Ffydd sydd gan y ddau ohonom. (Er bod mwy o sail i'm ffydd i).
Eh? Sut?
Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Ffydd sydd gan y ddau ohonom. (Er bod mwy o sail i'm ffydd i).
Ffydd sydd gan y ddau ohonom. (Er bod mwy o sail i'm ffydd i).
huwwaters a ddywedodd:Nadi siwr, a dwi'n falch iawn fod "esblygwyr" ddim yn cyfaddef hwne, achos fod theoriau esblygu yn egluro esblygu.
Hen cop-out o ddadl nihilsm yw hwnna. Mae prawf gwyddonol yn un reit syml yn y bon. Bydd un perosn wedi gwneud arbrawf a chasglu canlyniadau bydd yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Yna fe fydd yn ailadrodd yr un dull a chael yr un canlyniadau (o fewn cyffuniau ystadegol). Y cam nesaf bydd cyflwyno'r papur lle bydd gwyddonwyr eraill yn gallu ailadrodd ei ddull eto, gan gael yr un canlyniadau. Gelwir y broses yma'n Peer review, a dyma lle mae'n cael ei dderbytn fel prawf gwyddonol fod rhywbeth yn wir.Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae unrhyw ddadl sy'n cynnwys yr honiad "mae gwyddoniaeth wedi profi" yn fethedig ar sail wyddonol!
Oni bai dy fod ti dy hun wedi gwneud yr arbrawf ac wedi gweld canlyniad y prawf yr wyt yn rhoi ffydd yng ngwaith un arall. Dwyt ti ddim yn gwybod rwyt yn credu.
Nid dadl ar sail gwyddonol yw peidio lladd cadnoed. Mater o ffydd yw hynny. Mae ffydd gan ddigon o bobl i'r Blaid Lafur i'w wthio drwy San Steffan. Wy ddim yn deall yn union sut byddet ti ishe i dy ffydd i effeithio ar y llywodraeth, beth wyt ti'n ei awgrymu?Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae gennyf ffydd mewn Duw sy'n dweud fy mod yn gadwedig trwy ei ras ac aberth ei Fab. Mae'r gan y dyn drws nesaf ffydd yn yr ymgyrchwyr sy'n dweud bod hela llwynogod yn greulon (er na welodd o erioed llwynog na helfa).
Ffydd sydd gan y ddau ohonom. (Er bod mwy o sail i'm ffydd i).
Pam bod fy ffydd i yn cael ei ystyried fel ofergoeledd gwirion yn y byd sydd ohoni, ond bod ei ffydd ef yn ddigon cadarn i newid deddf gwlad?
ceribethlem a ddywedodd: Mae prawf gwyddonol yn un reit symnl yn y bon. Nydd un perosn wedi gwneud arbrawf a chasglu canlyniadau bydd yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Yna fe fydd yn ailadrodd yr un dull a chael yr un canlyniadau (o fewn cyffuniau ystadegol). Y cam nesaf bydd cyflwyno'r papur lle bydd gwyddonwyr eraill yn gallu ailadrodd ei ddull eto, gan gael yr un canlyniadau. Gelwir y broses yma'n Peer review, a dyma lle mae'n cael ei dderbytn fel prawf gwyddonol fod rhywbeth yn wir.
rooney a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd: Mae prawf gwyddonol yn un reit symnl yn y bon. Nydd un perosn wedi gwneud arbrawf a chasglu canlyniadau bydd yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Yna fe fydd yn ailadrodd yr un dull a chael yr un canlyniadau (o fewn cyffuniau ystadegol). Y cam nesaf bydd cyflwyno'r papur lle bydd gwyddonwyr eraill yn gallu ailadrodd ei ddull eto, gan gael yr un canlyniadau. Gelwir y broses yma'n Peer review, a dyma lle mae'n cael ei dderbytn fel prawf gwyddonol fod rhywbeth yn wir.
yr wyt yn disgrifio operational science fan hyn nid historical science, gan mae'n siwtio dy ddadl i wneud hynny. Beth ti ddim yn egluro yw fod pethau fel esblygu cell-i-ddyn, tarddiad bywyd ddim yn dilyn y fethedoleg yma gan nad yw erioed wedi cael ei weld ac felly historical science yw, sydd yn cymryd ffydd gwahanol i'r ffydd sydd gen rhywun yn deillio o operational science. Mae'r gwyddonwyr anffyddiol yn hoff iawn o gymysgu'r ddau beth er mwyn camarwain pobl mewn modd subtle iawn.
Mwy fan hyn
http://www.answersingenesis.org/article ... is-science
Dyma ti'n mynnu fy mod yn anffyddiwr eto. Gwyddonydd ydwyf yn ol fy ngradd a'm gwaith. Does gen ti ddim syniad am fy ffydd.rooney a ddywedodd:Mae'r gwyddonwyr anffyddiol yn hoff iawn o gymysgu'r ddau beth er mwyn camarwain pobl mewn modd subtle iawn.
ceribethlem a ddywedodd:O ran esblygiad, mae Darwin wedi llunio'r ddamcaniaeth. Mae'r data sydd wedi ei gasglu ers hynny yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Felly mae'r canlyniadau a gesglir o'r maes yn cefnogi'r damcaniaeth. Yn ogystal a hyn mae data mwy modern (megis DNA) wedi cael ei ddefnyddio, ac mae hwnnw hefyd yn cefnogi'r data.
rooney a ddywedodd:mae llawer iawn o bobl, yn cynnwys pobl sydd wedi cael hyfforddiant gwyddonol yn anghytuno
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai