Crefydd George W Bush a Llygredd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Gideon » Gwe 25 Ion 2008 12:26 pm

Wel mi wnai gyfaddef fod 'Creed' yn ffanstastig o fand. Ond ti a dy strums ar yr offbeat, a hyrwyddo planhigyn Liwsiffar yn dy eiriau, eeeeeewadd, dwnim be sy di digwydd i'r Hen Ffordd Gymreig o Fyw. :?
Gideon
 

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Gai Toms » Gwe 25 Ion 2008 12:44 pm

Hen ffordd Gymreig o fyw? Wyt ti'n mynd a'r drafodaeth oddiar ei lwybr Mr Gideon. Ond mae'r diafol ynddaf isio mi ymateb! Yr hen ffordd Gymreig o fyw? Ddaru Edward H ganu am hynny do? Mewn steil Rock a Roll? mmmmm....

Rastafari = Camddehongliad o'r beibl?
Y Beibl = camddehongliad o'r greadigaeth?

Rastafari = Babylon
Babylon = Gwareiddiad
Gwareiddiad = Barusrwydd
Barusrwydd = Olew
Olew = Diwylliant Gorllewinol
Diwylliant Gorllewinol = America / Prydain
America = Bush / Brown (Blair)
Golygwyd diwethaf gan Gai Toms ar Maw 04 Maw 2008 2:28 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Gideon » Gwe 25 Ion 2008 1:01 pm

Ia, wel, elli di brofi unrhywbeth hefo ffeithiau gelli?
Dos nol i Jah-land y race-trader. Pass the duchy on the left hand side myn uffarn i. :rolio:
Gideon
 

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Gai Toms » Gwe 25 Ion 2008 1:44 pm

Pobl fel hyn sydd yn creu rhyfeloedd de!

...jiggy...jiggy...skank...skank...oi ...oi....Rastafari....ie....jiggy....jiggy....three little birds, by my door step, singing sweet songs...... jiggy........jiggy...... ia man..... stamp that downbeat!

Ebol bychan, ebol bychan....

Sgwni sut mae pobl duon wedi mynd i'r Caribi beth bynnag? Mae'n siwr fod hynny yn enw'r Arglwydd mawr hefyd doedd? Os hynny, wel diolch i Dduw am Reggae! Blues! R'n'B! a Rock! Calypso! Rhumba! Cerddoriaeth poblogaidd yn gyffredinol. Mae America wedi cael dylanwad enfawr ar steils cerddorol, diolch i Dduw am hynny fyd de? Piti am lywodraeth y lle!

Gawn ni plis fynd yn ol i'r drafodaeth, ta ydi'r Diafol wedi cydio yn Mr Gideon go iawn i ymateb yn groes?
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Gideon » Gwe 25 Ion 2008 2:24 pm

Os yw cynesu byd-eang yn wirionedd, yna hyn y dymuna Duw i ddigwydd. Mae cania Pepsi fi'n mynd syth i'r bin.
Gideon
 

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Gai Toms » Gwe 25 Ion 2008 2:38 pm

Iesgob...wps...sori...ymateb gall! Ti'm yn ailgylchu felly? Ta mynegiant symbolaidd o roi 'America' yn y bin oedd hwnna?
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Mwnci Banana Brown » Gwe 25 Ion 2008 2:48 pm

Gideon a ddywedodd:Os yw cynesu byd-eang yn wirionedd, yna hyn y dymuna Duw i ddigwydd. Mae cania Pepsi fi'n mynd syth i'r bin.


Ma na'n agwedd hollol hunanol. Ti'n gweud bod ddim ishe ti neud ddim byd i helpu'r ffaith bod y byd yn cynesu achos mae na beth ma Duw moin i ti neud. Cer i ol y Duw ma i fi cal gair da fe nei di!
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Gideon » Gwe 25 Ion 2008 2:51 pm

Dwi'm yn ailgylchu nadw, a naci nid symboliaeth oedd hwna. Dwi'n credu fod ein brodyr Arian ni o'r ochor arall i'r Atlantig hefo'r syniad iawn am llawer o bethau.
Gideon
 

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

Postiogan Manon » Gwe 25 Ion 2008 3:30 pm

Gideon a ddywedodd:Os yw cynesu byd-eang yn wirionedd, yna hyn y dymuna Duw i ddigwydd. Mae cania Pepsi fi'n mynd syth i'r bin.


Ti sy'n penderfynu rhoi'r can pepsi yn y bin ddo ynde? Be' ti'n gwneud ydi cymryd cyfrifoldeb oddi arnat ti dy hun a rhoi o yn nwylo Duw- Sa ti'n gallu pynsho rhywun yn ei wyneb, a wedyn deud "O wel, dyna mai Duw yn dymuno i ddigwydd, felly mae o'n iawn."

A, gyda llaw, mae'r Duw 'dwi'n nabod yn credu'n gryf mewn goddefgarwch...
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron