Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan ld2304 » Iau 24 Ion 2008 9:49 am

ld2304
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Llun 07 Ion 2008 8:13 pm

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan ceribethlem » Iau 24 Ion 2008 10:50 am

Mae ta pwy ysgrifennodd yr erthygl ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y Jedi a'r Sith mae'n amlwg.
teaching Darth Vader-style mind control


Even those tempted by the lure of the dark side like Darth Vader will be treated gently by the peace-loving church.

“If someone was going over we’d sit them down and have a talk and try and persuade them against it,” said Barney.

But if they get too out of hand – they’d be “disfellowshipped” or kicked out, he warned.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan rooney » Gwe 25 Ion 2008 3:27 am

crefydd ffals, rebelion yn erbyn Duw, fe ddeith y farnedigaeth os yw nhw'n hoffi'r peth neu beidio
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 25 Ion 2008 12:53 pm

Pobl ryfedd. End of.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan Llefenni » Gwe 25 Ion 2008 3:10 pm

Ydi bod yn gristion eithafol yn rhoi sense-of-humour bypass i rwyn tybed? ;-)

Di nhw'n neud dim drwg, neis i weld rw elfen ysbrydol ym mywyd rwyn o gwb dyddie ma - dio'm fel bo nhw am ddwyn pres gen bobl á la Scientology ydi o?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan Macsen » Gwe 25 Ion 2008 3:19 pm

Dangos sut mae'r pethau yma'n dechrau tydi. Mewn ryw 2000 mlynedd bydd un o ddisgynyddion Rooney yn dyfynnu Yoda ar Maes-z.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan Foel Gornach » Sad 26 Ion 2008 5:02 pm

Macsen a ddywedodd:Dangos sut mae'r pethau yma'n dechrau tydi. Mewn ryw 2000 mlynedd bydd un o ddisgynyddion Rooney yn dyfynnu Yoda ar Maes-z.


Yr oedd cannoedd o gwltiau tebyg i hyn, a rhai ohonynt yn llawer mwy 'weird', yn bodoli 2,000 o flynyddoedd yn ol yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Parhaodd y mwyafrif llethol ohonynt am ychydig genedlaethau yn unig. Mae darllen amdanynt, fel am y brodyr yma yng Nghaergybi, yn gwneud i ddyn chwerthin, fel y mae'r sylw hwn gan Macsen.

Pwynt difrifol: er i'r Gristnogaeth gael ei hystyried fel cwlt Iddewig gan yr awdurdodau am ganrifoedd, yr oedd y ffaith bod y ffydd wedi ei seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol yn help i argyhoeddi pobol o'i gwirionedd. Nid ffrwyth dychymyg dyn yw Iesu, ond y datguddiad o Dduw mewn person cig a gwaed a laddwyd gan yr awdurdodau ac a gyfodwyd gan Dduw.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan Positif80 » Sad 26 Ion 2008 6:12 pm

Sut ydach chi'n gwybod am ffaith mai nid dychymyg dyn yw'r Iesu? Efalla'n wir fod dyn cig a gwaed o'r enw Iesu wedi bodoli, ond dydi hynna ddim yn profi unrhyw beth o ran os oedd y dyn yma'n fessiah. Mae digon o try hanes wedi dweud mai nhw oedd ryw fath o broffwyd Duw ar y ddaear - enghraifft amlwg arall yw Mohammed, wrth gwrs - ond oni bai fod rywun yn dyfeisio peiriant amser, ni fyddem yn gwybod os oeddent wir wedi'u hanfon i'r ddaear gan Dduw.

'Sdim ots gen i os ydi'r sci-fi geeks yn dilyn ei crefydd eu hunain. Dydi nhw ddim yn credu fod Luke Skywalker yw'r Iesu - mae nhw jest yn dilyn code of conduct y Jedi o'r hyn dw i'n ei ddaeall. A mae'n siwr fod nifer helaeth ohonynt wedi ymuno am laff. cyn belled a bod nhw ddim yn ceisio fy mherswadio i ymuno, dw i'n berffaith hapus i beidio beirnadu eu crefydd.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan Macsen » Sad 26 Ion 2008 6:24 pm

Hyd yn oed o safbwynt Cristnogol, mae esiamplau fel Mohammed, Buddha, Guru Nanak, Lao-Tze, Haile Selassie, Elvis, ayyb... yn dangos sut mae modd dechrau crefyddau. Dio'm o bwys os ydi nhw'n bobol crfyddol ai peidio. Jesd un 'proffwyd' arall yw George Lucas sydd wedi cyflwyno crefydd arall i'r byd. Falle nad dyna ei fwriad, ond mae'n debyg na fyddai'r mwyafrif o'r enwau uchod yn cytuno gyda'r dehongliad cyfoes o'u neges, chwaith.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

Postiogan ceribethlem » Sad 26 Ion 2008 8:56 pm

Positif80 a ddywedodd:'Sdim ots gen i os ydi'r sci-fi geeks yn dilyn ei crefydd eu hunain. Dydi nhw ddim yn credu fod Luke Skywalker yw'r Iesu
Ti'n berffaith iawn. Anakin Skywalker oedd yr un. Fe, yn y pendraw, ddaeth a chydbwysedd i'r Bydysawd a'r Grym
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron