Macsen a ddywedodd:Rooney, does dim amheuaeth am awdurdod y Beibl fel dogfen lled-hanesyddol. Y rhannau goruwchnaturiol ynddo a ddrwgdybir. Mae'n un peth i honni bod hwn a hwn wedi byw ar y pryd, sy'n ddigon tebygol o fod yn wir, ond chwedlau yw'r rhannau o'r Beibl sy'n honni gwyrthiau (esboniad ofergoelus pobol hanesyddol am ddigwyddiadau naturiol) a does dim tystiolaeth i'w profi.
mae gen ti "naturalistic presupposition" sydd yn dy rwystro rhag derbyn yr ysgrythur. Does dim prawf fod dy presupposition yn wir.
Petawn i'n sgwennu ar ddarn o bapur 'Fy enw i yw Ifan a dw i'n byw yn Aberystwyth, a heddiw wnes i droi dwr yn win,' a'i gladdu yn y ddaear, fe fyddai'n ddigon teg i bobol mewn 3,000 o flynyddoedd edrych ar y darn papur hwnnw a cydsynio bod person o'r enw Ifan wedi byw yn Aberyswyth yn y 21fed ganrif, ond fydden nhw'n ffol i gredu ail hanner cwbwl anhebygol y datganiad jesd oherwydd bod y rhan cynta'n wir. Ti'n dallt be sgen i?
nac ydw gan nad yw'r analogy yn gyfatebol i'r ysgrythurau o gwbl