Tudalen 11 o 13

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 3:22 am
gan rooney
Mali a ddywedodd:Pan es i adref dros y Nadolig diwethaf, cefais siom wrth ddeall nad oedd hyd yn oed gwasanaeth drama geni yn fy 'hen' Gapel. A dwi'n gwybod fod yr arferiad o fynd o gwmpas i ganu carolau wedi hen ddiflanu!
Wrth gwrs fasa gweithgareddau fel yr uchod ddim yn denu llawer iawn o bobl ifanc i'r capeli dyddiau yma , ac mi fasa nhw'n debygol o ddweud eu bod nhw'n boring. :P


boring? wel dwi ddim yn cytuno a hynny
mae pobl wrth eu bodd gyda stori'r geni. Sut all dathlu geni unrhywun, yn enwedig, Duw yn y cnawd, fod yn boring? Mae rhywbeth mawr yn bod ar eich capel/eglwys os nad yw nhw'n cael eu ysbrydoli gyda hyn.
a dyw pobl ddim angen bod yn Gristnogion i werthfawrogi'r stori yna
mae bod yn rhan o ddrama'r geni, boed chi'n angel, joseph, gwr doeth ayyb. yn aros gyda chi am byth
mae plant a rhieni wrth eu boddau gyda'r peth
does neb yn bored, pam na wnei di ddweud wrth dy gapel y tro nesaf ti adref "get a grip"

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 4:04 am
gan Mali
rooney a ddywedodd: pam na wnei di ddweud wrth dy gapel y tro nesaf ti adref "get a grip"


:lol:
Ond i fod o ddifri rwan , dwn i ddim pryd y byddaf yn mynd i Gymru eto , ond pan af , digon o waith yr af i'r Capel eto. Gweld y lle yn reit ddigalon am nifer o resymau. A gyda llaw, fi sy'n defnyddio'r gair 'boring' . Sgin i ddim syniad o gwbwl be di'r prif reswm pam nad oes 'na ddrama geni yn y Capel . :?

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 2:04 pm
gan sian
rooney a ddywedodd:boring? wel dwi ddim yn cytuno a hynny


rooney - dydi Mali ddim yn dweud bod stori'r geni'n boring, dydi hi ddim yn dweud bod y Beibl yn boring - dweud mae hi bod y ffordd rydyn ni'n eu cyflwyno yn gallu bod yn boring.
Dw i wrth fy modd รข phregeth dda ond aml i waith dw i wedi mynd adre o'r capel a dweud "Diolch na ddaeth neb o'r newydd heno". Mae lot o bregethwyr wedi mynd yn complacent - does dim urgency yn eu neges - maen nhw'n bodloni ar gosi clustiau y gynulleidfa arferol. Mae hynny yn boring.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 3:30 pm
gan Positif80
Ond i fod yn deg, dydi'r Beibl ddim yn "ripping good read from cover to cover" o bell fffordd - yn enwedig y darnau sy'n rhestri pwy "begat" pwy.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 4:21 pm
gan rooney
sian a ddywedodd:Mae lot o bregethwyr wedi mynd yn complacent - does dim urgency yn eu neges - maen nhw'n bodloni ar gosi clustiau y gynulleidfa arferol. Mae hynny yn boring.


cytuno'n llwyr

Tybed faint o son sydd mewn pregethau am y canlynol:-

ail-ddyfodiad Crist
uffern
satan
creadaeth/esblygu
gwrywgydiaeth/anfoesoldeb rhywiol
bendithion a melltithion
barnedigaeth
efengylu
y groes & aberth gwaed
pechodau
marwolaeth
dilysrwydd Cristnogaeth vs credoau eraill & anffyddiaeth
ayyb

darllenais hwn ar y we, rhywbeth i'w ystyried bawb:-
Pastors have stopped preaching about sin, laws and hell. They preach about grace and love. The result-a generation of Christians who don't understand that they are offending God every day by their actions because those actions are in direct violation of God's laws.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 5:44 pm
gan dawncyfarwydd
O ran diddordeb, pam ti'n dewis rhoi'r ddau mewn bold isod fel rhai o hanfodion Cristnogaeth??

rooney a ddywedodd:ail-ddyfodiad Crist
uffern
satan
creadaeth/esblygu
gwrywgydiaeth/anfoesoldeb rhywiol

bendithion a melltithion
barnedigaeth
efengylu
y groes & aberth gwaed
pechodau
marwolaeth
dilysrwydd Cristnogaeth vs credoau eraill & anffyddiaeth

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 6:26 pm
gan Muralitharan
Rooney,

Nid yn unig yr wyt ti'n dewis hepgor 'Cariad' oddi ar dy restr o hanfodion yr Efengyl, ond mi rwyt ti'n beirniadu eraill am bregethu Efengyl Cariad!
"Y mwyaf o'r rhai hyn yw Cariad"... - wyt ti'n cofio honna? Mae hi yn y Beibl, mae'n debyg.

Gyda llaw, dwi'n dal i aros ateb i fy nghwestiwn ar edefyn arall ynglyn a pha ddulliau o ladd pobl sy'n dderbyniol gen ti ...

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 6:47 pm
gan rooney
dawncyfarwydd a ddywedodd:O ran diddordeb, pam ti'n dewis rhoi'r ddau mewn bold isod fel rhai o hanfodion Cristnogaeth??

creadaeth/esblygu
gwrywgydiaeth/anfoesoldeb rhywiol



dawn, gan mae nhw'n enghreifftiau o faterion ble mae dyn yn dilyn syniadau ei hun ac yn anwybyddu awdurdod yr ysgrythur, a dyna pam fod nhw'n faterion mor ddadleuol.

Muralitharan- nid rhestr o hanfodion yr Efengyl oedd hwnna. Trio meddwl am bethau sydd ddim yn cael eu siarad amdanynt ddigon yr oeddwn. Rwy'n gobeithio dy fod yn sylweddoli fod y gair "cariad" yn air sydd gyda llawer iawn o ystyron ac fod rhaid ystyried yn ofalus yr ystyr Beiblaidd gan mae'r byd wastad yn hoffi twistio'r ystyron.
Ystyria'r peth o safbwynt rhieni. Rhieni (a) byth yn ceryddu eu plant ac yn prynu anrhegion bob wythnos. Rhieni (b) byth yn prynu anrhegion ac yn ceryddu bob dydd. Rhieni (c) yn cerydd fel fo'r angen ac yn prynnu anrhegion i wobrwyo. Pwy sydd fwyaf cariadus?

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 7:10 pm
gan Muralitharan
Dwi'n hoffi meddwl fod cariad - rhywbeth cwbl ddiamwys ac absoliwt yn fy marn i - yn cael ei ddiffinio orau yn y Bregeth ar y Mynydd.
Ond, o ddifri' Rooney, dwi'n gobeithio nad yw pechodau pobl eraill yn gwneud i ti deimlo'n gwbl ddigalon am y byd. Tria edrych ar yr holl ddaioni sydd o'n cwmpas ni bob dydd hefyd. Mi rydw i'n credu o ddifri' fod esiampl yn llawer gwell na cherydd yn y pen draw.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 7:15 pm
gan Muralitharan
... o, ie, ac mi rydw i'n dal i aros ateb i'r cwestiwn arall hwnnw!