sian, pam ddylai pobl hyd yn oed meddwl mynd i'r capel neu eglwys os yw nhw'n meddwl fod nhw'n bobl dda eisoes, a ddim yn bechaduriaid sydd angen gwaredwr?
gofynwch i rywun pam fod nhw ddim yn mynd i'r capel/eglwys ac fel arfer beth gewch chi fel ateb yw ateb hunan-gyfiawn e.e. dwi ddim angen, rwy'n berson da eisoes, dwi ddim angen pregethwr ddweud wrthyf beth i'w wneud ayyb.
Ymddengys fod doctrin mwyaf sylfaenol y Beibl ynglyn a'n stad bechadurus a fod ni angen gwaredwr wedi mynd ar goll yn meddylfryd cymaint o'n pobl ifanc, sy'n peri'r cwestiwn- gafodd ef erioed ei ddysgu yn y lle cyntaf?