Mae amryw o bobl sydd yn 'Gristnogion' yn cyfrannu i'r maes, ac mae'n ddifyr gweld y gwahanol safbwyntiau sydd yn bodoli rhyngddom ni. Yn wir mae yna gymaint o wahaniaeth yn bodoli rhyngddom ni ar gymaint o achlysuron ar y Maes fel y byddai rhywun o'r tu fas yn amau os mai'r un crefydd y'n ni'n rannu!
Mae ambell i gyfranwr wedi awgrymu fod yr Hen Destament yr un mor bwysig a'r Testament Newydd, ac yn wir yn greiddiol i'r ffydd Gristnogol, gan ddyfynu yn helaeth o'r Hen destament i gyfiawnhau eu safbwyntiau.
Ar lefel bersonol rwy'n derbyn fod yr Hen Destament yn holl bwysig yn fy nealltwriaeth o fy ffydd, ond fod Iesu yn cywiro ambell i...beth wedwn ni...gam ddealltwriaeth o'r Hen Destament.
Iesu sydd wedi dod i fy achub i, ac felly Iesu yw craidd fy ffydd i.
Os yw rhai ohonom ni yn derbyn pob darn o'r hen destament yn gwbwl llythrenol (er enghraifft 'llygad am lygad') pam wedyn, fel Cristnogion, odyn ni'n credu fod Iesu wedi dod i'r byd?
Trafodaeth adeiladol plis, ma 'da fi wir ddiddordeb i weld safbwyntiau pobl ar hyn.