Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Ap Corwynt » Gwe 25 Ion 2008 7:48 pm

dwi heb ddarllen yr edefyn hwn i gyd, ond fedra'i ddyfalu o'i gyfeiriad presennol ei fod yn cymryd ffurf arferol y fath drafodaethau ar y maes- diolch rooney ac eraill.

yn ol i'r cwestiwn felly..

dwi'n tybio fod diffyg pobl ifanc yn y capel yn ganlyniad i'r ffaith fod capeli'n 'relics' diwylliannol o derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. adlewyrchiad o ddiwylliant a fu ydynt- diwylliant yr ysgol sul, diwylliant y cymry cymraeg llengar hynny. mae'r capeli'n dirywio law yn llaw gyda chymunedau traddodiadol cymraeg eu hiaith mewn patrwm sy'n ddychrynllyd o debyg: bellach mae aelodaeth yr enwadau ar ei uchaf yn y 'fro gymraeg' dybiedig honno sy'n weddill, yn briwn lle bu eirin. mae gogledd orllewin cymru yn awr yn teimlo dylanwad tuedd ddiwylliannol wrthwynebus i ddiwylliant cymreig traddodiadol a ddechreuodd yn ne ddwyrain cymru dros ganrif ynghynt, a chanlyniad hynny oedd gwrthod y gymraeg yn yr ardaloedd hynny, wrth i bobl briodi'r cyfrwng (hy yr iaith) gyda'i ddiwylliant i'r fath raddau fel fod dyfodol y ddwy ynghlwm mewn priodas glec drychinebus. fel sefydliad cymdeithasol, mae'n allweddol i fudiadau eraill ddod i lenwi'r twll a adewir yn sgil hegemoni'r capeli dros orllewin cymru, a gorau po gyntaf y digwydd hynny. mae'r defnydd o'r gair 'capelwyr' yn allweddol i'n dealltwriaeth ni o'r 'capel'- ei ffurfwasanaeth hynafol, dull addoli ar offeryn cerddoriaeth boblogaidd y 19g, yr ieithwedd, fel ffenomen ddiwylliannol sydd ar ei goese olaf.

yr agwedd welwn ni at y capeli yw 'it says nothing to me about my life', chwedl y bardd mawr hwnnw, a dwi'n tueddu i gytuno. dewis diwylliant yw mynychu capel i lawer, rhywbeth hunaniaethol, neu batrwm oes. dwi'n ei chael hi'n annodd credu bydd sefydliadau sydd wedi ei chael hi'n drybeulig o annodd dygymod a'r ugeinfed ganrif yn medru symud i'r nesaf, ac ar y 'trends' presennol, dwi ddim rhagweld fydd na gapeli'n weddill yng Nghymru mewn ugain mlynedd, heblaw am rai unigolion penderfynnol a phengaled. dwi prin ishe mynd i'r capel. dwi'n eitha balch na fydd cenhedlaeth arall o gymry ifanc yn cael ei magu gyda thueddiadau crefyddol bisar cadw'r sabbath, llwyr ymwrthodiaeth, canu emynau tydyn hw ddim yn deall, a'r athrawiaeth hanfodol gymreig honno, cyfiawnhad trwy fynychiad.

beth ma hyn yn ei olygu i ni fel Cymry, yn gristnogion ac anffyddwyr? gai wneud un awgrymiad sydyn, sef fod hyn yn
gyfle i drafod cristnogaeth eto fel ffenomen bersonol, real, yn hytrach na thuedd diwylliannol. ma cymaint o'r hyn sy wedi ei drafod yn yr edefyn hwn yn 'backlash' yn erbyn diwylliant y capel, deddfoldeb, a phrofiadau negyddol o'r capel. mae hyn yn gyfle i ni gyd werthfawrogi unigrywedd cristnogaeth fel crefydd- hynny yw, nid yw'n mynnu ymlyniad at unrhyw ddeddf, trefn, ffurfwasanaeth, iaith, hil, ond yn hytrach mae'n cynnig rhodd rhad ac am ddim o gael dod i nabod iesu grist, duw yn ddyn a ddioddefodd i ddyn gael rhyddid go iawn.nid hollti blew deallusol neu diwinyddol mo hyn, nid 'lifestyle choice', ond y ffaith fod iesu go iawn yn fyw, yn cynnig cymod gyda duw, a chymod gyda'ch hunan, a bywyd yn ei holl gyflawnder.


ymddiheuriadau am bregethu.
gwd nawr.
Post tenebras lux
Ap Corwynt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Mer 26 Rhag 2007 1:00 am

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Positif80 » Gwe 25 Ion 2008 8:10 pm

Oes rhaid i bobl mynd i'r capel beth bynnag? Pam na all pobl addoli adref, er enghraifft? Oes rhaid cael pregethwr yn bressnol i fod yn agos i Dduw?

Fel dywedais o'r blaen, y rheswm nad ydw i'n mynd i'r capel yw fod awyrgylch y capel wedi fy nechrau ar daith lle troais yn raddol yn anffyddiwr. Nid oeddwn yn dysgu unrhyw beth adeiladol; ac er fod ambell i stori o'r Beibl yn ddiddorol, nid oedd neu quizzes ar Abraham a'r Iesu yn dal fy sylw. Hefyd, wnaeth ambell i beth eraill fy nhroi i ffwrdd o'r ddyn barfog o Nazareth, megis yr enghraifft isod:

Mae athro who shall remain nameless- ond Deian Evans oedd o - yn gofyn i bobl os ydynt ddim yn credu mewn Duw. Dim ond un hogyn sydd yn codi ei law, a mae gweddill y dosbarth yn edrych arno fel tasa fo wedi lladd puppy o flaen lleian. Gofynnodd Mr Evans pam nad oeddwn i yn credu ei dduw. Atebais trwy ddweud fy mod i'n amau'n gryf y buasa unrhyw dduw caredig yn gadael i blant cael eu saethu, fel oedd newydd digwydd yn Nunblane. Dywedodd yr athro os oeddwn yn baeo Duw am y ddigwyddiad erchyll. Nid oeddwn yn medru ateb oherwydd fy mod i'n reit nerfus, ond roedd yr athro wedi troi'n nghwestiwn rownd i siwtio ei ddadl ei hun - jest fel mae Satan yn gwneud, or so I'm told. Nid oeddwn yn gallu rhoi'r fae ar Dduw oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yna, ond roedd yr athro isio sathru ar unrhyw drafodaeth - fel mae llawer o bobl sydd mewn awdurdod isio gwneud pan mae rywun iau yn eu cwestiynu.

Ond fy mhrif reswm dros gadael cymuned y capelwyr oedd nad oedd gen i tamaid o diddordeb ynddyn nhw na'u gwasanethau hynafol, ac yn raddol collais diddordeb yn neges y Big Three.

Nid oes gen i broblem hefo pobl sydd isio mynd i wrando ar ryw ddyn/dynes yn pregethu am awr a chanu i rywbeth nad oes neb yn gwybod ei fod yn bodoli neu'i beidio; ond 'swn i'n feddwl mai esblygiad o ryw ffordd yw dirywiad Cristnogaeth. Mae pob ymerodraeth yn gorfen rywbryd, a mae'n siwr y bydd Cristnogaeth fel mae pobl yn ei adnabod rwan yn darfod mewn blynyddoedd i dddod
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan rooney » Sad 26 Ion 2008 12:01 am

Positif80 a ddywedodd:Oes rhaid i bobl mynd i'r capel beth bynnag? Pam na all pobl addoli adref, er enghraifft? Oes rhaid cael pregethwr yn bressnol i fod yn agos i Dduw?


nagoes, dim rhaid mynd i Gapel neu Eglwys. Dim angen pregethwr rhwng ti a Duw- ond ni angen canolwr: Iesu yw hwnnw, felly ni'n gweddio trwy enw Iesu. Ond ni yn greduriaid cymdeithasol, ac mae Cristnogion yn hoffi cyfarfod am gymredoriaeth, a chymun, a clywed gair Duw.

Fel dywedais o'r blaen, y rheswm nad ydw i'n mynd i'r capel yw fod awyrgylch y capel wedi fy nechrau ar daith lle troais yn raddol yn anffyddiwr. Nid oeddwn yn dysgu unrhyw beth adeiladol; ac er fod ambell i stori o'r Beibl yn ddiddorol, nid oedd neu quizzes ar Abraham a'r Iesu yn dal fy sylw.


beth am i ti edrych mewn i'r peth yn ffresh, mae llawer mwy i'r Beibl na dim ond straeon da, mae llawer mwy i Gristnogaeth na troi fyny i wasanaethau diflas. Mae gen ti'r we ar flaen dy fysedd. Edrycha ar y videos ar fy llofnod, gwylia sianeli Cristnogol ar sky ayyb.

Mae athro who shall remain nameless- ond Deian Evans oedd o - yn gofyn i bobl os ydynt ddim yn credu mewn Duw. Dim ond un hogyn sydd yn codi ei law, a mae gweddill y dosbarth yn edrych arno fel tasa fo wedi lladd puppy o flaen lleian. Gofynnodd Mr Evans pam nad oeddwn i yn credu ei dduw. Atebais trwy ddweud fy mod i'n amau'n gryf y buasa unrhyw dduw caredig yn gadael i blant cael eu saethu, fel oedd newydd digwydd yn Nunblane. Dywedodd yr athro os oeddwn yn baeo Duw am y ddigwyddiad erchyll.


Y broblem gyda'r gwrthwynebiadau "pam fod Duw heb stopio hyn, a'r llall, a'r arall" yw fod rhaid i bobl ddeall mae yn llygaid Duw mae llawer iawn o bethau yn ddrwg, yn bechadurus- a ni ddim bob amser yn cytuno! Felly'r cwestiwn i ti yw, os fuasai Duw yn rhoi stop ac yn difa popeth mae'n weld yn ddrwg... yna beth fyddai'n digwydd i ti, a fi?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Positif80 » Sad 26 Ion 2008 12:44 am

Rooney, ti'n gwneud yr un peth a fy athro RE/Abach; ti'n gofyn cwestiwn nad oes rhaid i mi ei hateb gan nad ydw i'n faeo Duw, oherwydd nad ydw i'n adnabod ei fodolaeth heblaw am ym mhennau pobl crefyddol. Troi y ddadl i rywbeth arall wnaeth yr athro i wneud ei hun edrych yn dda yn erbyn plentyn 15 oed - a dyna un o'r resymau am fy newis i beidio gwrando ar bobl sy'n dibynnu ar lyfr hynafol i esbonio pob dim. 'Roedd peidio mynychu'r capel lleol yn rhan naturiol o'r broses yna.

Mae'r rhesymau am y dirwyiad yn y niferoedd o gapelwyr yn syml: mae cymdeithas yn newid a 'does dim gymaint o bobl i gymeryd lle'r rhai sydd yn marw ac 'roedd o'r blaen. Dw i ddim wedi gwneud straw poll am y peth, ond 'swn i'n feddwl fod dipyn o bobl wedi cael y profiad o weld rywbeth oeddet ti'n credu oherwydd fod eich rhieni yn ddweud oedd o'n wir yn rywbeth hollol wahanol ac amherthnasol ti ar ol i chi aeddfedu ddigon i ddadansoddi'r peth. Mae rhai yn parhau i gredu oherwydd dyna beth maen nhw'n gweld yw'r esboniad gorau o hanes y byd ayyb; dydi eraill ddim.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Positif80 » Sad 26 Ion 2008 12:49 am

A gyda llaw Rooney, dw i wedi gwylio nifer o sianeli Cristnogol, fel God TV, Genesis, Revelation a Wonderful. Dydyn nhw ddim wedi fy mherswadio i ddilyn eu messiah nhw, a dydych chi ddim 'chwaith. Ond eto, efalla bod sianeli fel hyn yn rheswm am y dirywiad yn y niferoedd o gapelwyr/eglwyswyr - nid oes rhaid fynd i adeilad oer ac eistedd ar seddau caled i gael eich fix crefyddol, a mae'r neges yn cael ei cyflwyno mewn ffordd slick iawn. Ond eto, fel mae pobl capel ac eglwys i ryw radd neu'i gilydd, mae nhw ond ar ol eich pres yn y diwedd.

P.S. Mae pwerau hudolus Duw yn gallu iachau AIDS, cancr, lukeamia a llaero afiechydon eraill....ond dydyn nhw byth yn gallu iachau amputee. Oddiar y pwynt, braidd, ond dyna fo.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan huwwaters » Sad 26 Ion 2008 3:44 am

Positif80 a ddywedodd: Ond eto, fel mae pobl capel ac eglwys i ryw radd neu'i gilydd, mae nhw ond ar ol eich pres yn y diwedd.


Yr oedd Morrissey yn ei dallt hi'n iawn:

The Smiths - The Queen is Dead a ddywedodd:Past the Pub who saps your body
And the church who'll snatch your money
The Queen is dead, boys
And it's so lonely on a limb
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 26 Ion 2008 6:45 am

P.S. Mae pwerau hudolus Duw yn gallu iachau AIDS, cancr, lukeamia a llaero afiechydon eraill....

Wyt ti'n tybio bod "quack televengelist faith-healers" (ac ati) yn cynrychioli pob math o Gristnogaeth yn ogystal â chapelau Cymru. Dim cyswllt mewn yr achos hyn. Ti'n roi pawb yn yr un bwced. Ond sut bynnag efallai hwn ydy'r problem, mae pobl'n cymdeithasu capelau leol 'da chrap fel hynny...maen nhw'n ei wneud yn y ddinas 'ma wedi'r cyfan...

Mae rhai yn parhau i gredu oherwydd dyna beth maen nhw'n gweld yw'r esboniad gorau o hanes y byd ayyb

Ffordd o egluro sut mae'r byd wedi digwydd? Mae hynny'n isel ar y gofrestr ar ôl ymron pob Cristion dwi'n nabod, sy'n ei gymryd yn lai llythrennol. Wyt ti'n dal bod yn rhy eithafol mewn dy dybiau. Wrth gwrs mae 'na pobl fel hynny ambell waith, ond mewn cyd-destun fy nghymdogaeth (o leiaf), maen nhw'n anaml.

Mae pob ymerodraeth yn gorfen rywbryd, a mae'n siwr y bydd Cristnogaeth fel mae pobl yn ei adnabod rwan yn darfod mewn blynyddoedd i dddod

Mae pobl wedi bod yn dweud hynny ers blynyddoedd eisoes. Ers 1960/1970 (uchder meddwl anffyddiwr) ac ati, pan roedden nhw'n credu'n wir y fuasai Cristnogaeth yn ddarfod mewn dwy genhedlaeth. Ond mae'n dal byw, ac ar ôl be dwi'n gweld yn fy eglwys ('da llawer o bobl ifanc) dydi'r diwedd ddim yn fuan o gwbwl. A phwy sy'n gwybod, mae Cristnogaeth wedi bod yn anaml yn y gorffennol heb ddarfod (yn Ngwlad Pwyll er enghraifft, wedyn llywodraeth sy'n gorfodi anffyddiaeth). Dwi'm yn dweud nad oes gan Cristnogaeth unrhyw problemau ar y funud, jest dy fod di wedi bod rhy eithafol 'da dy ddatganiadau (eto ac eto).

Wel dwi'n cydnabod, ti'n iawn! Ti'n hollol iawn am bopeth wyt ti'n dweud, a merthyr wyt ti hefyd, gerbron yr athro drygioni. Mae gen i bob cydymdeimlad i ti yma. :| Gwastraff o amser ydy hwn, ceisio i drafod crap crefyddol ar y Maes 'da trolau teimladwy.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan eusebio » Sad 26 Ion 2008 9:33 am

rooney a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Yn ol Genesis 7:6, roedd Noah yn 600 mlwydd oed yn adeiladu'r arch. Wrth gwrs! Dim ond un o filoedd o wallau yn y stori.


gwall?- sut fydde ti'n gwybod hynny? ble mae dy dystiolaeth


Reit, felly ti angen tystiolaeth nad oedd Noah yn 600 mlwydd oed ... ond eto ti'n derbyn hyn heb unrhyw dystiolaeth ...

rooney a ddywedodd:wnaeth e ddim twyllo, yr oedd yn fab i Dduw, fe honodd hynny lawer o weithiau gan gynnwys i pontius pilat


od iawn ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan rooney » Llun 04 Chw 2008 10:44 pm

Positif80 a ddywedodd:A gyda llaw Rooney, dw i wedi gwylio nifer o sianeli Cristnogol, fel God TV, Genesis, Revelation a Wonderful. Dydyn nhw ddim wedi fy mherswadio i ddilyn eu messiah nhw, a dydych chi ddim 'chwaith.


beth, ti heb gael dy ddarbwyllo dy fod yn bechadur sydd angen gwaredwr?
petae Duw yn dy farnu yn ol sut rwyt wedi cadw'r deg gorchymun- fydde ti'n mynd i'r nefoedd neu uffern?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan sian » Llun 04 Chw 2008 11:08 pm

Fel y dywedodd rooney mewn edefyn arall "diversion o'r topic gwreiddiol".
Plîs cadwch at y pwnc.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron