Mae Efengyl Iesu Grist yn fater o fywyd a marwolaeth.
Yn wyneb hynny alla i ddim gweld bod dadl wyddonol a lleoliad coc rhywun yn cyfri llawer.
Mae na dueddiad i ni fynd yn amddiffynnol, heb sylweddoli'n bod ni'n cydio mewn gwirionedd.
Does dim angen i Gristnogaeth redeg fel plentyn oddi wrth wybodaeth a doethineb; gawn ni adael i'r rheini gyfrannu at ein dealltwriaeth ni o ras a chyfiawnder y Duw absoliwt, does bosib?
Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw
a'm prynodd â thaliad mor ddrud;
fe saif ar y ddaear, gwir yw,
yn niwedd holl oesoedd y byd.
Er ised, er gwaeled fy ngwedd,
teyrnasu mae Mhrynwr a'm brawd
ac er fy malurio'n y bedd
ga'i weled Ef allan o'm cnawd.