Tudalen 2 o 5

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 9:07 am
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Pam fod Duw angen aberth gwaed dros bechodau?


dyna'r arian breiniol (currency)

Dyw e' ddim yn swno fel boi neis iawn odi fe?

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 11:56 am
gan Rhys Llwyd
Mr Gasyth a ddywedodd:Pam fod Duw angen aberth gwaed dros bechodau?


Maen bwysig edrych ar farn Duw yn y Beibl fel rhywbeth positif, dyma mae rooney wedi methu ei esbonio ar y maes dwi'n meddwl. Os edrychwch chi ar farn Duw yn yr hen destamentau yn enwedig yn y proffwydi mae barn Duw yn dilyn lle bo anghyfiawnder wedi digwydd, hynny yw rhywbeth positif i unioni cam ydy barn Duw nid negydd. Dwi wedi rhoi y dyfyniad yma gan McLaren mewn rhyw edefyn arall ond dyma hi eto:

"Salvation is what happens when we experience both judgment and forgiveness, both justice (exposing the truth about our wrong) and mercy (forgoing the negative consequences we deserve). Without both we don't end up with true salvation... Forgiveness without conviction is not forgiveness: it is irresponsible toleration. It soesn't lead to reconciliation and peace; it leads to chaos."

Mae rhaid i gyfraith gymryd lle, ond yr hyn sy'n rhyfeddol am Dduw'r Cristion yw ei fod ef wedi dyfarnnu'r ddedfryd ac wedi cymryd ei gosb ei hun yn ein lle. Cymer bod dau hen ffrind ysgol yn dod wyneb yn wyneb ugain mlynedd yn ddiweddarach, un yn Farnwr a'r llall yn droseddwr - mae'n rhaid i'r ffrind sy'n farnwr ddedfrydu'r gosb, dirwy dyweder, fel mae'r gyfraith yn datgan, ond wedi dyfarnnu'r gos maen dod i lawr o'i gadair ac estyn ei lyfr siec allan ac yn talu'r ddirwy dros ei hen ffrind. Yn yr un modd maen rhaid i Dduw ddelio gyda'r ddedfryd ond mae hefyd yn Dduw cariad felly maen cymryd y ddedfryd ar ein rhan.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 2:54 pm
gan Foel Gornach
Mae yna, yn fras, dwy ysgol o feddwl o fewn Cristnogaeth ynglŷn â’r cwestiwn hwn.

Yn gyntaf mae’r gred taw yr hyn a wnaeth Iesu oedd dod i’r byd i farw dros yr etholedigion er mwyn eu hachub hwy o’r byd. Bydd y byd yn mynd i ddistryw â’r etholedigion yn mynd i’r nefoedd.

Dywed yr ail ysgol o feddwl taw dod i’r byd er mwyn achub y byd a wnaeth Iesu; dwyn creadigaeth newydd i fodolaeth, a gwneir hynny drwy newid pobol – newid ein ffordd o feddwl a blaenoriaethau’n bywyd, dod yn ddinasyddion y nef yn y presennol a gweithredu fel aelodau o’r cread newydd yn awr.
Am dair canrif cyntaf o’i bodolaeth (a sôn yn fras eto) fe ddilynodd yr Eglwys yr ail ysgol, ac am ei bod yn cyflwyno gwerthoedd a ffordd o feddwl oedd yn groes i werthoedd a ffordd o feddwl yr awdurdodau (boed yn Rhufain, Persia neu ble bynnag) fe erlidiwyd y Cristnogion.

Yn y bedwaredd ganrif bu newid mawr, cymerodd y wladwriaeth yr Eglwys drosodd a datblgwyd y ddiwinyddiaeth sy’n perthyn i’r ysgol gyntaf o feddwl dan arweiniad meddylwyr galluog fel Awstin o Hippo. Er mwyn cydweithredu â’r awdurdodau bu rhaid troi cefn ar hen argyhoeddiadau fel heddychiaeth a dechreuwyd erlid yn enw’r Eglwys. Duw ar batrwm yr Ymerawdwr sydd yn teyrnasu, yn ôl yr ysgol hon o feddwl, un cas, dialgar sydd am ddinistrio’i elynion. Mae gwaddol y brad hwnnw yn dal gyda ni, ac ymhlith pethau eraill y mae’r syniad taw yr unig beth a wnaeth Iesu oedd marw drosom er mwyn i gredinwyr fynd i’r nef ar ôl marw. Does dim rhaid gwneud dim ond credu dogmataidd a bod yn ufudd i’r drefn drwy blygu i’r awdurdodau, gellir gorfodi pobol i fod yn aelodau o’r Eglwys er eu lles eu hunain, meddai Awstin! Dyma'r opiwm y sonia Marx amdano, a'r math o Gristnogaeth sy'n bendithio rhyfeloedd.

Ni wnaeth pob Cristion dderbyn y newid pwyslais sylfaenol hwn. Bu’r 'anghydffurfwyr' hyn yn ddraenen yn ystlys yr awdurdodau Eglwysig a gwladol drwy’r canrifoedd. Mynnodd y rhain gadw at ffordd y TN o drefnu a chenhadu, a chyflwyno dysgeidiaeth Iesu sy'n gwrthwynebu dialedd a materoliaeth i’r bobol (yr oedd y pethau hyn yn bwysig i'r Sefydliad). Cymuned wirfoddol yw eglwys, meddant, a daw pobol yn aelodau trwy berswâd ac argyhoeddiad. Cymerodd y rhain wahanol ffurfiau wrth frigo i’r wyneb drwy’r oesoedd – cydnabyddwyd rhai tueddiadau gan yr Eglwys a sefydlwyd urddau mynachaidd fel y Ffransisiaid, Dominiciaid etc. Ond enynnodd eraill ddicter yr Eglwys Sefydliadol – Donatiaid, Waldensiaid, Cathariaid, Lolardiaid, Hwsiaid etc, (fe fyddem yn bersonol yn barod i ychwanegu yr ‘Eglwys Geltaidd’ at y rhestr, ond mae hynny bwnc hynod ddadleuol – i edefyn arall efallai!) Ystyriwyd y rhain fel hereticiaid am iddynt herio’r drefn, ac fe’u herlidiwyd yn chwyrn.

Gyda dyfodiad y Diwygiad Protestannaidd aeth y Diwygwyr Ynadol (Luther, Zwingli a Calvin) ar hyd y llwybr Sefydliadol - o ran trefn a pherthynas yr eglwys a'r wladwriaeth, nid o reidrwydd dysgeidiaeth, derbyniwyd llawer o ddiwinyddiaeth y rhain gan y Radicaliaid. Parhawyd tystiolaeth yr anghydffurfwyr gan y Diwygwyr Radical a erlidiwyd yn chwyrn eto gan y Protestaniaid (yn cynnwys yr Anglicaniaid) a’r Pabyddion fel ei gilydd.

Yma mae gwreiddiau anghydffurfiaeth Gymreig. Yn anffodus, erbyn hyn, mae diffyg dealldwriaeth o’n hanes wedi arwain at elyniaeth dwl, gyda portreadau ffôl o’r hyn ydym yn cael eu cyflwyno. Mae’n wir dweud bod rhai yn dymuno perthyn i’r Sefydliad o hyd – ond nid yw egwyddorion anghydffurfiaeth yn caniatau hynny. Ond, yn anffodus, mae rhai sy’n arddel y meddylfryd Sefydliadol; rhaid pwysleisio nad y nhw sy’n cynrychioli’r traddodiad Cristnogol yr wyf fi, fel anghydffurfiwr Cymraeg, yn ei arddel.

O’r safbwynt hwnnw y mentraf ddweud: Daeth Iesu i’r byd er mwyn achub y byd, a ffurfiodd yr eglwys er mwyn iddi gydweithio ag ef yn y gwaith achubol o drawsnewid y byd drwy gyflwyno Ffordd Iesu i’r ddynoliaeth. Nid drwy gydweithredu’n slafaidd gyda’r awdurdodau, ond drwy eu herio gan gyfeirio at Ffordd ragorach – Iesu yw’r Arglwydd, dim na neb arall.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 3:47 pm
gan sian
Bobol bach!
Mae hynna'n ddierth iawn i fi.
Rhaid cnoi cil ond, i ddechrau:
1) Wyt ti'n dweud bod "yr ysgol gyntaf o feddwl" yng Nghymru heddiw yn credu y dylai fod perthynas rhwng yr Eglwys a'r wladwriaeth?
2) Oes yna fywyd ar ôl marwolaeth? Os oes, oes yna Nefoedd ac Uffern? Os oes, pwy sy'n mynd i'r Nefoedd?
3)
Foel Gornach a ddywedodd:Cymuned wirfoddol yw eglwys, meddant, a daw pobol yn aelodau trwy berswâd ac argyhoeddiad.
Beth am ras? (hynny yw "gras" - nid cystadleuaeth i weld pwy gyrhaeddith gynta)
4)
Foel Gornach a ddywedodd:Mae gwaddol y brad hwnnw yn dal gyda ni, ac ymhlith pethau eraill y mae’r syniad taw yr unig beth a wnaeth Iesu oedd marw drosom er mwyn i gredinwyr fynd i’r nef ar ôl marw.
:ofn: Annheg?

Sori, gwaith!

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 4:00 pm
gan Rhys Llwyd
Foel Gornach a ddywedodd:O’r safbwynt hwnnw y mentraf ddweud: Daeth Iesu i’r byd er mwyn achub y byd, a ffurfiodd yr eglwys er mwyn iddi gydweithio ag ef yn y gwaith achubol o drawsnewid y byd drwy gyflwyno Ffordd Iesu i’r ddynoliaeth. Nid drwy gydweithredu’n slafaidd gyda’r awdurdodau, ond drwy eu herio gan gyfeirio at Ffordd ragorach – Iesu yw’r Arglwydd, dim na neb arall.


Diolch am dy gyfraniad gwerthfawr. Yn ddiweddar dwi wedi dod i werthfawrogi fod Iesu yn golygu gymaint mwy na quick fix i'r broblem o bechod a free pass i'r nefoedd, ac yn wir wedi dod i sylwi fod edrych ar Iesu yn y modd yna yn ddilornus iawn ohono. Fe ddaeth Iesu, fel rwyt ti'n dweud, i achub y greadigaeth nid dim ond i achub unigolion. Fodd bynnag y peryg posib i dy safbwynt di o edrych ar Iesu fel adferwr y cosmos yw anghofio fod y cosmos yn cynnwys unigolion a pechaduriaid - hynny yw rhaid i ti (a fi) fod yn ofalus nad ydym ni yn gor-ymateb i bwyslais unigolyddol ffwndamentaliaeth-efengylaidd ac anghofio fod y Beibl yn dysgu'n glir fod rhaid i bawb, pob unigolyn, droi, edifarhau ac yna dilyn Iesu er mwyn wedyn dod yn rhan o'r prosiect mawr o adfer y greadigaeth gyfan. O edrych ar yr efengyl gymdeithasol (Miall Edwards et al) ddechrau'r G20 yma yng Nghymru dyna a wnaethwyd, helaethwyd y babell (a dwyn term Vivian Jones) do a hynny mewn ymateb i bietistiaeth a godwyd yn sgil pentecostaliaeth a keswickiaeth yn dilyn 04-05 ond fe'i helaethwyd i'r fath raddau fel yr anghofiwyd fod angen maddeuant ac edifeirwch ar bob unigolyn ar lefel bersonol.

Mae apel a gwahoddiad yr efengyl yn universal i bawb, ond rhaid i'r ymateb fod yn bersonol.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 9:04 am
gan Dan Dean
I achub y byd rhag be?

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 9:27 am
gan Positif80
Doedd Duw ddim yn hapus hefo'r ffordd 'roedd pobl yn byw eu bywydau, felly danfonodd o Iesu, yn lle pla neu rywbeth. 'Roedd Duw yn mynd trwy phase heddychlon.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 10:07 am
gan Rhys Llwyd
Dan Dean a ddywedodd:I achub y byd rhag be?


Ar y newyddio heddiw:
Weapon found in Rhys murder probe
Nato troops close Kosovo border
Darfur bombing is 'unacceptable'
Three US troops killed in Baghdad

Maen gwbl eglur fod rhywbeth o'i le ar y byd yma.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 10:23 am
gan Dan Dean
Felly ddoth o yma i achub y byd rhag yr uchod. Er bod yr uchod newydd ddigwydd yn y byd. :?
Sori, ond rhaid i ti esbonio ymhellach, dwi ar goll.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 10:41 am
gan Nanog
Dan Dean a ddywedodd:Sori, ond rhaid i ti esbonio ymhellach, dwi ar goll.


Wyt ti'n dwp neu beth? :rolio: :)