Dan Dean a ddywedodd:Mae honni fod anffyddiaeth yn free-thinking a radical yn passey - dydio ddim mae e'n norm. Y free-thinkers heddiw ydy'r bobl sy'n mynd nol i edrych ar Iesu.
O brofiad personol gallaf ddweud bod yr uchod yn anghywir. Ar ol gwasanaethau boreuol yn yr ysgol, mynd i'r ysgol Sul, a hefyd ymuno efo CIC Llŷn tan oeddwn tua 14 oed roedd yn digon hawdd i mi fod yn Gristion am weddill fy oes. Ond nid yw wedi digwydd. A dwin cofio penderfynu hefyd drwy feddwl am y peth, a dod i'r casgliad nad wyf am ddilyn Cristnogaeth o hyn ymlaen - hyn cyn i mi glywedd am y term anffyddiaeth neu gwaith Dawkins. Meddyliais amdano fy hun ar ol cael digon o gyfle. I'r gwrthwyneb i ti, heb free thinking mae'n sicr fuaswn i yn Gristion heddiw.
Parthed y darn yr ydw i wedi ei danlinellu uchod. Yn ol y cefndir wyt ti wedi ei roi Dan, mae'r gosodiad yma yn dangos i mi y camddealltwriaeth llwyr ac elfenol sydd yn bodoli yn ein cymdeithas ynghylch 'Cristnogaeth'.
Nid 'Cristion' yw rhywun sydd yn mynychu cyfarfodydd, fel wyt ti wedi ei ddisgrifio uchod. Gelli adnabod 'Cristion' yn ol ei weithredoedd. Efallai y gelli ddweud y bydde ti wedi bod yn 'Gapelwr' am weddill dy oes (Capelwr yw'r term agosa y galla i feddwl am i ddisgrifio hyn), ond nid yw hyn yn golygu dy fod o reidrwydd am fod yn Gristion.
Y 'free thinking' radical yma yr honir gan sawl person sydd wedi eu harwain i gredu fod Capel yn boring ac fod aros adre yn y gwely gyda hangofyr neu chwarae'r Xbox yn ryddfrydol. Y gwir yw fod capel yn boring i lawer am amryw resymau. Nid yw'r ffaith fod pawb gyda'r gallu i ddarllen y beibl dros eu hunain yn 'radical' bellach. Nid yw'r ffaith fod y gweinidog ddim yn rhan o drefn ganolog y wladwriaeth yn radical bellach. Nid yw geiriau ein emynau yn torri tir newydd nac yn cynnig gwybodaeth newydd bellach, ac yn wir mae ieithwedd y mwyafrif yn amherthnasol. Problemau y capel yw hynny ac mae'n rhaid i'r capeli edrych yn galed ar eu hunen i geisio ateb yr her yma. Ond hefyd ry'n ni'n byw mewn oes pryd mae hyd sylw person lawer yn llai. prin iawn yw'r bobl all eistedd ar fainc bren mewn ystafell fawr oer yn gwrando ar bregeth am hanner awr. Roedd hynny yn eu hunan yn ryddfrydol gan mlynedd yn ol. Diawch, roedd mynd i'r capel yn weithred radical yng Nghymru dau gan mlynedd yn ol, ac mae mynd i'r capel mewn rhai gwledydd heddiw yn gallu golygu marwolaeth! DYNA yw radical.
Hynny yw mae 'trefn' y capel yn ein cymdeithas Gymreig ni wedi mynd yn sefydliadol, ac mae cicio yn erbyn y sefydliad yn rywbeth y mae'n rhaid i'r genhedlaeth ifanc ei wneud!! (diawl, rodd 'Mynd i'r Capel mewn Levis' gan y trwynau coch yn heriol ar ddechrau'r 80au!).
Fel y dywed 'Foel Gornach' onid gwir 'free thinking' fyddai mynychu'r capel a herio'r gweinidog? Mae sawl capel yn cynnal gwasanaethau trafod gyda holi ac ateb. Er mwyn bod yn radical go iawn oni ddylid mynychu'r gwasanaethau yma a herio'r drefn?
'Diogi' nid 'free thinking' ydyw fel arall!
Parthed y cwestiwn a holwyd ar y dechrau.
Fi'n sicr ddim yn gwbod beth yw'r ateb. Ond o geisio ei gyferbynu i fyd busnes, pam fod nad yw pobl ifanc yn bwyta Werthers Original, ac mai ond hen bobl sydd yn gwneud?
O ran Werthers eu hun, mae'r 'brand' yn cael ei gysylltu gyda y genhedlaeth hyn. Yng nghanol y 90au lluniodd y cwmni ymgyrch farchnata fawr yn seiliedig ar hyn gyda ryw hen ddyn yn bwydo Werthers yw wyr. Roedd Werthers yn ceisio 'macsimeiddio' (ych!) eu marchnad. Serch hynny erbyn y Naughties (2000) sylweddolodd y cwmni fod y 'brand' ddim yn 'frand' generic hen, ond yn hytrach yn cael ei chysylltu a chenhedlaeth arbennig, a chenhedlaeth oedd yn brysur farw. Wrth fod y genhedlaeth honno'n marw roedd eu gwerthiant yn disgyn. Roedd rhaid felly newid 'tac'. Bu iddyn nhw gynnal ymchwil farchnad eang i weld pwy ansoddeiriau a ddisgrifiadau oedd pobl yn ei gysylltu a'r brand 'Werthers'. Rhaid fod yr ymchwil eang yma wedi dod i fyny a geiriau fel 'teulu', 'dosarth gweithiol', ac ati, oherwydd mae eu hymgyrch marchnata diweddara nhw yn targedu sector hollol wahanol o'r gymdeithas i'r henoed gyda hysbys o dad yn dreifo Ford Escort gyda'i fab i chwarae pel-droed a'i fab yn disgrifio ei ffrind a tad ei ffrind a defnyddio y term modern 'virtual' a throi e ar ei ben i fod yn negyddol 'he's more of a virtual dad' ac ati ac ati.
Ta waeth, mae yna neges yn fan hyn i'r capeli. Mae'n rhaid edrych eto ar sut mae cysylltu gyda'r genhedlaeth newydd. Y Capel yw Werthers Original . Dyw Werthers ddim wedi newid eu cynhwysion - yr un cynnyrch sydd yno o hyd, ac yn wir yr un brandio o ran papur lapio ac ati, ond mae'r farchnad darged wedi newid.
Ar y cyfan rwy'n credu fod y mwyafrif ohonon ni yn gwbod yn iawn beth yw gwendidau y capeli, ond ein bod ni yn ofn cymryd y camau 'radical' i newid rhag pechu y to hyn. Wel, gellir ddim osgoi gwneud y penderfyniadau anodd am byth.
Mae 'brand'/'packaging' y capel yn eithrio rhan helaethaf y gymuned bellach. Pan adeiladwyd ein capeli ni, nhw oedd rhai o'r adeiladau mwyaf yn y gymuned, roedden nhw'n newydd, yn ffresh, yn 'radical' (!) ac roedd yna gryn 'prestige' yn perthyn iw mynychu (felly mynychu am y rhesymau anghywir, ond mater arall yw hynny). Mae hi yn union i'r gwrthwyneb bellach.
Rhaid sefydlu canolfanau Cristnogol lle gall yr holl enwadau gwrdd a'i ddefnyddio. Gellir wedyn gosod adeiladau'r capeli presenol allan fel fflatiau, swyddfeydd etc, a chael incwm cyson ohonyn nhw. gellir llunio y canolfanau newydd yn unol ag anghenion heddiw, ddim anghenion y G19eg.
Un syniad yn unig, ond arwynebol yw hynny. Fel y dywed Rhys, nid niferoedd sy'n mynychu sy'n cyfri.