ceribethlem a ddywedodd:Os yw'r Nefoedd neu Uffern yn gyflwr o ddyn, beth am y bywyd tragwyddol ar ol i rywun marw? Oes lle fel Nefoedd ac Uffern yn bodoli i'n eneidiau?
Rhaglen ddiddorol o
In Our Time ar y radio y bore ‘ma. Tri
physicist amlwg gyda Melvyn Bragg yn trafod y posibilrwydd o fydysawdau eraill tu hwnt i’r un a adnabyddwn ni, rhai mewn dimensiwn gwahanol i’n heiddo ni ond yn gyfochrog â ni (o fewn un milimedr i ni oedd un ymadrodd). Dywedodd un cyfrannwr, ac ni wnaeth y gweddill fynegi anghytundeb, bod gwyddonwyr yn gwrthod y syniad o fodolaeth Duw ar egwyddor,
a hynny ar waetha’r dystiolaeth. Maent yn chwilio am unrhyw ddehongliad arall o’r dystiolaeth, ac yn y broses yn anghytuno’n frwd, ac weithiau’n chwyrn, â’i gilydd. Ymadrodd arall a ddefnyddiwyd, na heriwyd, oedd rhywbeth tebyg i:
This universe was designed for intelligence. Diddorol iawn.
Yr ateb uniongyrchol i’th gwestiwn Ceri yw – so i’n gwbod beth sydd tu hwnt i farwolaeth y corff. Yr hyn i fi’n gwbod yw bod bywyd yn dragwyddol, bod nefoedd yn yr ystyr o bresenoldeb Duw, ac uffern yn yr ystyr o’i absenoldeb. Ymddiriedaf ynddo – fy nghyfrifoldeb nawr yw cydweithio gydag ef i drawsnewid y byd hwn!! Gall gosodiad o’r fath swnio’n ymhonnus – hyd i ni sylweddoli taw dyna cyfrifoldeb pawb ac y gallwn oll leisio’r un honiad.
Efallai bod yr hyn a ddywedwyd ar In Our Time yn agor posibiliadau o ddeall mewn oes wyddonol. Yr unig beth a allaf ddweud yn bendant yw bod Iesu’n dweud bod ‘amryw drigfannau’ yn y nefoedd (gair lluosog, ‘nef’ yw’r unigol); dywed nad oes gwryw a benyw yno, ac ategir hyn gan Paul a ddywed fod ein ffurf yn mynd i fod yn wahanol – awgryma hyn i mi ddimensiwn gwahanol, ysbrydol. Ni allaf, a thra yn y cnawd hwn, nid wyf yn moyn mynd i fwy o fanylion na hynny.
Sian a ddywedodd:Hyd y gwela i, mae rhyddid i Gristion - yn ôl ei gydwybod a'i ddealltwriaeth o'r Beibl - fynd ati i newid y byd ym mha bynnag ffordd mae'n gweld yn dda - pleidio heddychiaeth, gwarchod yr amgylchedd etc - neu beidio; gall Cristion goleddu fwy neu lai unrhyw safbwynt gwleidyddol - chwith neu dde; allwch chi gael Cristnogion â lot o arian (beth yw "cyfoethog'?), caiff Cristion hyd yn oed ymuno â'r lluoedd arfog.
Fe fyddem yn dymuno newid yr hyn a ddywed mewn italics i -
yn ôl ei gydwybod a'i ddealltwriaeth o Iesu. Swyddogaeth y Beibl yw cyflwyno Iesu i ni, ac y mae ef yn fwy na'r Beibl. Nid ffydd Beibl ganolog sydd gennyf, ond Iesu ganolog, ac fel y dywed y Beibl ef yw Gwaredwr y Byd (mae gwaredu ac achub yn gyfystyr yn hyn o beth). Nid diraddio'r Beibl yw hyn, ond ei ddeall yn y goleuni cywir. Y cwestiynau sylfaenol felly yw a yw Iesu'n dymuno i unigolion fod yn gyfoethog (cydnabyddaf fod angen trafod beth yw ystyr 'cyfoeth', am y tro bodlonaf ar yr esboniad: 'mwy na sydd angen arnom'). Ni allaf gredu bod Iesu'n fodlon arnom fynd i ladd ac achosi difrod a dinistr ar ein gelynion, fel y mae'r lluoedd arfog yn gwneud.
Cytunaf y gall Cristnogion goleddu safbwyntiau gwleidyddol gwahanol, cyhyd a'u bod yn unol a meddwl Iesu. Ond pwyslais y traddodiad proffwydol (radicaliaid, anghydffurfiol) yw na ddylai'r eglwys fod yn rhan o'r gyfundrefn (Sefydliad,
status quo). Gall unigolion weithredu'n unol â'u cydwybod, ond rhaid i'r eglwys fod yn gorff proffwydol, annibynnol ar y Sefydliad - yn ei herio ac yn pigo'r cydwybod yn barhaus. Yn unol â'r traddodiad hwn y gweithredodd proffwydi'r HD, ac mae Iesu'n ein cymell i fod yn debyg iddynt hwy.
Ni allaf ddychmygu unrhyw beth mwy cyffrous a godidog nag achub y byd. Edrychaf ymlaen yn eiddgar i fod yn ddinesydd cyflawn o'r nef newydd a'r ddaear newydd lle mae cyfiawnder yn cartrefu, dyna pam yr wyf yn aelod o'r mudiad y mae Iesu wedi ei alw i fodolaeth i brysuro'i ddyfodiad!