Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Cardi Bach » Iau 24 Ion 2008 12:30 pm

Mae amryw o bobl sydd yn 'Gristnogion' yn cyfrannu i'r maes, ac mae'n ddifyr gweld y gwahanol safbwyntiau sydd yn bodoli rhyngddom ni. Yn wir mae yna gymaint o wahaniaeth yn bodoli rhyngddom ni ar gymaint o achlysuron ar y Maes fel y byddai rhywun o'r tu fas yn amau os mai'r un crefydd y'n ni'n rannu!

Mae ambell i gyfranwr wedi awgrymu fod yr Hen Destament yr un mor bwysig a'r Testament Newydd, ac yn wir yn greiddiol i'r ffydd Gristnogol, gan ddyfynu yn helaeth o'r Hen destament i gyfiawnhau eu safbwyntiau.

Ar lefel bersonol rwy'n derbyn fod yr Hen Destament yn holl bwysig yn fy nealltwriaeth o fy ffydd, ond fod Iesu yn cywiro ambell i...beth wedwn ni...gam ddealltwriaeth o'r Hen Destament.

Iesu sydd wedi dod i fy achub i, ac felly Iesu yw craidd fy ffydd i.

Os yw rhai ohonom ni yn derbyn pob darn o'r hen destament yn gwbwl llythrenol (er enghraifft 'llygad am lygad') pam wedyn, fel Cristnogion, odyn ni'n credu fod Iesu wedi dod i'r byd?

Trafodaeth adeiladol plis, ma 'da fi wir ddiddordeb i weld safbwyntiau pobl ar hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan rooney » Gwe 25 Ion 2008 3:04 am

Cardi Bach a ddywedodd:Mae amryw o bobl sydd yn 'Gristnogion' yn cyfrannu i'r maes, ac mae'n ddifyr gweld y gwahanol safbwyntiau sydd yn bodoli rhyngddom ni. Yn wir mae yna gymaint o wahaniaeth yn bodoli rhyngddom ni ar gymaint o achlysuron ar y Maes fel y byddai rhywun o'r tu fas yn amau os mai'r un crefydd y'n ni'n rannu!

Mae ambell i gyfranwr wedi awgrymu fod yr Hen Destament yr un mor bwysig a'r Testament Newydd, ac yn wir yn greiddiol i'r ffydd Gristnogol, gan ddyfynu yn helaeth o'r Hen destament i gyfiawnhau eu safbwyntiau.

Ar lefel bersonol rwy'n derbyn fod yr Hen Destament yn holl bwysig yn fy nealltwriaeth o fy ffydd, ond fod Iesu yn cywiro ambell i...beth wedwn ni...gam ddealltwriaeth o'r Hen Destament.

Iesu sydd wedi dod i fy achub i, ac felly Iesu yw craidd fy ffydd i.

Os yw rhai ohonom ni yn derbyn pob darn o'r hen destament yn gwbwl llythrenol (er enghraifft 'llygad am lygad') pam wedyn, fel Cristnogion, odyn ni'n credu fod Iesu wedi dod i'r byd?

Trafodaeth adeiladol plis, ma 'da fi wir ddiddordeb i weld safbwyntiau pobl ar hyn.


cytuno gyda popeth ti'n ddweud uchod cardi
mae pobl yn cymysgu y "criminal" gyda'r "civil"
wnaeth Iesu ddim canslo'r ddeddf
dysgodd ni sut i ddehongli'r ddeddf (fe yw'r awdurdord ar ddehongli popeth yn yr Hen Dest.) ond wnaeth ei ddim ei ganslo. Dysgodd ni sut i beidio torri'r ddeddf yn wnaeth e ddim ei ganslo.
Rwy'n credu mae'n amser i bobl sy'n galw eu hunain yn Gristnogion i ddechrau ystyried yr Hen Destament a trio ffeindio allan, gyda cymorth yr Ysbryd Glan, sut mae'r Hen a'r newydd yn gysgon ac yn cyd-fynd. Fel arall, chi'n rhoi open-goal i'r anffyddwyr i'ch cyhuddo o fod yn anghyson, sydd yn ymosodiad go fawr gyda oblygiadau enfawr.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan gethin_aj » Iau 07 Chw 2008 3:33 am

Mae'n wir naeth Iesu gywiro camddealltwriaethau a hefyd unrywbethau naeth bobl ychwanegu neu ymestyn o'r hen destament.
Y ffordd dwi'n dysgu i weld y Beibl ydi fel un llinell stori fawr a bywyd, croeshoeliad ac atgyfodiad ydi canolbwynt ac uchafbwynt yr holl stori. O Genesis 3:15, mae'r Beibl yn dangos sut ma'r adnod yna'n wir, sut fod hwn yn parhau ar hyd yr oesoedd ac yn cyrraedd yr uchafbwynt yn yr hyn a wnaeth Iesu.

Genesis 3:15 a ddywedodd:"Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n ysigo'i sawdl ef." Genesis 3:15 (Duw yn siarad a'r sarff)


O ran pam ddaeth Iesu i'r byd, dwi'n meddwl fod y Beibl yn reit glir ar hynny - dwi'n barod wedi son mae ei fywyd, ei groeshoeliad a'i atgyfodiad ydi uchafbwynt mawr y Beibl. Felly y cwestiwn ydi sut neu pham.
1 Pedr 3:18 a ddywedodd:"Dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw"


Ioan 3:16 a ddywedodd:"Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol"


2 Corinthiaid 5:21 a ddywedodd:"Ni wybu Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un â phechod drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef"


- jyst rhai o enghreifftiau yma.
Rhithffurf defnyddiwr
gethin_aj
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 106
Ymunwyd: Sad 07 Mai 2005 4:49 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Senghennydd » Sad 16 Chw 2008 3:11 pm

...er mwyn creu trafodaeth a'r Maes-e :winc:
Na, o ddifri. Dwi'n cytuno bod hwn yn gwestiwn diddorol iawn Cardi Bach.
Wedi dweud hynny, dwi'n cael Ioan 3.16 yn anodd iawn ei ddeall.
Pam bod Duw angen lladd ei fab i ni gael bywyd tragwyddol?
Rhithffurf defnyddiwr
Senghennydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Gwe 25 Tach 2005 9:57 am

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Positif80 » Sad 16 Chw 2008 3:51 pm

Mae'n well gen i Austin 3:16 i ddweud y gwir, ond dyna fo.

I fod o ddifri am unwaith, 'swn i'n feddwl mai ryw fath o broffwyd oedd yn ceisio gwneud pethau'n well oedd Iesu - jyst a guess, like.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan rooney » Sul 17 Chw 2008 9:56 pm

Senghennydd a ddywedodd:...er mwyn creu trafodaeth a'r Maes-e :winc:
Na, o ddifri. Dwi'n cytuno bod hwn yn gwestiwn diddorol iawn Cardi Bach.
Wedi dweud hynny, dwi'n cael Ioan 3.16 yn anodd iawn ei ddeall.
Pam bod Duw angen lladd ei fab i ni gael bywyd tragwyddol?


oherwydd fod Duw angen aberth gwaed am bechodau, Iesu yw'r aberth gwaed dros ni
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Mr Gasyth » Sul 17 Chw 2008 10:26 pm

rooney a ddywedodd:
Senghennydd a ddywedodd:...er mwyn creu trafodaeth a'r Maes-e :winc:
Na, o ddifri. Dwi'n cytuno bod hwn yn gwestiwn diddorol iawn Cardi Bach.
Wedi dweud hynny, dwi'n cael Ioan 3.16 yn anodd iawn ei ddeall.
Pam bod Duw angen lladd ei fab i ni gael bywyd tragwyddol?


oherwydd fod Duw angen aberth gwaed am bechodau, Iesu yw'r aberth gwaed dros ni


Pam fod Duw angen aberth gwaed dros bechodau?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan rooney » Llun 18 Chw 2008 6:22 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Pam fod Duw angen aberth gwaed dros bechodau?


dyna'r arian breiniol (currency)
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Mr Gasyth » Llun 18 Chw 2008 9:12 pm

rooney a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Pam fod Duw angen aberth gwaed dros bechodau?


dyna'r arian breiniol (currency)


be?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan ger4llt » Llun 18 Chw 2008 9:23 pm

Rhaid i mi ddeud, dwi'm yn wrth gristnogol na dim ond dwi di hen 'laru ar yr holl grefydd ar y maes dros y mis dwetha ddudwn i. Faint o bynciau crefyddol sydd yn eu anterth ar hyn o bryd? 5 neu 6 ella? :rolio: A dwi di dechra 'laru ar Rooney fyd - ti'n creu penbleth llwyr i mi wan sdi! :winc:
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai