Pechaduriaid a rhyddid

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pechaduriaid a rhyddid

Postiogan Gwenci Ddrwg » Maw 22 Ion 2008 9:10 pm

Dwi'n cytuno'n hollol ar y bwynt yn gyffredinol (heddiw mae pobl yn lawer rhy falch am fawredd natur dynol ac ati). Ond os wyt ti eisiau awgrymu bod rhaid i bawb fod yn creulon pan mae nhw'n disgyblu plant, wel yn fy marn i, mae trais yn creu trais. Ambell waith 'da gormod o disgyblu creulon mae pobl normal yn gallu cyfnewid mewn lladdwyr penwan. Dylet ti fod yn mwy union am be wyt ti eisiau dweud gan "disgyblaeth mewn ysgolion" ac ati. Mae disgyblaeth yn gwan yn Nhoronto, a dwi'n gallu gweld yr effeithiau wrth gwrs, ond 'da disgyblaeth corfforol wel...buasai problemau yn cael eu creu hefyd.

Ond am bethau heblaw hynny, ia mae pobl heddiw'n colli tipyn bach o foesau (er fy mod i ddim yn dweud nad oes unrhyw trosedd yn y gorffennol) a mae hynny'n gael ei gweld yn fy ninas ambell waith. Fel ti dwi wedi bod yn meddwl am y bwnc 'ma ond i ddeud y gwir dwi'm yn gallu dod o hyd i unrhyw ateb heblaw deddfau cras, sy'n risgio creu cymdeithas erchyll yn le cymdeithas erchyll arall. Yn anffodus, allan o'r ffordd 'hwn dwi'm yn gweld llawer arall. Cristnogaeth? Wel dwi'n llai optimistaidd amdani 'na ti, mae'r credo'n darfod yn fy ardal a bydden ni angen llawer o lwc i gyfnewid y ddigwyddiad 'na mewn un diwrnod. Pan mae pobl'n clywed y term 'na, di nhw ddim eisiau gwybod neu gwrando arni, o leiaf, fel arfer, yn y rhan fwyaf o achosion (hmmm does neb arall sy'n edrych ar dy neges, prawf ydy hynny). Ambell waith dwi'n credu'n wir bod y byd yn rili f****** wp ond wel, dwi'n gobeithio na bydd unrhyw anarchiaeth neu unbennaeth cyffredinol nes fy farwolaeth, o leiaf. :gwyrdd:

Ar wefan ymgeisydd arlywyddol America Mike Huckabee mae'r slogan "Family, faith, freedom". Credaf fod y tri peth yma'n mynd gyda'u gilydd law yn llaw.

Llaw yn llaw? Wel dwi'n cytuno fy-hun, ond mae llawer o bobl dwi'n nabod yn anghytuno, pan mae pobl yn rhy ddifrif am bob math o "rhyddid" maen nhw'n arfer poeri ar Grefydd. Libertarians/anarchydd ac ati. Os wyt ti'n siarad am rhyddid yn rhy aml bydd pobl yn credu bod rhaid iddynt lladd pob Crefydd yn hollol i fod yn rhydd (yn eironig wrth gwrs mae hwn yn lladd rhyddid y bobl i benderfynu eu-hun os ydy nhw eisiau cymryd rhan mewn crefydd). Dyma problem enfawr dwedwn i...bydd rhaid i Gristion neu credwyr arall egluro pam di ffyrdd eithaf fel hwn ddim yn angenrheidiol (neu syniad da yn y lle cyntaf). Ma gynnon nhw waith os dwi'n nabod sefyllfa fy ngwlad ar y funud.

--
Dwi'n gobeithio bod fy Nghymraeg yn bosib i ddall, ro'n i wedi blino pan ro'n i'n ysgrifennu.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Pechaduriaid a rhyddid

Postiogan rooney » Maw 22 Ion 2008 11:47 pm

Gwenci Drwg a ddywedodd:Llaw yn llaw? Wel dwi'n cytuno fy-hun, ond mae llawer o bobl dwi'n nabod yn anghytuno, pan mae pobl yn rhy ddifrif am bob math o "rhyddid" maen nhw'n arfer poeri ar Grefydd. Libertarians/anarchydd ac ati. Os wyt ti'n siarad am rhyddid yn rhy aml bydd pobl yn credu bod rhaid iddynt lladd pob Crefydd yn hollol i fod yn rhydd (yn eironig wrth gwrs mae hwn yn lladd rhyddid y bobl i benderfynu eu-hun os ydy nhw eisiau cymryd rhan mewn crefydd). Dyma problem enfawr dwedwn i...bydd rhaid i Gristion neu credwyr arall egluro pam di ffyrdd eithaf fel hwn ddim yn angenrheidiol (neu syniad da yn y lle cyntaf). Ma gynnon nhw waith os dwi'n nabod sefyllfa fy ngwlad ar y funud.

--
Dwi'n gobeithio bod fy Nghymraeg yn bosib i ddall, ro'n i wedi blino pan ro'n i'n ysgrifennu.


sylwadau difyr
mae "rhyddid" yn un o'r geiriau yma sydd gyda ystyr gwahanol yn y Beibl ac yn y byd
I rai o'r byd, "rhyddid" yw rhyddid i bechu, i gablu... ond mae'r "rhyddid" yna'n arwain at ddinistr
Mewn cyd-destun Beiblaidd, rhyddid yw rhyddid oddi wrth pechodau
pechodau sy'n ein gwneud yn gaethwas yn ol y Beibl

mwy o ryddid i bechu sy'n ryddid yn ol y Byd

ti'n gweld sut mae'r Beibl yn gwbl groes i agweddau'r byd? Mae'r eglurhad yn syml- y byd yn awchu am bechod, a Duw yn awchu am sancteiddrwydd.

credaf mae ol gwaith Satan yw troi'r ystyron Beiblaidd ar ben i lawr yn y byd
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pechaduriaid a rhyddid

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 23 Ion 2008 1:09 am

Mewn cyd-destun Beiblaidd, rhyddid yw rhyddid oddi wrth pechodau
pechodau sy'n ein gwneud yn gaethwas yn ol y Beibl

Ia yn dechnegol ti'n iawn yna.

Gallet ti ddeud hefyd bod drygiau (er enghraifft) ddim yn rhyddhau pobl, ond gwneud y gyferbyniad. Felly i gefnogi'r beibl yn erbyn rhywun sy'n clepian am "rhyddid" gallet ti ddeud ei bod o'n erbyn gweithgaredd fel hwn, sy'n creu arferion dinistriol. Ond wyt ti'n rili siwr bod Huckabbee'n siarad am hwn yn union gan ychwanegu'r rhan 'na? Dwedwn i ei fod o'n canolbwyntio ar rhyddid economaidd personol, o drethi ac ati, neu am ddemocratiaeth (yn lle awdurdod Islamaidd ac ati :rolio: ).

mwy o ryddid i bechu sy'n ryddid yn ol y Byd

Hmmm, pwynt da. Anghofia be dwedais am drygiau! Pwy sydd eisiau bod yn rhydd o bechodau? Maen nhw'n rhy hwyl! *Snort* :rolio: Wel dyna rheswm arall pam mae argyhoeddi pobl yn anodd.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Pechaduriaid a rhyddid

Postiogan Positif80 » Mer 23 Ion 2008 1:10 pm

Cofiwch, Rooney: nid yw pawb sy'n ymwrthod a'r Beibl yn lefties rhydfrydol - a nid oes gan eich Duw monopoli ar egwyddorion a moeseg. 'Roedd troseddu ac ymddygiad gwr-gymdeithasol eraill yn bodoli ymhell cyn y 50/60au.

Dw i'n cytuno fod angen trefn a ddisgyblaeth ar gymdeithas, yn sicr; ond nid yw eich lyfr hynafol sy'n llawn o stwff reit rhyfedd am nadron sy'n siarad a thorri foreskins eich gelyn yr ateb i bob problem sydd gan y byd.

Dw i off i addoli graven images rwan. Tati bye.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pechaduriaid a rhyddid

Postiogan Foel Gornach » Iau 24 Ion 2008 12:56 am

Positif80 a ddywedodd: ond nid yw eich lyfr hynafol sy'n llawn o stwff reit rhyfedd am nadron sy'n siarad a thorri foreskins eich gelyn yr ateb i bob problem sydd gan y byd.


Nid yw'r llyfr yn ateb problemau - yr un y mae llyfrau'r Beibl yn tystio iddo sy'n gwneud hynny, sef Iesu.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Pechaduriaid a rhyddid

Postiogan rooney » Iau 24 Ion 2008 4:25 am

Positif80 a ddywedodd:Cofiwch, Rooney: nid yw pawb sy'n ymwrthod a'r Beibl yn lefties rhydfrydol - a nid oes gan eich Duw monopoli ar egwyddorion a moeseg. 'Roedd troseddu ac ymddygiad gwr-gymdeithasol eraill yn bodoli ymhell cyn y 50/60au.

Dw i'n cytuno fod angen trefn a ddisgyblaeth ar gymdeithas, yn sicr; ond nid yw eich lyfr hynafol sy'n llawn o stwff reit rhyfedd am nadron sy'n siarad a thorri foreskins eich gelyn yr ateb i bob problem sydd gan y byd.

Dw i off i addoli graven images rwan. Tati bye.


O ble mae dy foesau di'n dod?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pechaduriaid a rhyddid

Postiogan Dylan » Iau 24 Ion 2008 4:27 am

o'r gofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Pechaduriaid a rhyddid

Postiogan Dan Dean » Iau 24 Ion 2008 9:17 am

o'r ymenydd
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai