Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Positif80 » Mer 20 Chw 2008 11:43 am

Daeth Iesu (if that was his real name) i'r byd fel Superman heb y gwisg cwl a'r gwelededd pelydr-x i'n hachub rhag Satan trwy roi refresher course ar yr ysrythyrau. 'Roedd yr arlwyo'n werth ei weld hefyd.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Foel Gornach » Mer 20 Chw 2008 12:00 pm

sian a ddywedodd:Bobol bach!
Mae hynna'n ddierth iawn i fi.
Rhaid cnoi cil ond, i ddechrau:
1) Wyt ti'n dweud bod "yr ysgol gyntaf o feddwl" yng Nghymru heddiw yn credu y dylai fod perthynas rhwng yr Eglwys a'r wladwriaeth?
2) Oes yna fywyd ar ôl marwolaeth? Os oes, oes yna Nefoedd ac Uffern? Os oes, pwy sy'n mynd i'r Nefoedd?
3)
Foel Gornach a ddywedodd:Cymuned wirfoddol yw eglwys, meddant, a daw pobol yn aelodau trwy berswâd ac argyhoeddiad.
Beth am ras? (hynny yw "gras" - nid cystadleuaeth i weld pwy gyrhaeddith gynta)
4)
Foel Gornach a ddywedodd:Mae gwaddol y brad hwnnw yn dal gyda ni, ac ymhlith pethau eraill y mae’r syniad taw yr unig beth a wnaeth Iesu oedd marw drosom er mwyn i gredinwyr fynd i’r nef ar ôl marw.
:ofn: Annheg?


Y pwynt cyntaf i'w wneud yw fy mod wedi gor-symleiddio'n ddybryd yn fy amlinelliad. Nid yw'r rhaniad rhwng y ddwy ysgol o feddwl yn ddu a gwyn, mae yna beth wmbreth o or-gyffwrdd yn digwydd. Mae yna wych a gwachul yn perthyn i'r ddwy ysgol o feddwl. Yn bersonol, dof i lawr o blaid yr ail ysgol oherwydd mi deimlaf fod ynddi fwy o rinweddau na'r cyntaf. I ateb dy gwestiynau'n benodol, y gorau gallaf:

1) Mae nifer sy'n perthyn i'r ysgol hon o feddwl yn credu y dylid defnyddio'r wladwriaeth - y gyfraith - i hybu eu ffordd hwy o feddwl; a thrwy hynny orfodi eu gwerthoedd ar rai nad ydynt yn credu. Yn yr UDA ar hyn o bryd maent yn uniaethu eu hunain a phlaid wleidyddol arbennig. Yn Lloegr y mae un enwad yn rhan cyflawn o'r Sefydliad; ac y mae eraill yn dymuno cael eu cydnabod gan y Sefydliad, yng Nghymru fel yn Lloegr. Nid yw'r ail ysgol yn credu na ddylid perswadio'r awdurdodau i feddwl mewn ffordd arbennig ac i fabwysiadu gwerthoedd arbennig, ond gwneud hynny o rym y ddadl ac nid oherwydd ein bod mewn safle breintiedig i allu gwneud hynny. Nid oedd proffwydi'r HD yn rhan o'r Sefydliad, ond yr oeddent yn cyflwyno'u hargyhoeddiadau a'u rhybuddion o'r tu fas i'r Sefydliad. Mae Iesu'n ein cymell i fod yn debyg iddynt hwy.

2) Mae Iesu'n dweud fod yna Deyrnas Nefoedd (Teyrnas Dduw) ac Uffern yn bodoli. Dywed fod y deyrnas yn ein plith (neu o'n mewn). Dywed Paul wrth y Philipiaid taw dinasyddion y nef ydym ni (yr eglwys) yn y presennol. Wrth dderbyn Iesu'n Arglwydd fe ddown yn ddinasyddion o'i deyrnas; a bydd y ddinasyddiaeth honno'n parhau hyd y tragwyddol. Uffern yw'r cyflwr lle nad yw Duw na Iesu'n teyrnasu, a lle nad yw'r gwerthoedd a berthyn iddynt yn bodoli. Os nad yw person yn dymuno bod yn rhan o deyrnas Dduw, peidied a phoeni, bydd e (hi) ddim!! Nid yw'n mynd i gael ei (g)orfodi. Mae'r egwyddor gwirfoddol yn ymestyn i bob sefyllfa!

3) Mae gras Duw ar waith yn ein byd. Trwy ras yr ydym yn ymateb i'w alwad arnom. Gras sydd ar waith pan fyddwn yn ymateb. Ni ellir gorfodi gras ar neb. Oherwydd ei ras y mae'r alwad yn bodoli o gwbl.

4) Un o'm gofidiau am y safbwynt fod Iesu wedi marw er mwyn achub unigolion yn unig yw'r diffyg pwyslais ar ei ddysgeidiaeth. Mae'r ysgol hon o feddwl yn gosod yr hyn a ddywed Iesu ar yr un gwastad a'r HD. O safbwynt yr HD yn unig gellid cyfiawnhau rhyfel, er enghraifft, ac mae'r ysgol hon o feddwl yn gwneud hynny. Nid oedd yr Eglwys Fore'n gwneud hynny oherwydd nid felly y dehonglwyd dysgeidiaeth Iesu. Pwynt arall perthnasol, y mae'r meddylfryd Sefydliadol (Constantinaidd neu 'Christendom' - termau eraill am yr ysgol gyntaf o feddwl) yn pwysleisio'r Crist anorchfygol sydd fel Ymerawdwr Byzantaidd yn y nef, ac yn dueddol i anwybyddu'r gwerinwr tlawd o Galilea - drwy hwnnw y datguddiodd Duw ei hun i'r byd, ffordd hwnnw yw ffordd achubaeth.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae apel a gwahoddiad yr efengyl yn universal i bawb, ond rhaid i'r ymateb fod yn bersonol.


Cytuno'n llwyr. Cydnabyddaf fod yna berygl i'r safbwynt a osodais i esgeuluso safle'r unigolyn. Perthynas yr unigolyn a Iesu yw hanfod y cyfan; drwy alw unigolion y dechreuodd Iesu adeiladu'r eglwys, a thrwy i unigolion ymateb yn greadigol i'w gariad a'i ras y bydd yr eglwys yn parhau'r gwaith.

Dan Dean a ddywedodd:Felly ddoth o yma i achub y byd rhag yr uchod. Er bod yr uchod newydd ddigwydd yn y byd.
Sori, ond rhaid i ti esbonio ymhellach, dwi ar goll.


Nid rhywbeth sy'n digwydd dros nos yw 'achubaeth'. Proses o ennill pobol i ffordd arbennig o weld pethau ac o fyw - i ddod i berthynas a Iesu (a defnyddio hen jargon). Mae'r byd mewn cawl, dywed Iesu taw'r ffordd mas o'r cawl yw ei ffordd ef - nid trwy gasau a dial ond trwy garu a maddau; nid trwy hunanoldeb a materoliaeth ond drwy rannu a chydnabod gwerthoedd uwch na'r materol. Yr oedd Iesu'n ormod o her i bobol ei gyfnod a lladdwyd ef gan y Sefydliad Rhufeinig ac Iddewig mewn modd creulon. Fore'r trydydd dydd dangosodd Duw, awdur y Cread, taw ffordd Iesu yw ei ffordd Ef drwy ei gyfodi o blith y meirw. Ein gwaith ni yw cyflwyno hyn i bobol er mwyn iddynt ymateb. Dyma'r broses. Yn y cyfamser mae pethau erchyll yn digwydd, a dyna fydd yn digwydd hyd nes i'r drefn bresennol ddod i ben.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan ceribethlem » Mer 20 Chw 2008 2:29 pm

Foel Gornach a ddywedodd:2) Mae Iesu'n dweud fod yna Deyrnas Nefoedd (Teyrnas Dduw) ac Uffern yn bodoli. Dywed fod y deyrnas yn ein plith (neu o'n mewn). Dywed Paul wrth y Philipiaid taw dinasyddion y nef ydym ni (yr eglwys) yn y presennol. Wrth dderbyn Iesu'n Arglwydd fe ddown yn ddinasyddion o'i deyrnas; a bydd y ddinasyddiaeth honno'n parhau hyd y tragwyddol. Uffern yw'r cyflwr lle nad yw Duw na Iesu'n teyrnasu, a lle nad yw'r gwerthoedd a berthyn iddynt yn bodoli. Os nad yw person yn dymuno bod yn rhan o deyrnas Dduw, peidied a phoeni, bydd e (hi) ddim!! Nid yw'n mynd i gael ei (g)orfodi. Mae'r egwyddor gwirfoddol yn ymestyn i bob sefyllfa!
Os yw'r Nefoedd neu Uffern yn gyflwr o ddyn, beth am y bywyd tragwyddol ar ol i rywun marw? Oes lle fel Nefoedd ac Uffern yn bodoli i'n eneidiau?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan sian » Mer 20 Chw 2008 3:21 pm

Diolch Foel Gornach am dy ateb. Fuodd y mater yn stwmp ar fy stumog i drwy'r nos!
Wyt wir - gor-symleiddio a gor-gymhlethu a gor-gyffredinoli yn yr un neges, dwi'n meddwl. Tipyn o gamp!

Foel Gornach a ddywedodd:1) Mae nifer sy'n perthyn i'r ysgol hon o feddwl yn credu y dylid defnyddio'r wladwriaeth - y gyfraith - i hybu eu ffordd hwy o feddwl; a thrwy hynny orfodi eu gwerthoedd ar rai nad ydynt yn credu.

Ond mae nifer - mwy o bosib - sy ddim. Yn y Gymru Anghydffurfiol Gymraeg sydd ohoni, swn i'n meddwl bod mwy o bobl sy'n perthyn i'r Ysgol o Feddwl 2 yn coleddu'r farn hon. Yn wir, fe wnaeth hyn fy ysgogi i i ysgrifennu i'r wasg yn ddiweddar am y tro cyntaf erioed (y Pedair Tudalen dim llai) - roedd rhaid i mi ymateb i rywun oedd yn amlwg ddim yn perthyn i Ysgol o Feddwl 1 oedd yn dweud bod Nick Clegg (arweinydd newydd y Lib Dems) wedi sarhau ei etholwyr a phawb a phopeth trwy ddweud nad oedd yn credu yn Nuw.
Dw i ddim yn deall y cysylltiad rwyt ti'n ei wneud rhwng safbwynt diwynyddol a "meddylfryd sefydliadol". Mae 'na bobl sy'n perthyn i Ysgol o Feddwl 1 sy'n ddrain yn ystlys y Sefydliad a phobl Ysgol o Feddwl 2 sy'n bileri'r Sefydliad - wela i ddim rhaniad naturiol fan hyn.

Gwaith!.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Foel Gornach » Mer 20 Chw 2008 11:46 pm

Mae’n hynod flin gennyf fy mod wedi achosi diffyg cwsg a stumog tost i Siân. Maddeued imi.

Cyflwynais fy syniadau yn y modd y gwnes oherwydd imi geisio ateb cwestiwn Cardi Bach yn uniongyrchol. Mentraf nawr roi cefndir i’m pwyslais yn y gobaith y bydd hynny yn rhoi mwy o oleuni ar fy safbwynt. Ond cyn gwneud hynny mae’n rhaid pwysleisio fod gor-gyffredinoli’n anorfod pan yn ystyried ystod o filoedd o flynyddoedd a daliadau cannoedd o filiynau o bobol!! Nid yw pobol yn fodau unffurf, diolch i Dduw am hynny, ac mae syniadau a daliadau yn gor-gyffwrdd, a phwysleisiau yn newid. Er hynny mae’n bwysig ceisio edrych ar y darlun cyflawn i sylwi ar yr amrywiol dueddiadau sy’n digwydd.

Wrth olrheinio datblygiad yr Eglwys ar hyd yr oesoedd gellir gweld fod yna ddau dueddiad bras yn amlygu eu hunain sydd mewn gwrthgyferbyniad â’i gilydd. (Mae’r un tueddiadau i’w canfod yn y Beibl hefyd).

Un ohonynt yw’r meddylfryd Sefydliadol (Constantinaidd neu ‘Christendom’ yw’r termau a ddefnyddir gan rai ysgolheigion). Gyda goruchafiaeth Cystennin Fawr yn y G4edd fe ddaeth y meddylfryd hwn i fri. Y mae’r eglwys i gydweithio gyda’r rhai sydd mewn awdurdod. Gall y wladwriaeth hybu gwaith yr eglwys drwy, ymhlith pethau eraill, gosbi hereticiaid a rhoi breintiau i’r clerigwyr. Cyfrifoldeb yr eglwys wedyn yw mynnu teyrngarwch gan y bobol gyffredin ac iddynt dderbyn eu safle yn y gymdeithas. Defnyddir y bygythiad o dân uffern ymhlith pethau eraill i gadw pobol mewn trefn. I’r ysgol hon o feddwl mae pawb sydd yn y wladwriaeth yn perthyn i’r eglwys. Tuedd y rhain yw esbonio bant ddysgeidiaeth Iesu, yn arbennig ei sylwadau am gyfoethogion a charu gelynion, oherwydd bod cyfoeth a grym milwrol yn bwysig iddynt. (Nid yw Iesu’n dweud dim am hoywon, ond mae ganddo feirniadaeth lem iawn o gyfoethogion – droeon). Nid ei ddysgeidiaeth sy’n holl-bwysig ond ei aberth. Pwysleisiant rym ac awdurdod, barn a chosb a hoff ganddynt yr HD. Y portread o Iesu a geir yn aml yw ohonno fel ymerawdwr neu frenin grymus sy’n eistedd ar ddeheulaw un sy’n wychach a grymusach yn y nef. Nawr fy mhwynt yn fy nghyfraniadau blaenorol oedd taw’r meddylfryd hwn sy’n hoff o’r dehongliad bod Iesu wedi dod i’r byd i farw, ac mai hynny oedd ei briod (os nad ei unig) waith.

Gellir galw’r ail bwyslais fel y meddylfryd Proffwydol. Nid cyfrifoldeb yr eglwys yw bod yn rhan o’r Sefydliad, ond i fod mewn tensiwn creadigol a pharhaol â hi. Cymdeithas wirfoddol yw’r eglwys sy’n cynnwys aelodau sy’n perthyn iddi o ddewis oherwydd eu hargyhoeddiadau. Dyma gyflwr yr eglwys am y dair canrif cyntaf o’i bodolaeth cyn ‘buddugoliaeth’ Cystennin. Dyma hanes yr anghydffurfwyr drwy’r oesoedd. Adeiladu cymunedau gwirfoddol a wnaeth y rhain oedd yn herio’r Sefydliad yn gyson, drwy eu bodolaeth a thrwy eu dysgeidiaeth; ond nid oeddent yn barod i ddod yn rhan o’r Sefydliad – byth. Mae’r rhain yn rhoi pwys mawr ar ddysgeidiaeth Iesu, mae ei aberth yn coroni ei waith, ffordd Iesu o feddwl dylai fod yn ffordd yr eglwys o feddwl. O leia, dyna’r egwyddorion sylfaenol - cefnodd rhai eglwysi anghydffurfiol ar eu hegwyddorion pan daeth cyfle iddynt fod yn rhan o'r Sefydliad, fel y gwnaeth yr Eglwys Gonstantinaidd. Cyflwynwyd y syniad taw dod i’r byd er mwyn achub y byd a wnaeth Iesu mewn sawl gwahanol ffordd – y Milflwyddiant a’r Bumed Frenhiniaeth ymhlith llawer o rai eraill (rhai ohonynt, rhaid cydnabod, yn hynod wallgo!)

Gyda threigl amser mae llawer o anghydffurfwyr wedi mabwysiadu’r meddylfryd Sefydliadol a throi cefn ar yr egwyddorion sylfaenol, a llawer o fewn yr eglwysi Sefydliadol wedi mabwysiadu’r meddylfryd Proffwydol. Mae’r cymysgu hwn wedi digwydd i’r fath raddau fel na ellir (yn y cyswllt Cymreig) ddweud fod unrhyw enwad yn perthyn yn daclus i’r naill gategori neu’r llall. Gyda dirywiad crefydd traddodiadol mae gobaith y daw mwy a mwy i sylweddoli ein bod i gyd fel Cristnogion bellach yn dychwelyd i’r cyflwr cyn-Gonstantinaidd, a daw yr eglwysi i weld eto ei bod yn hanfodol i ddilyn dysgeidiaeth Iesu a’i helpu i achub y byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan sian » Iau 21 Chw 2008 9:57 am

Hmmm.
Dw i'n dal ddim yn gyfforddus â'r cysylltiad uniongyrchol yma rwyt ti'n ei wneud rhwng gwleidyddiaeth a Christnogaeth. Onid yw hyn fel pe bai'n cyfyngu ar allu Duw braidd (argraff bersonol yw hon - dw i ddim wedi cael cyfle i ddarllen am y peth nac i drafod gyda neb - bosib mod i'n hollol rong!)
Hyd y gwela i, mae rhyddid i Gristion - yn ôl ei gydwybod a'i ddealltwriaeth o'r Beibl - fynd ati i newid y byd ym mha bynnag ffordd mae'n gweld yn dda - pleidio heddychiaeth, gwarchod yr amgylchedd etc - neu beidio; gall Cristion goleddu fwy neu lai unrhyw safbwynt gwleidyddol - chwith neu dde; allwch chi gael Cristnogion â lot o arian (beth yw "cyfoethog'?), caiff Cristion hyd yn oed ymuno â'r lluoedd arfog.

Hynny yw, swn i'n dadlau bod Cristnogaeth lot cyfoethocach na dim ond achub y byd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Foel Gornach » Iau 21 Chw 2008 11:30 am

ceribethlem a ddywedodd:Os yw'r Nefoedd neu Uffern yn gyflwr o ddyn, beth am y bywyd tragwyddol ar ol i rywun marw? Oes lle fel Nefoedd ac Uffern yn bodoli i'n eneidiau?


Rhaglen ddiddorol o In Our Time ar y radio y bore ‘ma. Tri physicist amlwg gyda Melvyn Bragg yn trafod y posibilrwydd o fydysawdau eraill tu hwnt i’r un a adnabyddwn ni, rhai mewn dimensiwn gwahanol i’n heiddo ni ond yn gyfochrog â ni (o fewn un milimedr i ni oedd un ymadrodd). Dywedodd un cyfrannwr, ac ni wnaeth y gweddill fynegi anghytundeb, bod gwyddonwyr yn gwrthod y syniad o fodolaeth Duw ar egwyddor, a hynny ar waetha’r dystiolaeth. Maent yn chwilio am unrhyw ddehongliad arall o’r dystiolaeth, ac yn y broses yn anghytuno’n frwd, ac weithiau’n chwyrn, â’i gilydd. Ymadrodd arall a ddefnyddiwyd, na heriwyd, oedd rhywbeth tebyg i: This universe was designed for intelligence. Diddorol iawn.

Yr ateb uniongyrchol i’th gwestiwn Ceri yw – so i’n gwbod beth sydd tu hwnt i farwolaeth y corff. Yr hyn i fi’n gwbod yw bod bywyd yn dragwyddol, bod nefoedd yn yr ystyr o bresenoldeb Duw, ac uffern yn yr ystyr o’i absenoldeb. Ymddiriedaf ynddo – fy nghyfrifoldeb nawr yw cydweithio gydag ef i drawsnewid y byd hwn!! Gall gosodiad o’r fath swnio’n ymhonnus – hyd i ni sylweddoli taw dyna cyfrifoldeb pawb ac y gallwn oll leisio’r un honiad.

Efallai bod yr hyn a ddywedwyd ar In Our Time yn agor posibiliadau o ddeall mewn oes wyddonol. Yr unig beth a allaf ddweud yn bendant yw bod Iesu’n dweud bod ‘amryw drigfannau’ yn y nefoedd (gair lluosog, ‘nef’ yw’r unigol); dywed nad oes gwryw a benyw yno, ac ategir hyn gan Paul a ddywed fod ein ffurf yn mynd i fod yn wahanol – awgryma hyn i mi ddimensiwn gwahanol, ysbrydol. Ni allaf, a thra yn y cnawd hwn, nid wyf yn moyn mynd i fwy o fanylion na hynny.

Sian a ddywedodd:Hyd y gwela i, mae rhyddid i Gristion - yn ôl ei gydwybod a'i ddealltwriaeth o'r Beibl - fynd ati i newid y byd ym mha bynnag ffordd mae'n gweld yn dda - pleidio heddychiaeth, gwarchod yr amgylchedd etc - neu beidio; gall Cristion goleddu fwy neu lai unrhyw safbwynt gwleidyddol - chwith neu dde; allwch chi gael Cristnogion â lot o arian (beth yw "cyfoethog'?), caiff Cristion hyd yn oed ymuno â'r lluoedd arfog.


Fe fyddem yn dymuno newid yr hyn a ddywed mewn italics i - yn ôl ei gydwybod a'i ddealltwriaeth o Iesu. Swyddogaeth y Beibl yw cyflwyno Iesu i ni, ac y mae ef yn fwy na'r Beibl. Nid ffydd Beibl ganolog sydd gennyf, ond Iesu ganolog, ac fel y dywed y Beibl ef yw Gwaredwr y Byd (mae gwaredu ac achub yn gyfystyr yn hyn o beth). Nid diraddio'r Beibl yw hyn, ond ei ddeall yn y goleuni cywir. Y cwestiynau sylfaenol felly yw a yw Iesu'n dymuno i unigolion fod yn gyfoethog (cydnabyddaf fod angen trafod beth yw ystyr 'cyfoeth', am y tro bodlonaf ar yr esboniad: 'mwy na sydd angen arnom'). Ni allaf gredu bod Iesu'n fodlon arnom fynd i ladd ac achosi difrod a dinistr ar ein gelynion, fel y mae'r lluoedd arfog yn gwneud.

Cytunaf y gall Cristnogion goleddu safbwyntiau gwleidyddol gwahanol, cyhyd a'u bod yn unol a meddwl Iesu. Ond pwyslais y traddodiad proffwydol (radicaliaid, anghydffurfiol) yw na ddylai'r eglwys fod yn rhan o'r gyfundrefn (Sefydliad, status quo). Gall unigolion weithredu'n unol â'u cydwybod, ond rhaid i'r eglwys fod yn gorff proffwydol, annibynnol ar y Sefydliad - yn ei herio ac yn pigo'r cydwybod yn barhaus. Yn unol â'r traddodiad hwn y gweithredodd proffwydi'r HD, ac mae Iesu'n ein cymell i fod yn debyg iddynt hwy.

Ni allaf ddychmygu unrhyw beth mwy cyffrous a godidog nag achub y byd. Edrychaf ymlaen yn eiddgar i fod yn ddinesydd cyflawn o'r nef newydd a'r ddaear newydd lle mae cyfiawnder yn cartrefu, dyna pam yr wyf yn aelod o'r mudiad y mae Iesu wedi ei alw i fodolaeth i brysuro'i ddyfodiad!
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan sian » Iau 21 Chw 2008 11:42 am

mmm difyr
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Positif80 » Iau 21 Chw 2008 12:57 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:
Ar y newyddio heddiw:
Weapon found in Rhys murder probe
Nato troops close Kosovo border
Darfur bombing is 'unacceptable'
Three US troops killed in Baghdad

Maen gwbl eglur fod rhywbeth o'i le ar y byd yma.


End of Days? Pam fod Duw angen gwneud yr Apocalypse beth bynnag? Sori os ydw i'n gofyn cwestiwn sydd hefo ateb amlwg, ond dw i wedi gwylltio rhai hefo'n negeseuon apparently a dwi ddim isio pisio neb off hefo barn neu unrhywbeth twp fel 'na.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Gwendraeth » Iau 21 Chw 2008 11:51 pm

Positif80 a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:
Ar y newyddio heddiw:
Weapon found in Rhys murder probe
Nato troops close Kosovo border
Darfur bombing is 'unacceptable'
Three US troops killed in Baghdad

Maen gwbl eglur fod rhywbeth o'i le ar y byd yma.


End of Days? Pam fod Duw angen gwneud yr Apocalypse beth bynnag? Sori os ydw i'n gofyn cwestiwn sydd hefo ateb amlwg, ond dw i wedi gwylltio rhai hefo'n negeseuon apparently a dwi ddim isio pisio neb off hefo barn neu unrhywbeth twp fel 'na.


Mae Gair Duw yn glir.Fe fydd diwedd i'n byd ni oherwydd effaith pechod.Fe fydd yr hen fyd yma yn dod i ben.Yna fe fydd Duw yn creu byd a nefoedd newydd ,byd di bechod,byd lle bydd y rhai sydd yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i fyw am byth bythoedd ym mhresenoldeb Iesu Grist ein Brenin ac fe fyddwn ni yn medru ei ganmol ef am ei ras i bechaduriaid fel fi a ti.Dyma beth yw gobaith y Cristion
Gwendraeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Maw 19 Chw 2008 5:26 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron