dwi heb ddarllen yr edefyn hwn i gyd, ond fedra'i ddyfalu o'i gyfeiriad presennol ei fod yn cymryd ffurf arferol y fath drafodaethau ar y maes- diolch rooney ac eraill.
yn ol i'r cwestiwn felly..
dwi'n tybio fod diffyg pobl ifanc yn y capel yn ganlyniad i'r ffaith fod capeli'n 'relics' diwylliannol o derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. adlewyrchiad o ddiwylliant a fu ydynt- diwylliant yr ysgol sul, diwylliant y cymry cymraeg llengar hynny. mae'r capeli'n dirywio law yn llaw gyda chymunedau traddodiadol cymraeg eu hiaith mewn patrwm sy'n ddychrynllyd o debyg: bellach mae aelodaeth yr enwadau ar ei uchaf yn y 'fro gymraeg' dybiedig honno sy'n weddill, yn briwn lle bu eirin. mae gogledd orllewin cymru yn awr yn teimlo dylanwad tuedd ddiwylliannol wrthwynebus i ddiwylliant cymreig traddodiadol a ddechreuodd yn ne ddwyrain cymru dros ganrif ynghynt, a chanlyniad hynny oedd gwrthod y gymraeg yn yr ardaloedd hynny, wrth i bobl briodi'r cyfrwng (hy yr iaith) gyda'i ddiwylliant i'r fath raddau fel fod dyfodol y ddwy ynghlwm mewn priodas glec drychinebus. fel sefydliad cymdeithasol, mae'n allweddol i fudiadau eraill ddod i lenwi'r twll a adewir yn sgil hegemoni'r capeli dros orllewin cymru, a gorau po gyntaf y digwydd hynny. mae'r defnydd o'r gair 'capelwyr' yn allweddol i'n dealltwriaeth ni o'r 'capel'- ei ffurfwasanaeth hynafol, dull addoli ar offeryn cerddoriaeth boblogaidd y 19g, yr ieithwedd, fel ffenomen ddiwylliannol sydd ar ei goese olaf.
yr agwedd welwn ni at y capeli yw 'it says nothing to me about my life', chwedl y bardd mawr hwnnw, a dwi'n tueddu i gytuno. dewis diwylliant yw mynychu capel i lawer, rhywbeth hunaniaethol, neu batrwm oes. dwi'n ei chael hi'n annodd credu bydd sefydliadau sydd wedi ei chael hi'n drybeulig o annodd dygymod a'r ugeinfed ganrif yn medru symud i'r nesaf, ac ar y 'trends' presennol, dwi ddim rhagweld fydd na gapeli'n weddill yng Nghymru mewn ugain mlynedd, heblaw am rai unigolion penderfynnol a phengaled. dwi prin ishe mynd i'r capel. dwi'n eitha balch na fydd cenhedlaeth arall o gymry ifanc yn cael ei magu gyda thueddiadau crefyddol bisar cadw'r sabbath, llwyr ymwrthodiaeth, canu emynau tydyn hw ddim yn deall, a'r athrawiaeth hanfodol gymreig honno, cyfiawnhad trwy fynychiad.
beth ma hyn yn ei olygu i ni fel Cymry, yn gristnogion ac anffyddwyr? gai wneud un awgrymiad sydyn, sef fod hyn yn
gyfle i drafod cristnogaeth eto fel ffenomen bersonol, real, yn hytrach na thuedd diwylliannol. ma cymaint o'r hyn sy wedi ei drafod yn yr edefyn hwn yn 'backlash' yn erbyn diwylliant y capel, deddfoldeb, a phrofiadau negyddol o'r capel. mae hyn yn gyfle i ni gyd werthfawrogi unigrywedd cristnogaeth fel crefydd- hynny yw, nid yw'n mynnu ymlyniad at unrhyw ddeddf, trefn, ffurfwasanaeth, iaith, hil, ond yn hytrach mae'n cynnig rhodd rhad ac am ddim o gael dod i nabod iesu grist, duw yn ddyn a ddioddefodd i ddyn gael rhyddid go iawn.nid hollti blew deallusol neu diwinyddol mo hyn, nid 'lifestyle choice', ond y ffaith fod iesu go iawn yn fyw, yn cynnig cymod gyda duw, a chymod gyda'ch hunan, a bywyd yn ei holl gyflawnder.
ymddiheuriadau am bregethu.
gwd nawr.