Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

Postiogan ceribethlem » Sad 26 Ion 2008 10:56 am

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd: Mae prawf gwyddonol yn un reit symnl yn y bon. Nydd un perosn wedi gwneud arbrawf a chasglu canlyniadau bydd yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Yna fe fydd yn ailadrodd yr un dull a chael yr un canlyniadau (o fewn cyffuniau ystadegol). Y cam nesaf bydd cyflwyno'r papur lle bydd gwyddonwyr eraill yn gallu ailadrodd ei ddull eto, gan gael yr un canlyniadau. Gelwir y broses yma'n Peer review, a dyma lle mae'n cael ei dderbytn fel prawf gwyddonol fod rhywbeth yn wir.


yr wyt yn disgrifio operational science fan hyn nid historical science, gan mae'n siwtio dy ddadl i wneud hynny. Beth ti ddim yn egluro yw fod pethau fel esblygu cell-i-ddyn, tarddiad bywyd ddim yn dilyn y fethedoleg yma gan nad yw erioed wedi cael ei weld ac felly historical science yw, sydd yn cymryd ffydd gwahanol i'r ffydd sydd gen rhywun yn deillio o operational science. Mae'r gwyddonwyr anffyddiol yn hoff iawn o gymysgu'r ddau beth er mwyn camarwain pobl mewn modd subtle iawn.
Mwy fan hyn
http://www.answersingenesis.org/article ... is-science

Mae'r broses gwyddonol o Peer review yn cael ei ddefnyddio gydag esblygiad hefyd gyda llaw, anghofies i ddweud hynny yn fy nghyfraniad olaf. Dyna'r cyfan sydd gen i i'w ddweud am esblygiad oni bai bod cwestiwn newydd amdani. Os yw'r un cwestiynau yn cael eu gosod byddaf yn eu hanwybyddu, gan fod yr edefyn yma wedi mynd mlaen hyd syrffed unwaith yn barod.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

Postiogan ceribethlem » Sad 26 Ion 2008 11:08 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Ym mhumdegau'r ganrif ddiwethaf cafodd nifer o wyddonwyr eu talu arian mawr am brofi - tu hwnt i bob amheuaeth, bod ysmygu yn llesol i'r iechyd.
Pwynt diddorol HRF, ac yn un sy'n codi'r gwendidau sydd gyda ymchwilio gwyddonol. Mae gwyddoniaeth ond yn gweithio a phrofi tu hwnt i bob amheuaeth os mae ond un newidyn sydd yna i'w brofi. Mae gormod o gemegau yn bodoli mewn tobacco i fedru ymchwilio i effaith un ohonynt yn unig. Yn yr un ffordd sut mae diffinio "iechyd", mae hwn hefyd yn cynnwys llawer gormod o ffactorau. Felly mae'n bosib i ymchwilio i fewn iddi gan ddarganfod lles i'r iechyd yn rhywle, a chanolbwyntio ar hwnnw yn unig, ond ffug-wyddoniaeth yw hwnnw, nid gwyddoniaeth pur.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Yn y cyfnod presennol mae gwyddonwyr yn profi, (yn ôl eu tal, hyd y gwelaf i) bod cynhesu byd eang yn bodoli, neu nad ydy'n bodoli.
O'r un wy'n ddarllen am cynhesu byd-eang, does neb yn gwadu ei fod yn digwydd gan ei fod yn broses naturiol sydd wedi ers cychwyn y ddaear. Y ddadl yw a yw effaith dyn ar yr amgylchedd yn cynyddu'r broblem.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Bod ynni niwclear yn dda, neu ei fod yn ddrwg.
Mae'r ddau yn wir yn dibynnu ar ba ochr wyt ti. Mae eni niwclear yn beth da gan ei fod yn cynhyrchu llawer o drydan ac yn para am hydoedd, unwaith mae'r pwerdy yn cychwyn mae'r costau o gynhyrchu trydan yn lleihau yn aruthrol. Serch hynny mae yna ddadl gref yn erbyn egni niwclear gan fod sgil effeithau'r ymbelydredd mor wael ac fod yr ymbelydredd hwnnw yn para am gymaint o flynyddoedd. MAe cael gwared o'r gwastraff yn broblem gan fod deunydd ymbelydrol,, wrth ei natur, yn aniogel.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Bod difa'r broc yn ateb i ladd TB mewn gwartheg, neu nad oes cysylltiad rhwng TB gwartheg a TB moch daear.
Mae'n eithaf sicr fod yna gysylltiad o rhyw fath gan fod y TB yn bodoli yn y ddau rhywogaeth. Y cwestiwn yw a fydd difa moch daear yn achub y gwartheg. Ac mae hwnnw hefyd yn gwestiwn cymleth, ac yn anodd i'w brofi yn wyddonol, gan fod cymaint o ffactorau gwahanol yn bodoli mewn ecosystem. Gan fod moch daear yn diriogaethol, a fydd moch daear newydd yn dod i'r ardal os yw'r brodor moch daear yn cael eu difa? OS byddant bydd hwn yn fodd o ledaenu'r haint yn hytrach na'i chyfangu. Ydyw e'n gywir i ddifa pob mochyn daear? Anhebyg gan fod rol pwysig ganddynt (fel pob rhywogaeth) yn yr ecosystem lleol.

Difyr iawn HRF.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai