Tudalen 1 o 2

Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 2:50 pm
gan Gai Toms
Eironig yw darganfod mai 'fflam' a 'chroes' yw symbol crefydd yr hen Bush, United Methodist Church - http://www.umc.org ac yntau'n arlywydd ar y wlad, a'r fyddin, sy'n creu'r rhan fwyaf o CO2 (gan ddyn) y byd. Ydio'n creu'r llygredd ma yn enw Duw? Os hynny, sut fath o lysgennad ydy'r dyn i'r berthynas rhwng crefydd a'r amgylchfyd?
Nes i drio mynegi'r cwestiwn yma yn fy nghan - Iesu Grist o Nefoedd yr Adar, ar yr album - Yr Eira Mawr.

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 3:42 am
gan huwwaters
Y broblem yw, fod nifer o'r criw George Bush ma'n gwadu cynhesu byd eang achos bod nhw'n meddwl na gweithred Duw ydio. Ma nhw'n meddwl fod y morodd yn codi, llifogydd, y byd yn mynd yn boeth yn gamau cyntaf armageddon.

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 4:08 am
gan Sioni Size
Yndi, mae'n hynod gyfleus i rai o'r bobl sy'n argyhoeddiedig yn eu crefydd fod Duw eisiau gweld yr union beth y mae nhw'n ei weithredu, megis Tony Blair neu eithafwyr Sharia yn enghreifftiau eraill ar ben Bush a'i gabal afiach a'i gefnogwyr efangelaidd mental. God on Our Side ys dywedodd Bob Dylan hefyd.

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 11:22 am
gan Gai Toms
Sioni Size: Y broblem yw, fod nifer o'r criw George Bush ma'n gwadu cynhesu byd eang achos bod nhw'n meddwl na gweithred Duw ydio.


Mae tystiolaeth wyddonol yn profi bod y byd yn mynd drwy oesau o gynhesu a rhewi beth bynnag, ers ddydd Sul pys! Gallwn alw hyn yn weithred y Duw ddwyfol neu'r 'Duw' wyddonol, dibynnu be da chi'n goelio. Ond gall dyn mor bwerus a Jorj 'Hick, scuse me while I spit tobbacco into a galvanized bucket!Ping!!' Doubla-ya Beush ddim gwadu'r dystiolaeth wyddonol bod llygredd dyn yn cyfrannu at yr oes sydd ohoni. Falla bod America wedi cyfaddef yn ddiweddar mai effaith y ddynoliaeth sydd yn achosi'r newid hyn, (dim yn siwr be mae nhw wedi' wneud ohono?) ond mae cerbydau milwrol yn dal i fynd tua'r Dwyrain canol, mae'r gynnau dal i gael eu saethu a mae pobl yn cael eu lladd. Tydw i ddim yn dweud bod y Dwyreinwyr ddim yn angylion chwaith.

Mae'n anodd i mi gofio diwrnod lle nad oes awyren milwrol wedi hedfan dros fy nhy o Valley, Sir Fon! Nid yn unig di'r awyrenau diawledig ma yn gollwng llygredd i'r nefoedd, ond mae nhw'n llygru fy nghlustiau tendar hefyd! Mae'n waeth na gwrando ar Arfon Wyn! Iawn, dwi wedi hedfan fy hun er mwyn pleser, dwi'n cyfaddef fy mod yn euog o 'Decadanteiddio dan y nef' er mwyn fy hapusrwydd hunaol i, ond mae gennyf reolaeth dros fy hun i stopio hynny, fel mae gan pobl fel Georgy reolaeth dros newid y ffordd mae'r Pentagon, a'i wlad, yn llygru.

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 11:32 am
gan Rhys Llwyd
Dywed Bobi Jones mai rhan o’r broblem oedd y newid agwedd ymhlith Calfinwyr efengylaidd tuag at ddiben a gwaith yr Eglwys; 'Symudwyd diben yr Eglwys oddi wrth Ogoneddu Duw i Achub dyn... Tueddwyd bellach i roi blaenoriaeth i Efengylu ar draul Gogoneddu Duw yn ei lawnder.' Wrth gwrs ei bod hi’n fraint ac yn anrhydedd i’r eglwys gyhoeddi bod Iesu’n Waredwr er mwyn ennill eneidiau ato ond mae’r un mor bwysig datgan bod Iesu’n Arglwydd ar ein bywydau ac ar ein byd, ac felly bod gwarchod yr amgylchedd yn ddyletswydd i'r Cristion. Rhaid cadw’r cydbwysedd rhwng y ddau. Dywed Bobi Jones unwaith yn rhagor; 'Ni sylweddolwyd llawn ddyletswyddau dyn ar y ddaear gerbron Duw, mewn gwaith pob dydd, yn y celfyddydau, mewn addysg, mewn hamdden, mewn gwyddoniaeth, mewn cymdeithas.' Gallwn ddeall a chydymdeimlo pam fod y symud yma wedi digwydd - yn dilyn rhyfyg yr Efengyl Gymdeithasol yr oedd angen gwneud safiad a dod â'r sôn am bechod, yr Iawn a thröedigaeth yn ôl. Ond a wyrwyd yn ormodol i'r pegwn arall? Wel yn sicr felly os ydy Bush a'i debyg yn ddigon parod i son am eu statws "born again" ond yn gwadu perthnasedd eu ffydd y broblemau fel yr amgylchedd.

Credaf fod un athrawiaeth greiddiol wedi eu hesgeuluso gan rai Cristnogion diwygiedig, Bush yn eu plith.
Y Gorchymyn Diwylliannol. Fis Mawrth mynychais y Brecwast Gweddi Cenedlaethol dros Gymru pan ddywedodd y prif siaradwr, Antoine Rutayisire o Rwnada rywbeth tebyg i 'God created Man, and told him to govern the Earth, therefore I would argue that the second thing God created after man was politics!' Wrth gwrs, cyfeirio at y Gorchymyn Diwylliannol ydoedd, sef y gorchymyn hwnnw a roddodd Duw i Adda yn Genesis 1:28 a 2:15, gorchymyn a gafodd ei ail-adrodd i Noa yn Genesis 9:1-3 a 9:7 a'r gorchymyn sy'n dal i sefyll yn gwbl urddasol ochr yn ochr â'r Gorchymyn Cenhadol. Yr egwyddor sylfaenol yw gorchymyn i Gristnogion ymhél â'r byd, ac mae hynny’n cynnwys gwleidyddiaeth sydd hefyd yn cynnwys amgylcheddiaeth. Dylai Cristnogion fynegi barn ac arwain ar bob math o faterion gan gynnwys yr amgylchedd.

Yr hyn sy'n ddiddorol am ddiffyg ymroddiad llawer o Efengylwyr i'r frwydr amgylcheddol yw fod y sail ddiwinyddol i amddiffyn y greadigaeth i'w ganfod yn yr Hen Destament ac fel rheol mae Efengylwyr adain dde yn reit keen ar yr Hen Destament i gyfiawnhau eu rhyfel ayyb... ond am yr amgychedd... ei anwybyddu bid siwr!

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 11:44 am
gan Mr Gasyth
Pam poeni am y byd yma pan mae'r un nesa'n mynd i fod gymaint gwell?

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 11:56 am
gan Gideon
Rhys Llwyd a ddywedodd:Fis Mawrth mynychais y Brecwast Gweddi Cenedlaethol dros Gymru pan ddywedodd y prif siaradwr, Antoine Rutayisire o Rwnada rywbeth tebyg i 'God created Man, and told him to govern the Earth, therefore I would argue that the second thing God created after man was politics!'

O, mi wnes i fynychu'r brecwast yno! Ewadd, tosna'm angan i ni boeni am y cnesu byd-eang ma wchi. Caiff pawb eu barnu fel y mae Duw yn gweld yn addas, a Duw a helpa'r sawl sydd ddim. (hynny ydi, "Duw a'ch helpo chi." ond eto, ni fydd Duw yn eich helpu chi)

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 11:57 am
gan Gai Toms
Mr Gasyth: Pam poeni am y byd yma pan mae'r un nesa'n mynd i fod gymaint gwell?


Ha ha ha!

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 12:00 pm
gan Gideon
Gai Toms a ddywedodd:
Mr Gasyth: Pam poeni am y byd yma pan mae'r un nesa'n mynd i fod gymaint gwell?


Ha ha ha!


Ia, chwerthwch chi y rocars/rafins. Chi a'ch 'reggae' diafolaidd. Cam-ddehongliad o'r Beibl yw'r mudiad 'Rastafari' wsdi. Sy'n eu gwneud hwythau yn bechaduriaid fel tithau Mr Toms.

Re: Crefydd George W Bush a Llygredd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 12:23 pm
gan Gai Toms
Gideon, rhag dy gywilydd di! Tydw i ddim yn Rastafarian....... ti a dy agwedd rhagfarnllyd! Rwyf yn perthyn i'r pathew yn y llwyn, yn perthyn i'r Eliffant yn y cae, rwyf yn perthyn i'r creadur troediog cyntaf daeth allan o'r mor, mae gennyf ffydd mewn be sydd a tystiolaeth iddo / gwyddoniaeth. Beth am y cerddoriaeth newydd ma sy'n cael ei chwarae gan fandiau christnogol? Yn chwarae miwisg Rock and Roll, Eh? "Rock is the music of the Devil" medda nhw ynde? Ble mae'r egwyddor yn fama Mr Gideon? A pwy yny byd ydw i wedi ei bechu? A? A? Dwi mond yn bechadur o fewn dy system epistemig di Mr Gideon! Tydw i ddim yn dy ragfarnu di am dy fod ti yn bechadur i'r system epistemig wyddonol nadw?

Beth bynnag, mae Bob Marley wedi gwneud mwy dros heddwch a chariad na ma George Bush erioed wedi ei wneud! Gawn ni fynd yn ol i'r drafodaeth plis...?? Jah!