Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan S.W. » Mer 23 Ion 2008 6:29 pm

Yn union Rhys. Rhaid i mi gyfaddef, dwin cael ofn wrth feddwl am pethau fel "dod i nabod Iesu" ayyb. I fi, os oedd o'n wir neu beidio ac os oedd o'n fab i Dduw nei beidio, nai byth ei nabod o. Di hynny'n yn golygu wrth reswm bod dwim felly yn gallu coelio ynddo. Mi rwyt ti'n amlwg yn ymddiddori yn dy grefydd a Christnogaeth yn gyffredinol, rhywbeth sy'n rhaid dy longyfarch arno. Ond i'r person cyffredin ar y stryd y cwestiwn ydy "ydy o'n berthnasol" a'r ateb gan amlaf ydy, nac ydy. Does dim 'rhaid' i ni fynd i'r capel bellach yn wahanol i'r oes a fu. Mae'n haws peidio dweud gwir. Yn anffodus mae sawl capel, neu capeli yn gyffredinol yn grediniol bod cyfrifoldeb arnom i fynd i'r capel, ond ddim cweit yn siwr pam.

I fod yn deg a'r gweinidog oedd gen i dan sylw, wrach fod o'n credu nad y fan hono oedd y lle na'r amser i drafod y fath beth (er edrych fel ei fod yn cnoi gwenyn nath o) ond doedd dim cyfle arall i wneud. Mae gan gapel a Christnogaeth rol arall ym mywydau llawer ohonon, sef traddodiad. Rhaid i mi ddweud, ar adegau dyna syt'n fy nenu'n nol mwy nag dim byd arall. Mae traddodiad yn rhywbeth dwin meddwl sy'n bwysig. Dwi'm yn nabod unrhyw un o fy nghyfoedion sy'n dal i fynd i'r capel bellach (roedd tua 9 neu 10 ohonom ar un adeg yn mynd i'r un capel oedd tua'r un oed) a colled y capel ydy hynny, dan ni i gyd yn dal i fyw yn yr ardal. Wach nad traddodiad yw'r rheswm cywir 'pur' ond mae'n reswm serch hynny.

Os ydy capel isio fi fynd iddo a'i gefnogi a dod yn nol 'ir gorlan' fel petai yna mae'n rhaid iddynt rhoi rheswm i mi dros wneud. Ar hyn o bryd dan nhw ddim fel eu bod yn trio. Dwin gwybod am sawl gapel sydd yn edrych ar gau neu wedi cau yn y Gogledd Ddwyrain yn ddiweddar (a'u gwerthu iw cnocio lawr i adeiladu rhyw dai hyll) ble'r agwedd ymhlith yr aelodau ydy "ni di'r rhai olaf". Sori, ond bai nhw di hynny. Gyda'r agwedd hono caewch y lle rwan.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 23 Ion 2008 10:16 pm

Wel dwi'n ifanc, a dwi'n mynd i fy eglwys pan dwi'n gallu (fel arfer ma gen i waith ac ati, yn anffodus). Ond dwi'n gallu dall pam nad oes gormod o bobl ifanc sy'n cymryd rhan, yn gyffredinol. Ma capel yn diflas (hwn ydy be ma pawb yn dweud) ac ambell waith dwi'n cytuno 'da nhw ar y bwynt 'ma.

Pan roedd Cristnogaeth yn cynyddu yn ystod yr "Oesoedd Tywyll" (neu o leiaf, yn ystod yr oesoedd wedyn yr Ymerodraeth Rhufeinig os wyt ti'm yn hoffi'r gair 'na), roedd un o'r rhesymau yn amlwg. Crefydd y bobl oedd hi, sy'n agored i bawb, mwy syml i ddall (annhebyg crefyddon pagan 'da llawer o dduwdodau) , a sy'n defnyddio llyfr sanctaidd yn iaith y "stryd". Mewn 1600 (pan roedd pobl yn Ewrop yn dechrau darllen y Beibl eu-hun), roedd "behold" yn golygu "look dudes" (neu rhywbeth fel hynny) a roedd "thou" yn aml iawn ar y styd, er enghraifft. Roedd hwn yn wir hefyd mewn 200, yn iaith gyntefig y testament newydd. Heddiw sut bynnag, mae testun y Beibl yn ymddangos yn lawer mwy "hen" oherwydd iaith aflem sydd heb gael ei moderneiddio a sydd ddim yn darllenadwy. Hyd yn oed yn fersiwn newydd fel NRSE, mae'r iaith yn ddiflas ac ofnadwy o bell i fod fel iaith y stryd. Mae hwn yn eironig os dach chi'n gwybod be oedd yr achos yn y gorffennol. Dwi'n gobeithio eich bod chi'n gallu dall be wyt ti eisiau dweud gan hwn.

Felly, oherwydd hwn (yn ogystal â rhesymau arall) di pobl ifanc ddim arfer eisiau cymryd rhan mewn gwasanaethau crefyddol. Mae nhw'n cael eu gwneud yn iaith od, ac oherwydd hwn, mae nhw'n ymddangos yn hynafol a diflas.

peidio a chredu mewn Dduw fydd yr unig ffordd o gael pobl i dderbyn rol y capel yn eu bywydau eto

Datganiad od ydy hynny. :? Awgrymu pawb bod Duw yn bodoli bydd yr unig ffordd o fod yn sicr am hynny, dwedwn i.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan sian » Mer 23 Ion 2008 10:47 pm

Gwenci Drwg a ddywedodd:Datganiad od ydy hynny. :? Awgrymu pawb bod Duw yn bodoli bydd yr unig ffordd o fod yn sicr am hynny, dwedwn i.


Dw i'n meddwl dy fod ti wedi camddeall y frawddeg. Yr hyn ddywedodd S.W. oedd:

S.W. a ddywedodd:Trafod Cristnogaeth, ei pherthynas a Chrefyddau eraill a hefyd peidio a chredu mewn Dduw fydd yr unig ffordd o gael pobl i dderbyn rol y capel yn eu bywydau eto


hynny yw - "Trafod .... peidio â chredu mewn Duw ..." Ie?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 23 Ion 2008 11:10 pm

S.W. a ddywedodd:Yn union Rhys. Rhaid i mi gyfaddef, dwin cael ofn wrth feddwl am pethau fel "dod i nabod Iesu" ayyb....

Os ydy capel isio fi fynd iddo a'i gefnogi a dod yn nol 'ir gorlan' fel petai yna mae'n rhaid iddynt rhoi rheswm i mi dros wneud...


Cytuno'n hollol gyda ti. O ran bod y syniad o "ddod i adnabod Iesu" yn dy ddychryn rhywfaint ma hynny amwni yn dangos y gwahaniaeth rhwng Cristnogaeth fyw a Christnogaeth fel traddodiad. Ar yr olwg gyntaf efallai fod siarad am "ddod i adnabod Iesu" yn turn off OND dyna'r allwedd sy'n rhaid i dy Gapel ei ail-ddarganfod, dyna sy'n gwneud y capel yn wahanol i unrhyw gymdeithas ddiwylliannol arall. Oni chofia Eglwys Crist ei bod yn pregethu gwirionedd am waith iawnol Crist dros y ddynoliaeth a drosto ti fe gyll ei grym a'i sêl genhadol, fel sydd o bosib wedi diwgwydd yn dy Gapel di?

Os y credwch mae'r gwirionedd yw mai Iesu yw'r unig ffordd yna fe ddylai ddilyn yn resymegol y credwch (er y parchwch yr unigolyn bid siŵr) fod y person sy'n credu i'r gwrthwyneb yn sylfaenol anghywir. Y realiti yma sydd wedi peri, yn anffodus, i'r Eglwys a Christnogion fod yn euog ar wahanol adegau mewn hanes o fod yn hunan-gyfiawn a snobyddlyd - dwi wedi syrthio i'r trap ar y maes sawl tro. Ymateb i geisio dad-wneud y niwed yma yw'r duedd ymysg rhai Eglwysi a Christnogion i wadu gwirionedd absoliwt Cristnogaeth. Pen y daith yma oedd i Eglwysi beidio pregethu'r efengyl yn ei lawn ogoniant a phan gyll yr efengyl ei thramgwydd fe dro'r Eglwys yn ddim byd mwy na chymdeithas ddiwylliannol arall – un ymhlith nifer.

Ond wedyn medde ti, 'pa wahaniaeth wnaiff credu hyn i dy fywyd bob dydd?' Cwestiwn da. Mae Cristnogaeth yn cynnig sicrwydd mewn byd ansicr, cadernid mewn byd ansefydlog, cariad a chymdeithas mewn byd unigolyddol ac unig ac yn fwy na dim maen rhois ystyr dyfnach i bob dim wyt ti'n meddwl sydd ag ystyr iddo eisoes, dy bwrpas, dy deulu, dy genedl, dy iaith, dy waith - rwyt ti'n dod i weld y cyfan fel rhan o un jigso mawr. Ond y peth pwysicaf oll wrth gwrs yw bywyd tragwyddol. Er y dylai dy weinidog wedi gwneud ymdrech well i esbonio hyn, yn y diwedd mae'r cyfan yn dod lawr i ffydd bersonnol - maen ddigon posib fod hyn yn golygu dim i ti ac jest yn swnio fel rhethreg ond i mi, maen brofiad real ac gall fod yn brofiad real i ti hefyd.

Tip olaf, paid a disgwyl i'r Capel dy ddenu nol oherwydd aros fyddi di. Canlyniad dod i berthynas gyda Iesu yw cyfrannu i fywyd Eglwys - mae ishe ti holi ac ystyried Duw drosot ti dy hun a pheidio disgwyl i'r Capel dy ddiwallu - maen nhw wedi dy adael lawr unwaith yn barod :winc:

I grynhoi, dwi ddim yn bothered o gwbl am gael mwy o bobl i'r capel. Efallai bod hynny yn syndod i feddwl mod i'n un o Gristnogion mwya swnllyd y maes. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod pobl yn dod i adnabod Iesu... canlyniad hynny a hynny yn unig bydd yn dod a mwy nol i'r Capel. Rhaid gwneud yn siwr nad yw'r cart o flaen y ceffyl.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Macsen » Mer 23 Ion 2008 11:19 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:I ddechrau mae gan y Beibl 'sail hanesyddol' da-iawn, cystal a gwell na llawer o ffynhonellau 'seciwlar' yr un cyfnod.


Mae rywun wedi dweud wrthai yn y gorffennol bod y Beibl yn fwy hanesyddol ddibynadwy na cofnodion Iwl Cesar o rhyfel gal. Ond mae yna ddwy bwynt sydd werth eu cadw mewn golwg fan hyn:

1.) Mae pwy mor ddibynadwy yw hanes yn dibynnu i ryw raddau ar ba mor gredadwy ydi o. Hynny yw, mae cofnod o rywbeth sy'n debygol iawn o fod wedi digwydd yn fwy teilwng i gael ei drin fel dogfen hanesyddol na rywbeth sy'n honni digwyddiadau goruwchnaturiol. Fyddet ti'n ystyried y Gododdin yn llai hanesyddol na'r Mabinogi, er bod y Mabinogi yn dod wedyn a bod mwy o gopiau ohono?

2.) Mae haneswyr yn adnabod bod cofnodion Iwl Cesar yn llawn propaganda ac anwiredd. Mae'n gor bwysleisio barbareiddiwch y paganiaid a arwriaeth ei bobol ei hun. Mae'n fater o ddewis a dethol be sy'n swnio'n synhwyrol.

Y gwir yw does yr un dogfen hanesyddol yn cael ei dderbyn 100% fel mae'r Beibl gan Gristnogion, felly snam pwynt trio cymharu'r Beibl gyda dogfennau hanesyddol eraill. Mater o ffydd nid tystiolaeth yw crefydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 23 Ion 2008 11:31 pm

Macsen a ddywedodd:...felly snam pwynt trio cymharu'r Beibl gyda dogfennau hanesyddol eraill. Mater o ffydd nid tystiolaeth yw crefydd.


Mi wyt ti, wrth gwrs, yn gywir fan yma. Megis ymateb i sylwad hurt "positif" oeddw ni yn gwneud y gymhariaeth hanesyddol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Positif80 » Mer 23 Ion 2008 11:32 pm

Mi wnes i ateb reit call i sylwadau teg Rhys cynt, ond dw i'm yn medwl ei fod wedi ymddangos ar y sgrin. O wel, dw i'n rhy ddiog i ail-adrodd. :( :rolio: :ing:
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Foel Gornach » Iau 24 Ion 2008 12:38 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:I grynhoi, dwi ddim yn bothered o gwbl am gael mwy o bobl i'r capel. Efallai bod hynny yn syndod i feddwl mod i'n un o Gristnogion mwya swnllyd y maes. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod pobl yn dod i adnabod Iesu... canlyniad hynny a hynny yn unig bydd yn dod a mwy nol i'r Capel. Rhaid gwneud yn siwr nad yw'r cart o flaen y ceffyl.


Clywch, clywch.

Roedd fy nghwestiwn ynglyn ag addoliad. Dylai pob Cristion ddymuno addoli, a thrwy hynny ddatblygu ei amgyffrediad a'i ddeall o'r Efengyl, a dod i berthynas dyfnach a Iesu. Pam nad yw'r rhai sy'n arddel Iesu fel Arglwydd yn mynychu man o addoliad? Mae'n bosib addoli lle bynnag y mae pobol yn dod ynghyd yn enw Iesu - nid oes raid wrth adeilad arbennig i wneud hynny. Yr eglwys (sef y bobol sy'n cyd-gwrdd yn enw Iesu) yw dewis offeryn Duw i achub y byd. Wrth gadw draw mae person yn gwanhau gwaith yr eglwys, a thrwy hynny yn gwrthod gwneud beth mae Iesu, a sefydlodd yr eglwys, yn moyn iddi(o) wneud.

Oni ddylai'r agnostic gonest fynychu hefyd? Chwilotwr ydyw - nid yw'n chwilio'n galed iawn os yw'n gwrthod mynd i weld a thrafod gyda'r rhai sy'n credu.

Fy argraff yw bod yr anffyddwyr yn ymwrthod a rhywbeth nad ydynt yn ei ddeall, oni ddylent hwythau fynychu i gwestiynu, holi a thrafod er mwyn deall cyn condemnio? Mae'r portread a roddir mor amal o'r Ffydd Gristionogol gan anffyddwyr yn gwbl estron i mi, sy'n Gristion; ond eto y mae'n ymddangos fel petaent yn credu'r cam-ddehongliadau anwir hynny. Beth sy'n gyfrifol am hynny?
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan rooney » Iau 24 Ion 2008 3:42 am

ceribethlem a ddywedodd: On Un pwynt cyn mynd, rooney, nid yw esblygiad yn ceisio egluro tarddiad bywyd. Gwyddonwyr eraill sy'n ceisio egluro hynny.


dyw nhw heb. A wneith nhw ddim egluro tarddiad bywyd a bodolaeh popeth heb fod nhw'n torri deddfau gwyddoniaeth, a dyle ti wybod hynny'n iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan rooney » Iau 24 Ion 2008 3:50 am

Reufeistr a ddywedodd:Mae plant (o'r diwedd) hefo'r rhyddid i wneud eu meddyliau dros eu hunain ac yn cymeryd y miloedd ar filoedd o lyfrau gwyddonol sydd wedi eu cyhoeddi (wedi flynyddoedd ar flynyddoedd o ymchwil gan bobol llawer clyfrach na unrhyw wenidog) o ddifri yn hytrach na llyfr nad oes neb yn siwr pwy 'sgrifennodd, sydd wedi ei newid cyn gymaint dros yr oesoedd à la Sibrwd Tsieiniaidd, ac yn cyfleu straeon gwallgo am gymeriadau David Copperfield-aidd (y boi magic nid cymeriad Dickens).
Fedrith hyn ond fod yn beth da.


fedra i ddim ond dod i'r casgliad dy fod yn gwbl anhyddysg am y Beibl

Oedd rhaid i fi weddio yn yr Ysgol, doeddna'm dewis.


Mae'n holl wareiddiad yn seiliedig ar gred yn Nuw. Os nad oes Duw yna does dim cyfiawnhad o gwbl i system cyfiawnder, moeseg... meddwl am y peth. Os yw'r anffyddwyr yn gywir yna yr oll ym ni yw casgliad y gemegion di-nod, ffliwc, heb nod na phwrpas, heb atebolrwydd na chyfrifoldeb i neb, just epa bright. Rock on kids. Anarchiaeth ac anlywodraeth, pam ddim?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai