Mali a ddywedodd:Pan es i adref dros y Nadolig diwethaf, cefais siom wrth ddeall nad oedd hyd yn oed gwasanaeth drama geni yn fy 'hen' Gapel. A dwi'n gwybod fod yr arferiad o fynd o gwmpas i ganu carolau wedi hen ddiflanu!
Wrth gwrs fasa gweithgareddau fel yr uchod ddim yn denu llawer iawn o bobl ifanc i'r capeli dyddiau yma , ac mi fasa nhw'n debygol o ddweud eu bod nhw'n boring.
boring? wel dwi ddim yn cytuno a hynny
mae pobl wrth eu bodd gyda stori'r geni. Sut all dathlu geni unrhywun, yn enwedig, Duw yn y cnawd, fod yn boring? Mae rhywbeth mawr yn bod ar eich capel/eglwys os nad yw nhw'n cael eu ysbrydoli gyda hyn.
a dyw pobl ddim angen bod yn Gristnogion i werthfawrogi'r stori yna
mae bod yn rhan o ddrama'r geni, boed chi'n angel, joseph, gwr doeth ayyb. yn aros gyda chi am byth
mae plant a rhieni wrth eu boddau gyda'r peth
does neb yn bored, pam na wnei di ddweud wrth dy gapel y tro nesaf ti adref "get a grip"