Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

Postiogan Reufeistr » Iau 24 Ion 2008 11:05 am

Delwedd

Delwedd

Sori am biso ar eich sglodion.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 24 Ion 2008 11:08 am

A dy bwynt yw?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Reufeistr » Iau 24 Ion 2008 11:10 am

Mai nid y gwirionedd yw'r hyn sy'n cael ei ddysgu yn y Beibl.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 24 Ion 2008 11:33 am

Reufeistr a ddywedodd:Mai nid y gwirionedd yw'r hyn sy'n cael ei ddysgu yn y Beibl.


Mae dod ag esblygiad i fewn i'r sgwrs ddim fan hyn nac fan draw achos mae yna rai Cristnogion sy'n credu mewn esglygiad a rhai sy ddim. Beth wnei di am y realiti ysbrydol? Dydy flachio lluniau o ddeinasoriaid i fyny ddim mynd i lwyddo i osgoi wynebu her ysbrydol Cristnogaeth. Dwyt ti ddim yn free-thinker os wyt ti'n gadael i wyddoniaeth reoli yr hyn wyt ti'n credu am bethau ysbrydol. Mae hynny fel dweud y bod yn rhaid i Loegr guro Cymru ar y cae Rygbi bob tro achos fod yna fwy o Saeson na Chymru. Nid yw gem rygbi ddim byd i wneud a maint y gwledydd mae e i wneud a'r rygbi yn yr un ffordd a nad yw'r sffer ysbrydol ddim byd i wneud a gwyddoniaeth, maen annibynol o wyddoniaeth felly rhaid i ti fod yn free-thinker OND oherwydd dy fod di'n rhan o gyfundrefn y mwyafrif anffyddiol heddiw ti'n cael dy ddallu a dwyt ti methu free-thinkio am bethau ysbrydol heb resortio i fflachio gwyddoniaeth yn ein gwynebau.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Reufeistr » Iau 24 Ion 2008 11:58 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Reufeistr a ddywedodd:Mai nid y gwirionedd yw'r hyn sy'n cael ei ddysgu yn y Beibl.


Mae dod ag esblygiad i fewn i'r sgwrs ddim fan hyn nac fan draw achos mae yna rai Cristnogion sy'n credu mewn esglygiad a rhai sy ddim.

Felly dosna'm math o gonfflict rhwng y syniad o esblygiad a'r hyn ma'r Beibl yn ei ddysgu felly? :rolio:

Rhys Llwyd a ddywedodd: Beth wnei di am y realiti ysbrydol? Dydy flachio lluniau o ddeinasoriaid i fyny ddim mynd i lwyddo i osgoi wynebu her ysbrydol Cristnogaeth.Dwyt ti ddim yn free-thinker os wyt ti'n gadael i wyddoniaeth reoli yr hyn wyt ti'n credu am bethau ysbrydol.

Nid oes angen i wyddoniaeth my 'mherswadio' fi i goelio ynddo, mae o mor blaen ac amlwg a choncrit. Dweda i mi sut yn union ellith Y Beibl a Gwyddoniaeth cyd-fynd law-yn-llaw pan ma'r Beibl yn honi fod y byd ond ychydig o filoedd o flynyddoedd o oed?
A beth yn union yw "her ysbrydol Cristnogaeth"? Mwy o brawf o'r dull bygythiol y mae'r crefydd gwallgo ma'n mynd o gwmpas ei betha.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae hynny fel dweud y bod yn rhaid i Loegr guro Cymru ar y cae Rygbi bob tro achos fod yna fwy o Saeson na Chymru..

Ti'n dechra myyynd....

Rhys Llwyd a ddywedodd: Nid yw gem rygbi ddim byd i wneud a maint y gwledydd mae e i wneud a'r rygbi yn yr un ffordd a nad yw'r sffer ysbrydol ddim byd i wneud a gwyddoniaeth, maen annibynol o wyddoniaeth felly rhaid i ti fod yn free-thinker OND oherwydd dy fod di'n rhan o gyfundrefn y mwyafrif anffyddiol heddiw ti'n cael dy ddallu a dwyt ti methu free-thinkio am bethau ysbrydol heb resortio i fflachio gwyddoniaeth yn ein gwynebau.

Dwi'm yn rhan o unrhyw gyfundrefn! Ffoc secs, nag yw hyn yn hollol amlwg? Oni meddwl mai Cristnogaeth/Y Beibl oedd y ddadl yma amdan, nid ysbrydolrwydd yn gyffredinol. Ellith bob person fod yn berchen ar rhyw fath o ysbrydolrwydd, neu weithiau mae o'n rhywbeth mae pobol yn ei ddarganfod yn araf bach trwy neud casgliadau eu hunain am eu profiadau ar y byd, DOES DIM ANGEN CYFUNDREFN O UNRHYW FATH, ac i mi, Cristnogaeth (ymysg lawer o grefyddau eraill) yw'r "cyfundrefn".
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan Reufeistr » Iau 24 Ion 2008 12:00 pm

Ond eto, be dwi'n wbod, mae blynyddoedd o ddarllen llyfrau, siarad a phobol, a meddwl drosta fi fy hyn wedi fy nallu rhag y gwirionedd. Dwi'n teimlo 'tha rêl pwped.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

Postiogan rooney » Gwe 25 Ion 2008 3:07 am

Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan rooney » Gwe 25 Ion 2008 3:10 am

Reufeistr a ddywedodd:Felly dosna'm math o gonfflict rhwng y syniad o esblygiad a'r hyn ma'r Beibl yn ei ddysgu felly? :rolio:


nid yw theoriau esblygiad yn egluro tarddiad
wneith esblygwyr byth gyfaddef hynny. Gwn, gan rwyf wedi trafod hyn gyda canoedd o esblygwyr ond nhw byth wedi cyfaddef heb i mi ofyn.
Mae oblygiadau mawr os gwnaeth Duw "ddefnydio" esblyg neu ddim. Mae'r eglwysi wedi cael eu dychyrn gan y "gwyddonwydd" anffyddiol ormod
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

Postiogan huwwaters » Gwe 25 Ion 2008 3:45 am

rooney a ddywedodd:nid yw theoriau esblygiad yn egluro tarddiad
wneith esblygwyr byth gyfaddef hynny. Gwn, gan rwyf wedi trafod hyn gyda canoedd o esblygwyr ond nhw byth wedi cyfaddef heb i mi ofyn.


Nadi siwr, a dwi'n falch iawn fod "esblygwyr" ddim yn cyfaddef hwne, achos fod theoriau esblygu yn egluro esblygu. Tydi theori relativity ddim yn egluro resbiradaeth yn y corff.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 25 Ion 2008 4:46 am

Mae unrhyw ddadl sy'n cynnwys yr honiad "mae gwyddoniaeth wedi profi" yn fethedig ar sail wyddonol!

Oni bai dy fod ti dy hun wedi gwneud yr arbrawf ac wedi gweld canlyniad y prawf yr wyt yn rhoi ffydd yng ngwaith un arall. Dwyt ti ddim yn gwybod rwyt yn credu.

Ym mhumdegau'r ganrif ddiwethaf cafodd nifer o wyddonwyr eu talu arian mawr am brofi - tu hwnt i bob amheuaeth, bod ysmygu yn llesol i'r iechyd.

Yn y cyfnod presennol mae gwyddonwyr yn profi, (yn ôl eu tal, hyd y gwelaf i) bod cynhesu byd eang yn bodoli, neu nad ydy'n bodoli. Bod ynni niwclear yn dda, neu ei fod yn ddrwg. Bod difa'r broc yn ateb i ladd TB mewn gwartheg, neu nad oes cysylltiad rhwng TB gwartheg a TB moch daear.

Nid oes gennyf mo'r amser, na'r adnoddau, na'r gallu, na'r awydd i brofi neu wrth brofi'r holl bethau hyn fy hun. Os am fynegi barn ar y pynciau hyn mae'n rhaid imi ddibynnu ar ffydd ym marn y naill wyddonydd neu'r llall.

Mae gennyf ffydd mewn Duw sy'n dweud fy mod yn gadwedig trwy ei ras ac aberth ei Fab. Mae'r gan y dyn drws nesaf ffydd yn yr ymgyrchwyr sy'n dweud bod hela llwynogod yn greulon (er na welodd o erioed llwynog na helfa).

Ffydd sydd gan y ddau ohonom. (Er bod mwy o sail i'm ffydd i).

Pam bod fy ffydd i yn cael ei ystyried fel ofergoeledd gwirion yn y byd sydd ohoni, ond bod ei ffydd ef yn ddigon cadarn i newid deddf gwlad?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai