Tudalen 2 o 2

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

PostioPostiwyd: Sad 26 Ion 2008 9:23 pm
gan dewi_o
Gwelais i'r erthygl ar Wales Today dau foi yn taro ei gilydd gyda cleddyfau plastig. Lle mae nhw di cael yr arian i ddechrau eglwys a pwy yn y byd sy oddifri ynglun a crefydd Jedi a ddechreuodd o ffilm ffuglen.

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

PostioPostiwyd: Llun 04 Chw 2008 11:13 pm
gan rooney
Positif80 a ddywedodd:Sut ydach chi'n gwybod am ffaith mai nid dychymyg dyn yw'r Iesu? Efalla'n wir fod dyn cig a gwaed o'r enw Iesu wedi bodoli, ond dydi hynna ddim yn profi unrhyw beth o ran os oedd y dyn yma'n fessiah.


mae modd testio os fe oedd y messiah. Roedd y messiah i gyflawni'r proffwydoliaethau, canoedd ohonyn nhw. Fe wnaeth Iesu.

Re: Eglwys Jedi Knight yng Nghaergybi

PostioPostiwyd: Maw 05 Chw 2008 8:57 am
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:Sut ydach chi'n gwybod am ffaith mai nid dychymyg dyn yw'r Iesu? Efalla'n wir fod dyn cig a gwaed o'r enw Iesu wedi bodoli, ond dydi hynna ddim yn profi unrhyw beth o ran os oedd y dyn yma'n fessiah.


mae modd testio os fe oedd y messiah. Roedd y messiah i gyflawni'r proffwydoliaethau, canoedd ohonyn nhw. Fe wnaeth Iesu.
Fe wnaeth Anakin Skywalker gyflawni'r proffwydoliaeth a dod a chydbwysedd i'r Grym. Wedodd Yoda bydde fe yn.