gan Foel Gornach » Maw 19 Chw 2008 2:54 pm
Mae yna, yn fras, dwy ysgol o feddwl o fewn Cristnogaeth ynglŷn â’r cwestiwn hwn.
Yn gyntaf mae’r gred taw yr hyn a wnaeth Iesu oedd dod i’r byd i farw dros yr etholedigion er mwyn eu hachub hwy o’r byd. Bydd y byd yn mynd i ddistryw â’r etholedigion yn mynd i’r nefoedd.
Dywed yr ail ysgol o feddwl taw dod i’r byd er mwyn achub y byd a wnaeth Iesu; dwyn creadigaeth newydd i fodolaeth, a gwneir hynny drwy newid pobol – newid ein ffordd o feddwl a blaenoriaethau’n bywyd, dod yn ddinasyddion y nef yn y presennol a gweithredu fel aelodau o’r cread newydd yn awr.
Am dair canrif cyntaf o’i bodolaeth (a sôn yn fras eto) fe ddilynodd yr Eglwys yr ail ysgol, ac am ei bod yn cyflwyno gwerthoedd a ffordd o feddwl oedd yn groes i werthoedd a ffordd o feddwl yr awdurdodau (boed yn Rhufain, Persia neu ble bynnag) fe erlidiwyd y Cristnogion.
Yn y bedwaredd ganrif bu newid mawr, cymerodd y wladwriaeth yr Eglwys drosodd a datblgwyd y ddiwinyddiaeth sy’n perthyn i’r ysgol gyntaf o feddwl dan arweiniad meddylwyr galluog fel Awstin o Hippo. Er mwyn cydweithredu â’r awdurdodau bu rhaid troi cefn ar hen argyhoeddiadau fel heddychiaeth a dechreuwyd erlid yn enw’r Eglwys. Duw ar batrwm yr Ymerawdwr sydd yn teyrnasu, yn ôl yr ysgol hon o feddwl, un cas, dialgar sydd am ddinistrio’i elynion. Mae gwaddol y brad hwnnw yn dal gyda ni, ac ymhlith pethau eraill y mae’r syniad taw yr unig beth a wnaeth Iesu oedd marw drosom er mwyn i gredinwyr fynd i’r nef ar ôl marw. Does dim rhaid gwneud dim ond credu dogmataidd a bod yn ufudd i’r drefn drwy blygu i’r awdurdodau, gellir gorfodi pobol i fod yn aelodau o’r Eglwys er eu lles eu hunain, meddai Awstin! Dyma'r opiwm y sonia Marx amdano, a'r math o Gristnogaeth sy'n bendithio rhyfeloedd.
Ni wnaeth pob Cristion dderbyn y newid pwyslais sylfaenol hwn. Bu’r 'anghydffurfwyr' hyn yn ddraenen yn ystlys yr awdurdodau Eglwysig a gwladol drwy’r canrifoedd. Mynnodd y rhain gadw at ffordd y TN o drefnu a chenhadu, a chyflwyno dysgeidiaeth Iesu sy'n gwrthwynebu dialedd a materoliaeth i’r bobol (yr oedd y pethau hyn yn bwysig i'r Sefydliad). Cymuned wirfoddol yw eglwys, meddant, a daw pobol yn aelodau trwy berswâd ac argyhoeddiad. Cymerodd y rhain wahanol ffurfiau wrth frigo i’r wyneb drwy’r oesoedd – cydnabyddwyd rhai tueddiadau gan yr Eglwys a sefydlwyd urddau mynachaidd fel y Ffransisiaid, Dominiciaid etc. Ond enynnodd eraill ddicter yr Eglwys Sefydliadol – Donatiaid, Waldensiaid, Cathariaid, Lolardiaid, Hwsiaid etc, (fe fyddem yn bersonol yn barod i ychwanegu yr ‘Eglwys Geltaidd’ at y rhestr, ond mae hynny bwnc hynod ddadleuol – i edefyn arall efallai!) Ystyriwyd y rhain fel hereticiaid am iddynt herio’r drefn, ac fe’u herlidiwyd yn chwyrn.
Gyda dyfodiad y Diwygiad Protestannaidd aeth y Diwygwyr Ynadol (Luther, Zwingli a Calvin) ar hyd y llwybr Sefydliadol - o ran trefn a pherthynas yr eglwys a'r wladwriaeth, nid o reidrwydd dysgeidiaeth, derbyniwyd llawer o ddiwinyddiaeth y rhain gan y Radicaliaid. Parhawyd tystiolaeth yr anghydffurfwyr gan y Diwygwyr Radical a erlidiwyd yn chwyrn eto gan y Protestaniaid (yn cynnwys yr Anglicaniaid) a’r Pabyddion fel ei gilydd.
Yma mae gwreiddiau anghydffurfiaeth Gymreig. Yn anffodus, erbyn hyn, mae diffyg dealldwriaeth o’n hanes wedi arwain at elyniaeth dwl, gyda portreadau ffôl o’r hyn ydym yn cael eu cyflwyno. Mae’n wir dweud bod rhai yn dymuno perthyn i’r Sefydliad o hyd – ond nid yw egwyddorion anghydffurfiaeth yn caniatau hynny. Ond, yn anffodus, mae rhai sy’n arddel y meddylfryd Sefydliadol; rhaid pwysleisio nad y nhw sy’n cynrychioli’r traddodiad Cristnogol yr wyf fi, fel anghydffurfiwr Cymraeg, yn ei arddel.
O’r safbwynt hwnnw y mentraf ddweud: Daeth Iesu i’r byd er mwyn achub y byd, a ffurfiodd yr eglwys er mwyn iddi gydweithio ag ef yn y gwaith achubol o drawsnewid y byd drwy gyflwyno Ffordd Iesu i’r ddynoliaeth. Nid drwy gydweithredu’n slafaidd gyda’r awdurdodau, ond drwy eu herio gan gyfeirio at Ffordd ragorach – Iesu yw’r Arglwydd, dim na neb arall.