Tudalen 4 o 5

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 9:07 am
gan ceribethlem
Foel Gornach a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Os yw'r Nefoedd neu Uffern yn gyflwr o ddyn, beth am y bywyd tragwyddol ar ol i rywun marw? Oes lle fel Nefoedd ac Uffern yn bodoli i'n eneidiau?


Rhaglen ddiddorol o In Our Time ar y radio y bore ‘ma. Tri physicist amlwg gyda Melvyn Bragg yn trafod y posibilrwydd o fydysawdau eraill tu hwnt i’r un a adnabyddwn ni, rhai mewn dimensiwn gwahanol i’n heiddo ni ond yn gyfochrog â ni (o fewn un milimedr i ni oedd un ymadrodd). Dywedodd un cyfrannwr, ac ni wnaeth y gweddill fynegi anghytundeb, bod gwyddonwyr yn gwrthod y syniad o fodolaeth Duw ar egwyddor, a hynny ar waetha’r dystiolaeth. Maent yn chwilio am unrhyw ddehongliad arall o’r dystiolaeth, ac yn y broses yn anghytuno’n frwd, ac weithiau’n chwyrn, â’i gilydd. Ymadrodd arall a ddefnyddiwyd, na heriwyd, oedd rhywbeth tebyg i: This universe was designed for intelligence. Diddorol iawn.

Yr ateb uniongyrchol i’th gwestiwn Ceri yw – so i’n gwbod beth sydd tu hwnt i farwolaeth y corff. Yr hyn i fi’n gwbod yw bod bywyd yn dragwyddol, bod nefoedd yn yr ystyr o bresenoldeb Duw, ac uffern yn yr ystyr o’i absenoldeb. Ymddiriedaf ynddo – fy nghyfrifoldeb nawr yw cydweithio gydag ef i drawsnewid y byd hwn!! Gall gosodiad o’r fath swnio’n ymhonnus – hyd i ni sylweddoli taw dyna cyfrifoldeb pawb ac y gallwn oll leisio’r un honiad.

Efallai bod yr hyn a ddywedwyd ar In Our Time yn agor posibiliadau o ddeall mewn oes wyddonol. Yr unig beth a allaf ddweud yn bendant yw bod Iesu’n dweud bod ‘amryw drigfannau’ yn y nefoedd (gair lluosog, ‘nef’ yw’r unigol); dywed nad oes gwryw a benyw yno, ac ategir hyn gan Paul a ddywed fod ein ffurf yn mynd i fod yn wahanol – awgryma hyn i mi ddimensiwn gwahanol, ysbrydol. Ni allaf, a thra yn y cnawd hwn, nid wyf yn moyn mynd i fwy o fanylion na hynny.

Mae'r syniad fod bydysawd paralel yn cyfateb i nefoedd a/neu uffern yn un reit diddorol, er ddim yn syniad hollol newydd, mae'n un o'r syniadau sy'n cael ei godi ym myd ffuglen gwyddonias ers dipyn. Yn sicr mae'r syniad (athronyddol bron) fod nefoedd/uffern yn rhyw fath o gyflwr corfforol yn un llawer haws ei dderbyn na'r nonsens am losgi am byth sydd gan ambell un.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 10:45 am
gan Mr Gasyth
ceribethlem a ddywedodd: Yn sicr mae'r syniad (athronyddol bron) fod nefoedd/uffern yn rhyw fath o gyflwr corfforol yn un llawer haws ei dderbyn na'r nonsens am losgi am byth sydd gan ambell un.


Allet ti esbonio hyn yn bellach ceri? Mae'n swnio'n ddiddorol.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 11:00 am
gan ceribethlem
Mr Gasyth a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd: Yn sicr mae'r syniad (athronyddol bron) fod nefoedd/uffern yn rhyw fath o gyflwr corfforol yn un llawer haws ei dderbyn na'r nonsens am losgi am byth sydd gan ambell un.


Allet ti esbonio hyn yn bellach ceri? Mae'n swnio'n ddiddorol.

Mae'r syniad o bod yn dda (mewn unrhywbeth) yn un dymunol. Mae proffesiynoldeb a chyrraedd yr uchelfannau yn llonni unrhywun yn ei waith. Yn yr un modd mae ymddygiad da (above and beyond yr hyn sydd angen i oroesi) heb yn codi teimladau llon. Felly mae bod yn dda yn golygu fod nefoedd yn gyflwr corfforol o deimlo'n dda am fod yn berson dymunol.
Byddai rhywun anymunol ar y llaw arall yn un nad yw'n trystio neb am ei ymddygiad ei hun, ac felly'n ymgorffoli uffern drwy ei deimladau ef.

(Dim lot o amser nawr, byddai'n trial son yn well yn y dyfodol agos).

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 11:04 am
gan sian
Foel Gornach a ddywedodd:Y portread o Iesu a geir yn aml yw ohonno fel ymerawdwr neu frenin grymus sy’n eistedd ar ddeheulaw un sy’n wychach a grymusach yn y nef.


Ond beth am eiriau Iesu ei hunan?:
Mathew 25:31 "Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a'r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd.

Foel Gornach a ddywedodd:Defnyddir y bygythiad o dân uffern ymhlith pethau eraill i gadw pobol mewn trefn.


Mathew 25:45 "Bydd yn ateb, 'Credwch chi fi, beth bynnag wrthodoch chi ei wneud i helpu'r un mwya dinod o'r rhain, gwrthodoch chi ei wneud i mi.'
46 "Wedyn byddan nhw'n mynd i ffwrdd i gael eu cosbi'n dragwyddol, ond bydd y rhai cyfiawn yn cael bywyd tragwyddol."

Dim treio baglu neb ydw i - eisiau deall y safbwynt. Wir!

Dw i ddim yn meddwl bod llawer o gysylltiad rhwng safbwynt ceribethlem uchod â Christnogaeth (yn ôl fy nealltwriaeth i - bosib bod Foel Gornach yn anghytuno) - a dim bod yn annymunol yw hynna!

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 11:08 am
gan ceribethlem
sian a ddywedodd: Dw i ddim yn meddwl bod llawer o gysylltiad rhwng safbwynt ceribethlem uchod â Christnogaeth (yn ôl fy nealltwriaeth i - bosib bod Foel Gornach yn anghytuno) - a dim bod yn annymunol yw hynna!

Syniad fy hun yw hwn, nid trial cyfleu safbwynt Cristnogaeth (sori os oedd hwn wedi achosi dryswch)

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 4:56 pm
gan Senghennydd
Calondid o'r mwyaf yw gweld trafodaeth mor fywiog ac ystyrlon ar faterion pwysfawr yn y seiat hon sydd mor aml wedi ei herwgipio gan bobl sydd eisiau dim ond rhefru, a pheidio darllen.
A benthyg o fyd gwyddonias, dychmygwch orfod cyflwyno Cristnogaeth i ymwelydd o blaned neu fydysawd arall heb ei fagu yn ein diwylliant.
Oni fyddai'r cwbl yn ymddangos mor ffansiol a straeon Duwiau Groeg?

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:20 pm
gan sian
Senghennydd a ddywedodd:A benthyg o fyd gwyddonias, dychmygwch orfod cyflwyno Cristnogaeth i ymwelydd o blaned neu fydysawd arall heb ei fagu yn ein diwylliant.
Oni fyddai'r cwbl yn ymddangos mor ffansiol a straeon Duwiau Groeg?


Sdim eisie mynd mor bell â hynny - mae Cristnogaeth yn gallu bod yn syniad hollol ddierth i'r bobol sy'n byw lawr y stryd.
Ond y peth rhyfeddol yw bod pobol hyd yn oed heddi yn ei dderbyn a bod geirie rhywun fel William Williams, Pantycelyn mor berthnasol i bobol ifanc nawr ag oedden nhw pan gawson nhw'u sgrifennu.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:23 pm
gan Mr Gasyth
ceribethlem a ddywedodd:Mae'r syniad o bod yn dda (mewn unrhywbeth) yn un dymunol. Mae proffesiynoldeb a chyrraedd yr uchelfannau yn llonni unrhywun yn ei waith. Yn yr un modd mae ymddygiad da (above and beyond yr hyn sydd angen i oroesi) heb yn codi teimladau llon. Felly mae bod yn dda yn golygu fod nefoedd yn gyflwr corfforol o deimlo'n dda am fod yn berson dymunol.
Byddai rhywun anymunol ar y llaw arall yn un nad yw'n trystio neb am ei ymddygiad ei hun, ac felly'n ymgorffoli uffern drwy ei deimladau ef.


Diolch Ceri, diddorol iawn yn arbennig gan fy mod wedi meddwl am y gymhariaeth yma hun o'r blaen. H.y mynd i'r nefoedd ydi marw yn hapus eich bod wedi byw bywyd cystal ag sydd bosib yn ol eich moesau chi. Does dim angen bodolaeth nefoedd Gristnogol i gyflawni hyn - gall anffyddiwr hefyd anelu at allu dweud 'ymdrechais ymdrech deg, gorffenais fy ngyrfa, cedwais y ffydd [yn y ffordd iawn o fyw]'

Senghenydd a ddywedodd:A benthyg o fyd gwyddonias, dychmygwch orfod cyflwyno Cristnogaeth i ymwelydd o blaned neu fydysawd arall heb ei fagu yn ein diwylliant.
Oni fyddai'r cwbl yn ymddangos mor ffansiol a straeon Duwiau Groeg?


Dwi ddim yn meddwl fod angen dod o blaned arall i gredu fod y ddau yn union mor ffantasiol a'i gilydd...

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:54 pm
gan Kez
Beth ifi'n ffilu ei ddeall yw beth ryn ni fod i neud ar ol y 'three score and ten' a ninna'n credu yn yr achos. Y rhai drwg yn pydru yn Uffern am eu camweddau a ninna'n' canu'n braf yn y Nefoedd am fod yn fois da. Beth yw bywyd tragwyddol - fflyffan rownd fel rhyw anglyion ne 'be - 'sneb yn son am hwnna ond be' sy'n ein dishgwl ni go-iawn os yw'r Beibl yn iawn. Mae tragwyddoldeb yn uffach o amser hir i hedfan rownd y lle. Ma'n swno'n gwestiwn amharchus i rai ma'n siwr gen i ond be' yw byw bywyd yn y Nefoedd ar ddiwedd y dydd; dyw Cristnogaeth ddim yn gadal inni gal gafal ar y 'virgins' 'na - o leia fi alla i ddeall y Moslemiaid yn hynny o beth er bysa sielffo a sielffo yn mynd yn boring ar ol sbel hefyd.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 6:07 pm
gan Senghennydd
Cytuno'n llwyr Mr Gasyth ar y 2 bwynt. :D
Bues i braidd yn drwsgwl yn gadael y gymhariaeth wyddonias mor ben agored. Jyst ceisio procio'r syniad o feddwl tu allan i'n syniadau derbyniedig ni oeddwn i....