Tudalen 1 o 13

Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 4:54 pm
gan Foel Gornach
Pam nad yw'n pobol ifainc yn mynd i'r cwrdd/oedfa/addoliad?
Cwestiwn oesol, mi wn, ond er hynny byddai'n dda cael eich ymateb a'ch barn - pob un ohonoch.

Re: Ble mae'n pobol ifainc?

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 4:56 pm
gan Llefenni
Dydi'r gwasgedd cymdeithasol ddim arnyn nhw i ymweld â'r capel fal ag y bu, a dydi bobl ifaint ddim i weld yn poeni am eu bywyd ysbrydol, gan bod bywyd go-iawn gormod o hwyl am'wn i... trafoder!

Re: Ble mae'n pobol ifainc?

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 5:19 pm
gan Rhys Llwyd
Does dim un ateb. Ond rhan bwysig o'r ateb yw cydnabod fod Capel, ar y cyfan, yn boring iawn. Dwi yn Gristion o argyhoeddiad ond rwy dal i gael y rhan helaeth o gyfarfodydd Cristnogol yn ddiflas tost - mae dal lle i'r "bregeth" ond mae ishe hi fymryn yn fyrach ac fel rhan o wasanaeth ysgafnach mwy 'chat show hosty'. Wrth gwrs, mae diffyg 'dychweledigion' i'r Arglwydd (ac felly yr Eglwysi) yn broblem ysbrydol yn ei hanfod ond maen rhaid fod amherthnasoldeb gwasanaethau Cristnogol yn cyfrannu tuag at y niwl ysbrydol. Mae eglwysi sy'n llwyddo i ddennu pobl ifanc heddiw ac o ganlyniad rhai sy'n tyfu yn annelu eu gwasanaethau nid at yr aelodau sydd wedi bod yn aelodau ers 1872 (!) ond yn hytrach yn anelu eu gwasanaethau tuag at Generation X. Maen rhaid i eglwysi Cymraeg ddeall hyn, yr ateb cyntaf wrth gwrs yw i Flaenoriaid/Diaconiaid ildio ffordd i rai newydd ifanc - dydw i ddim yn disgwyl i Ddiaconiaid sy dros eu hanner cant gyflwyno trefn gwasanaeth newydd ond fe ddylie nhw symud i'r neulltu a gadael i fy nghenhedlaeth i wneud. Beth oedd oedran y diwygwyr mawr eto? Arloeswyr Anghydffurfiaeth Gymreig? Yn eu hugeiniau os cofiaf yn iawn.

Ni fydd diwygio cyfrwng gwasanaeth yn siwr o ddod a diwygiad fodd bynnag byddai'n tynnu i lawr un rhwystr - 1 i lawr 9999 i fynd :ofn:

Re: Ble mae'n pobol ifainc?

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 5:20 pm
gan ger4llt
Iawn...atab gan berson ifanc :?

Mi o'n i'n arfar mynd i'r capal yn eitha aml tan rhyw ddwy flynedd yn ol (15 oed ydw i gyda llaw).
Ac i fod yn onasd, ma na lot o ffactora sy' wedi fy nenu i ffwrdd, e.e.
'I bod hi ychydig yn ddiflas eistedd yn llonydd am hannar awr-awr yn gwrando ar bregethwr yn siarad am rhywbeth nad ydych chi yn ei ddallt, ac yn yr iaith mwya' ffurfiol ar lafar. 'Falla rheswm arall yw mai ychydig iawn o'n ffrindiau, heblaw am ferched 'falla, yn mynychu hefyd - ac mi fuaswch chi'n teimlo yn eitha' unig yng nghanol criw "capel". Efallai mai yn yr ardal i yn unig ma' hi, ond dwi'n gweld y gwenidiogion a'r pregethwyr yn...hen-ffasiwn efallai, a byddech chi'n teimlo yn anghyfforddus iawn yn eu cwmni. Er hynny, 'falla fod yr Ysgol Sul yn gwella rywfaint o'r bregeth. Mwy na thebyg, byswn i yn mynychu'r capal dim ond am yr Ysgol Sul, gan ei fod yn llawer mwy atyniadol. O ia, efallai'n bennaf, 'y mai i ydi o nad ydw i'n gallu codi'n ddigon cynnar :?

Dwi'n dalld gofidia' pobl, a dwi'n gweld o'n eitha trist hefyd, ond 'ma angan hwb go lew i geisio gwneud mynychu'r capal/eglwys yn llawer mwy atyniadol i'n cymdeithas ni. Wrth gyfri rwan, rhyw bedwar neu bump o'n ffrindia i sy'n mynychu'r capal yn gymharol aml h.y. falla unwaith neu ddwywaith y mis o bosib, a 'chydig yn amlach dros gyfnod y Pasg, Dolig a ballu.
'Dwi di meddwl dychwelyd fy hun de, ond dwimisho mynd drw rigmarol y gwenidog o "Weeel diolch yn faawr iawn i ti am ddychwelyd ar y diwrnod sanctaidd hwn i addoli gyda ni...rydwyf yn sicr y byddet wrth dy fodd yma..." :| A wedyn ryw gyhoeddiad a sefyll fynu a phob hen begor yn dod ataf fi efo ryw dap bach ar 'y mraich. :| Hmm.

(gyda llaw, dwi heb orliwio)

Re: Ble mae'n pobol ifainc?

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 5:29 pm
gan 7ennyn
Foel Gornach a ddywedodd:Pam nad yw'n pobol ifainc yn mynd i'r cwrdd/oedfa/addoliad?
Cwestiwn oesol, mi wn, ond er hynny byddai'n dda cael eich ymateb a'ch barn - pob un ohonoch.

Oherwydd eu bod nhw'n ddigon call i weld trwy'r twyll a rhagrith.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 5:49 pm
gan Rhys Llwyd
[Wedi dileu sylwad gan Sian a 7ennyn oherwydd ei fod yn troi yn daflu mwd - wedi gadael yr un uchod gan 7ennyn fel enghraifft o neges wrth-Gristnogol nad sy'n gyfraniad adeiladol i'r drafodaeth. Nid oedd sylwad 7ennyn yn PR da i'r lobi gwrth-Gristnogol - o esbonio dy safbwynt yn fanylach 7ennyn efallai y byddai yna esgor ar drafodaeth adeiladol. I ddweud y gwir mae rhagrithder llawer o Grefyddwyr "cristnogol" yn dipyn o turn-off i fi hefyd a dwi'n Gristion; felly dadleua yn llawnach i bobl fel Sian fedru ymateb yn llawn hefyd. - Cymdrolwr]

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 6:36 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae'n eithaf syml - dydi pobl ifanc ddim yn dueddol o gredu mewn Duw yn y ffordd draddodiadol. Mae'r rhesymau am hynny'n amrywiol, wrth gwrs, er hyd y gallaf i weld mae 'na fwyafrif ymhlith fy ffrindiau i sy'n credu mewn Duw ac yn ystyried eu hunain yn Gristionogion ddim yn mynychu'r eglwys na'r capel. I'r bobl hyn, ac i nifer na fyddant yn ystyried eu hunain yn Gristionogion (yn yr ystyr traddodiadol) nid Duw fel y cyfryw sy'n colli'i apel ond crefydd sefydliadol.

O bawb dw i'n nabod, lleiafrif y byddai'n ystyried eu hunain yn Gristionogion dw i'n meddwl, ond dw i'n meddwl y byddai mwyafrif yn dweud eu bod nhw "yn credu mewn rhywbeth uwch". Hwyrach bod hyn yn deillio o barodrwydd pobl i gwestiynu popeth a bod hyn yn cynnwys cwestiynu eu ffydd, ond hyd y gwelaf i nid y gred mewn Duw sy'n dirywio ond y ffyrdd y mae pobl yn dewis credu ynddo.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 7:06 pm
gan sian
I wneud pethau'n glir - does gen i ddim gwrthwynebiad i ymateb 7ennyn uchod. Mae'n ymateb dilys. Beth doeddwn i ddim eisiau oedd bod y drafodaeth yn mynd nol a mlaen - Rhagrithwyr sy'n mynd i'r capel - Nage ddim - gan dindroi heb fod o gymorth i neb.
Gorau oll os gallith y drafodaeth barhau - gyda chyfraniadau gan anffyddwyr, amheuwyr, Cristnogion sy'n anhapus â'r set-yp presennol a chrefyddwyr selog - hen ac ifanc.
Welais i ddim o ail gyfraniad 7ennyn - ond doeddwn i ddim yn bwriadu taflu mwd o gwbwl - dw i ddim yn gwbod a gafodd e/hi yr argraff honno.

Gyda llaw - dw i ddim yn siwr faint o ragrith sydd yn y capeli/eglwysi erbyn hyn - llai o gryn dipyn nag y buodd swn i'n tybio.
Dw i ddim yn meddwl y byse'r un diacon yn mynd trwy ddrws cefn y dafarn etc erbyn hyn!

Dw i'n deall safbwynt ger4llt yn iawn. Mae'n anodd gwybod lle mae tynnu'r llinell rhwng anwybyddu rhywun dierth yn y capel a gwneud gormod o ffys ohonyn nhw.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 7:43 pm
gan Dyfed
Cyfaddefiad i gychwyn - dwi ddim yn ifanc bellach, a dwi ddim yn meddwl imi fod yn ifanc erioed. :(

Wnes i erioed beidio mynd i'r capel pan yn fy arddegau - ac erbyn imi gyrraedd fy ugeiniau canol roeddwn wedi penderfynu bod yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Pan oeddwn i yng nghanol byd y capel traddodiadol rhaid imi ddweud fy mod i'n cael y cwbl yn eithaf diflas ar y cyfan. Dwi'n siwr imi allu diflasu fy hun sawl tro wrth bregethu! Felly mae angen newid y dull o gynnal oedfa ac ystwytho llawer iawn, iawn o'r dull traddodiadol (yr hen 'hymn sandwich').

Wedi dweud hyn i gyd, yn y bon ffydd bersonnol sy'n cyfrif, a chyfarfyddiad personnol a Duw real sy'n dod a ffydd i rhywun, dim unrhyw steil arbennig o addoli.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 8:21 pm
gan huwwaters
Dwi'n meddwl na'r prif beth yw'r UDA yn pedlo diwylliant o wario etc.. Mae hyn wedi arwain at gymdeithas sy'n rhoi gwerth aruthrol ar nwyddau ffisegol. Mae pawb yn disgwyl popeth ar blat, tŷ neis, car neis, dillad neis, achosion amal o gymdeithasu etc. gyda pres yn rhoi hwn oll. Gyda hyn yn digwydd maent yn anghofio testunau pwysicach mewn bywyd, maent yn disgwyl i bres neud popeth, ond pan mae rhywbeth fel eich iechyd yn mynd, mae pobol toc yn agor eu llygaid.

Chi ond angen edrych ar hanesion pobol tlawd o gwmpas y byd i weld praint mor cynnes ydynt, gan eu bod yn rhoi blaenoriaeth i frawdoliaeth yn hytrach na cael cyn gymaint o nwyddau a phosib. Arabwyr cyn i'r UDA sdicio'i thrwyn yn y Dwyrain Canol, gogledd Lloegr yn ystod yr oes diwydiannol, byd Waldo etc.