Tudalen 2 o 3

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 9:34 am
gan Mr Gasyth
Ffydd sydd gan y ddau ohonom. (Er bod mwy o sail i'm ffydd i).

Eh? Sut?

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 10:59 am
gan Reufeistr
Ffydd sydd gan y ddau ohonom. (Er bod mwy o sail i'm ffydd i).

Tyd off dy geffyl uchel. Ti'n dangos gwir liwiau chdi a dy 'fath' wan. "Dani yn well na chi" - oedd y sylwad yna'n i olygu ynde?

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 12:02 pm
gan Gideon
"Reufeistr", gobeithio dy fod yn hyddysg yn Natguddiad Ioan, achos mi fyddi di angen bod.

Re: Ble mae'n pobol ifainc? [diffyg pobl ifanc yn y Capel]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 3:40 pm
gan rooney
huwwaters a ddywedodd:Nadi siwr, a dwi'n falch iawn fod "esblygwyr" ddim yn cyfaddef hwne, achos fod theoriau esblygu yn egluro esblygu.

Mae nhw'n hapus iawn i gadw'r cyhoedd yn y tywyllwch am ddiffygion theoriau esblygu a'r ffaith nid yw'n egluro tarddiad.

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 4:25 pm
gan ceribethlem
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae unrhyw ddadl sy'n cynnwys yr honiad "mae gwyddoniaeth wedi profi" yn fethedig ar sail wyddonol!

Oni bai dy fod ti dy hun wedi gwneud yr arbrawf ac wedi gweld canlyniad y prawf yr wyt yn rhoi ffydd yng ngwaith un arall. Dwyt ti ddim yn gwybod rwyt yn credu.
Hen cop-out o ddadl nihilsm yw hwnna. Mae prawf gwyddonol yn un reit syml yn y bon. Bydd un perosn wedi gwneud arbrawf a chasglu canlyniadau bydd yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Yna fe fydd yn ailadrodd yr un dull a chael yr un canlyniadau (o fewn cyffuniau ystadegol). Y cam nesaf bydd cyflwyno'r papur lle bydd gwyddonwyr eraill yn gallu ailadrodd ei ddull eto, gan gael yr un canlyniadau. Gelwir y broses yma'n Peer review, a dyma lle mae'n cael ei dderbytn fel prawf gwyddonol fod rhywbeth yn wir.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae gennyf ffydd mewn Duw sy'n dweud fy mod yn gadwedig trwy ei ras ac aberth ei Fab. Mae'r gan y dyn drws nesaf ffydd yn yr ymgyrchwyr sy'n dweud bod hela llwynogod yn greulon (er na welodd o erioed llwynog na helfa).

Ffydd sydd gan y ddau ohonom. (Er bod mwy o sail i'm ffydd i).

Pam bod fy ffydd i yn cael ei ystyried fel ofergoeledd gwirion yn y byd sydd ohoni, ond bod ei ffydd ef yn ddigon cadarn i newid deddf gwlad?
Nid dadl ar sail gwyddonol yw peidio lladd cadnoed. Mater o ffydd yw hynny. Mae ffydd gan ddigon o bobl i'r Blaid Lafur i'w wthio drwy San Steffan. Wy ddim yn deall yn union sut byddet ti ishe i dy ffydd i effeithio ar y llywodraeth, beth wyt ti'n ei awgrymu?

[Dwi heb ymateb i dy ran canol, er ei fod yn codi pwyntiau difyr a diddorol tu hwnt, am nad ydwy'n credu ei fod yn gweddu i'r ymateb yma oedd gen i. Byddaf yn ymateb i hwnnw ar wahan cyn hir.]

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 4:42 pm
gan rooney
ceribethlem a ddywedodd: Mae prawf gwyddonol yn un reit symnl yn y bon. Nydd un perosn wedi gwneud arbrawf a chasglu canlyniadau bydd yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Yna fe fydd yn ailadrodd yr un dull a chael yr un canlyniadau (o fewn cyffuniau ystadegol). Y cam nesaf bydd cyflwyno'r papur lle bydd gwyddonwyr eraill yn gallu ailadrodd ei ddull eto, gan gael yr un canlyniadau. Gelwir y broses yma'n Peer review, a dyma lle mae'n cael ei dderbytn fel prawf gwyddonol fod rhywbeth yn wir.

yr wyt yn disgrifio operational science fan hyn nid historical science, gan mae'n siwtio dy ddadl i wneud hynny. Beth ti ddim yn egluro yw fod pethau fel esblygu cell-i-ddyn, tarddiad bywyd ddim yn dilyn y fethedoleg yma gan nad yw erioed wedi cael ei weld ac felly historical science yw, sydd yn cymryd ffydd gwahanol i'r ffydd sydd gen rhywun yn deillio o operational science. Mae'r gwyddonwyr anffyddiol yn hoff iawn o gymysgu'r ddau beth er mwyn camarwain pobl mewn modd subtle iawn.
Mwy fan hyn
http://www.answersingenesis.org/article ... is-science

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 5:04 pm
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:

O ran esblygiad, mae Darwin wedi llunio'r ddamcaniaeth. Mae'r data sydd wedi ei gasglu ers hynny yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Felly mae'r canlyniadau a gesglir o'r maes yn cefnogi'r damcaniaeth. Yn ogystal a hyn mae data mwy modern (megis DNA) wedi cael ei ddefnyddio, ac mae hwnnw hefyd yn cefnogi'r data.
Dyma dy obseshwn gyda tarddiad bywyd eto, nid yw tarddiad bywyd erioed wedi bod yn un o brif feysydd ymchwiliadf gwyddonol. Mae yna damcaniaethau ynglyn a tharddiad bywyd, ond nid oes data digonol i fedru gadael y syniadau yma yn fwy na hypothesis. Mae esblygiad yn broses sydd yn gallu cael ei weld yn digwydd, ac mae yn ffynonellau niferus o ddata yn cefnogi'r damcaniaeth hynny. Wrth i wyddonwyr gael mwy o ddata, mae'r damcaniaeth yn addasu ac yn gwella fel y bydd unrhyw ddamcaniaeth gwyddonol yn ei wneud.

rooney a ddywedodd:Mae'r gwyddonwyr anffyddiol yn hoff iawn o gymysgu'r ddau beth er mwyn camarwain pobl mewn modd subtle iawn.
Dyma ti'n mynnu fy mod yn anffyddiwr eto. Gwyddonydd ydwyf yn ol fy ngradd a'm gwaith. Does gen ti ddim syniad am fy ffydd.

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 5:14 pm
gan sian
Dw i'n meddwl y dylen ni adael y pwnc hyn'na yn fan'na os nad oes gan rywun rywbeth newydd i'w ddweud.

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 6:12 pm
gan rooney
ceribethlem a ddywedodd:O ran esblygiad, mae Darwin wedi llunio'r ddamcaniaeth. Mae'r data sydd wedi ei gasglu ers hynny yn cefnogi'r ddamcaniaeth. Felly mae'r canlyniadau a gesglir o'r maes yn cefnogi'r damcaniaeth. Yn ogystal a hyn mae data mwy modern (megis DNA) wedi cael ei ddefnyddio, ac mae hwnnw hefyd yn cefnogi'r data.

mae llawer iawn o bobl, yn cynnwys pobl sydd wedi cael hyfforddiant gwyddonol yn anghytuno, ac yn gynyddol talu pris am fod mor ddewr i ddatgan hynny...
Yn y gwanwyn bydd ffilm allan o'r enw "Expelled: No Intelligence Allowed", ewch i weld y ffilm yma.
http://www.expelledthemovie.com/movie_overview.php
"Ben realizes that he has been “Expelled,” and that educators and scientists are being ridiculed, denied tenure and even fired – for the “crime” of merely believing that there might be evidence of “design” in nature, and that perhaps life is not just the result of accidental, random chance. "

Re: Gwyddoniaeth a Christnogaeth [round 2]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 6:17 pm
gan Mwnci Banana Brown
rooney a ddywedodd:mae llawer iawn o bobl, yn cynnwys pobl sydd wedi cael hyfforddiant gwyddonol yn anghytuno

O...so ma gwyddoniaeth yn cownto nawr bo rhai yn anghytuno?!