Ac odyn ma nhw'n boncyrs, dyma fideo sy'n dweud y cyfan amdanyn nhw: http://youtube.com/watch?v=rCGP-0545EU *Rhybudd: rhai darnau/lluniau eitha hard hitting ynddo fe gyda llaw*. Ma'r fideos John Sweeney pan nath e i neud documentary amdanyn nhw yn ddiddorol 'fyd, lan ar youtube rhywle.

Cult yw nhw fwy na dim, a rhyw fath o gwmni sy'n money making scam. Byse ni ddim yn mentro neud dim 'da nhw, pobol peryglus iawn. Ffacin nuts.

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 1:34 pm
gan Dan Dean

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 3:44 pm
gan Dylan
haha

fi, flwyddyn yn ôl a ddywedodd:Ta waeth. 'Dw i'n hollol hollol 100% sicr y bydd y Beckhamiaid yn aelodau naif o'r maffia ffiaidd yma erbyn diwedd y flwyddyn, o dan ddylanwad Tom Cruise. 'Does gen i ddim digon o hyder yng ngallu deallusol y cwpl druan i wrthsefyll malu cachu'r corrach od hwnnw.


ok, erbyn diwedd flwyddyn yma. Bendant.

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 5:48 pm
gan Positif80
Dw i wedi darllen dyfyniad lle mae'r hen L.Ron yn dweud mai'r ffordd gorau o ennill pwer ac arian yw trwy creu eich crefydd eich hun. Mae ganndynt canolfan arbennig ar gyfer enwogion, hefyd.

Dw i'm rili yn gwybod sut mae ddiffiinio cwlt yn y cyddestun yma, gan taw dyna beth mae pob crefydd pan maen nhw'n dechrau.

Mae Jason Lee o My Name is Earl yn un o'r ffyliaid yma.

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 5:50 pm
gan Positif80
Ydi rywun arall yn ffansio gwneud mission possible i arbed Katie Holmes?

http://youtube.com/watch?v=dGx0XxqLSy8 :?

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 6:23 pm
gan Dylan
Positif80 a ddywedodd:Dw i wedi darllen dyfyniad lle mae'r hen L.Ron yn dweud mai'r ffordd gorau o ennill pwer ac arian yw trwy creu eich crefydd eich hun. Mae ganndynt canolfan arbennig ar gyfer enwogion, hefyd.

Dw i'm rili yn gwybod sut mae ddiffiinio cwlt yn y cyddestun yma, gan taw dyna beth mae pob crefydd pan maen nhw'n dechrau.

Mae Jason Lee o My Name is Earl yn un o'r ffyliaid yma.


ac mae nhw newydd hawlio Will Smith hefyd, o bawb :(

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 6:52 pm
gan Positif80
Dylan a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:Dw i wedi darllen dyfyniad lle mae'r hen L.Ron yn dweud mai'r ffordd gorau o ennill pwer ac arian yw trwy creu eich crefydd eich hun. Mae ganndynt canolfan arbennig ar gyfer enwogion, hefyd.

Dw i'm rili yn gwybod sut mae ddiffiinio cwlt yn y cyddestun yma, gan taw dyna beth mae pob crefydd pan maen nhw'n dechrau.

Mae Jason Lee o My Name is Earl yn un o'r ffyliaid yma.


ac mae nhw newydd hawlio Will Smith hefyd, o bawb :(


Dw i'm yn hollol sicr fod Will Smith wedi ymuno yn swyddogol, 'chwaith, ond mae nhw ar ei ol. Dw i off i arbed Katie Holmes rwan...

Re: Scientology

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 10:53 pm
gan Positif80
Dw i'n gwybod fod Tom Cruise a'i gyfeillion yn testun sbort haeddiannol, ond mae ochr reit sinistr i Scientology hefyd:

http://www.youtube.com/watch?v=BXGQChT4-ik

http://www.youtube.com/watch?v=6iPfjC1X ... re=related