The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan rooney » Iau 07 Chw 2008 2:37 am

CapS a ddywedodd:Wel, fel...ym...dim o gwbwl.


wel, yr wyt yn gwbl anghywir i feddwl fod dim tystiolaeth yn cefnogi Cristnogaeth. Mae Cristnogaeth wedi ei seilio ar ffeithiau. Mae Cristnogaeth yn mynd "all-in" ar atgyfodiad Crist. Dadbrofa atgyfodiad Crist yn llwyddianus ac ti'n chwalu Cristnogaeth. Fedry y wobr ddim bod yn uwch, chwalu worldview 2,000,000,000 o bobl fyd-eang. Ers 2,000 o flynyddoedd does neb wedi llwyddo i wneud hyn. Dyma pam dwi ddim yn disgwyl i neb wneud hyn ar maes-e, ond ar yr un pryd rwyf yn credu mewn gwyrthiau.

Paid meddwl rhaid i ti gymryd fy ngair i am hyn:-

1 Corinithiaid 15-33
12 Os dyn niín cyhoeddi fod y Meseia wedi ei godi yn Ùl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi? 13 Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn Ùl yn fyw, dydyír Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith. 14 Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydyír newyddion da syín cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag ñ mae beth dych chiín ei gredu yn gwbl ddiystyr! 15 Bydd hiín dod yn amlwg ein bod ni sy'n ei gynrychioli wedi bod yn dweud celwydd am Dduw! Roedden niín tystio bod Duw wedi codiír Meseia yn Ùl yn fyw ar Ùl iddo farw, ac yntau heb wneud hynny os ydy'n wir fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi. 16 Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn Ùl yn fyw, wnaeth y Meseia ddim dod yn Ùl yn fyw chwaith. 17 Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chiín ei greduín wastraff amser ñ dych chiín dal yn gaeth i'ch pechodau. 18 Ac os felly mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd. 19 Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dyn niín gobeithio yn y Meseia, dyn ni i'n pitÔo'n fwy na neb!20 Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi ei godi yn Ùl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf ñ fe ydyír cyntaf o lawer syín mynd i gael eu codi. 21 Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar Ùl marwolaeth drwy berson dynol hefyd. 22 Mae pawb yn marw am eu bod nhwín perthyn i Adda, ond mae pawb syín perthyn iír Meseia yn cael bywyd newydd. 23 Dymaír drefn: y Meseia ydy ffrwyth cyntaír cynhaeaf; wedyn, pan fydd eín dod yn Ùl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn. 24 Wedyn bydd y diwedd wedi dod ñ bydd y Meseiaín trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar Ùl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus. 25 Rhaid iír Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed. 26 Aír gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth. 27 Ydy, ìMae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdodî ñ ond wrth gwrs maeín amlwg nad ydy ëpopethí yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf! 28 Ar Ùl gwneud hyn, bydd y Mab yn ei roi ei hun i'r Un wnaeth osod popeth dan ei awdurdod, a bydd Duw yn llenwi popeth.
29 Os ydyír rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn Ùl yn fyw, beth ydyír pwynt o bobl yn cymryd eu bedyddio er mwyn y rhai sydd wedi marw? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn Ùl yn fyw, maeín ddiystyr. 30 A beth amdanon ni! Pam dyn ni'n fodlon peryglu'n bywydau drwy'r adeg? 31 Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae'n wir ffrindiau ñ cyn sicred ‚'r ffaith fy mod i'n falch o beth maeír Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi ei wneud ynoch chi. 32 Pa fantais oedd i mi ymladd gydaír anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i'n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar Ùl marwolaeth?
ìGadewch i ni gael parti ac yfed,
falle byddwn ni'n marw fory!î
33 Peidiwch cymryd eich camarwain, achos ìmae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.î 34 Mae'n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chiín gweld, dydy rhai pobl sy'n eich plith chiín gwybod dim am Dduw! Dw i'n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan Dan Dean » Iau 07 Chw 2008 9:03 am

rooney a ddywedodd:Paid meddwl rhaid i ti gymryd fy ngair i am hyn:-

:lol: :lol: :lol:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan Llefenni » Iau 07 Chw 2008 9:42 am

Ond pa dystiolaeth hanesyddol cydamserol sy'na i 'brofi' bod Iesu Grist wedi atgyfodi? A pam bo ti mor keen ar gael y tystiolaeth ma pan na holl pwynt "ffydd" ydi'r ffaith bod dim angen tystiolaeth arna ti?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan CapS » Iau 07 Chw 2008 1:07 pm

rooney a ddywedodd:
CapS a ddywedodd:Wel, fel...ym...dim o gwbwl.


wel, yr wyt yn gwbl anghywir i feddwl fod dim tystiolaeth yn cefnogi Cristnogaeth. Mae Cristnogaeth wedi ei seilio ar ffeithiau. Mae Cristnogaeth yn mynd "all-in" ar atgyfodiad Crist. Dadbrofa atgyfodiad Crist yn llwyddianus ac ti'n chwalu Cristnogaeth. Fedry y wobr ddim bod yn uwch, chwalu worldview 2,000,000,000 o bobl fyd-eang. Ers 2,000 o flynyddoedd does neb wedi llwyddo i wneud hyn. Dyma pam dwi ddim yn disgwyl i neb wneud hyn ar maes-e, ond ar yr un pryd rwyf yn credu mewn gwyrthiau.

Paid meddwl rhaid i ti gymryd fy ngair i am hyn:-

1 Corinithiaid 15-33
12 Os dyn niín cyhoeddi fod y Meseia wedi ei godi yn Ùl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi? 13 Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn Ùl yn fyw, dydyír Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith. 14 Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydyír newyddion da syín cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag ñ mae beth dych chiín ei gredu yn gwbl ddiystyr! 15 Bydd hiín dod yn amlwg ein bod ni sy'n ei gynrychioli wedi bod yn dweud celwydd am Dduw! Roedden niín tystio bod Duw wedi codiír Meseia yn Ùl yn fyw ar Ùl iddo farw, ac yntau heb wneud hynny os ydy'n wir fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi. 16 Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn Ùl yn fyw, wnaeth y Meseia ddim dod yn Ùl yn fyw chwaith. 17 Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chiín ei greduín wastraff amser ñ dych chiín dal yn gaeth i'ch pechodau. 18 Ac os felly mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd. 19 Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dyn niín gobeithio yn y Meseia, dyn ni i'n pitÔo'n fwy na neb!20 Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi ei godi yn Ùl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf ñ fe ydyír cyntaf o lawer syín mynd i gael eu codi. 21 Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar Ùl marwolaeth drwy berson dynol hefyd. 22 Mae pawb yn marw am eu bod nhwín perthyn i Adda, ond mae pawb syín perthyn iír Meseia yn cael bywyd newydd. 23 Dymaír drefn: y Meseia ydy ffrwyth cyntaír cynhaeaf; wedyn, pan fydd eín dod yn Ùl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn. 24 Wedyn bydd y diwedd wedi dod ñ bydd y Meseiaín trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar Ùl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus. 25 Rhaid iír Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed. 26 Aír gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth. 27 Ydy, ìMae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdodî ñ ond wrth gwrs maeín amlwg nad ydy ëpopethí yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf! 28 Ar Ùl gwneud hyn, bydd y Mab yn ei roi ei hun i'r Un wnaeth osod popeth dan ei awdurdod, a bydd Duw yn llenwi popeth.
29 Os ydyír rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn Ùl yn fyw, beth ydyír pwynt o bobl yn cymryd eu bedyddio er mwyn y rhai sydd wedi marw? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn Ùl yn fyw, maeín ddiystyr. 30 A beth amdanon ni! Pam dyn ni'n fodlon peryglu'n bywydau drwy'r adeg? 31 Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae'n wir ffrindiau ñ cyn sicred ‚'r ffaith fy mod i'n falch o beth maeír Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi ei wneud ynoch chi. 32 Pa fantais oedd i mi ymladd gydaír anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i'n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar Ùl marwolaeth?
ìGadewch i ni gael parti ac yfed,
falle byddwn ni'n marw fory!î
33 Peidiwch cymryd eich camarwain, achos ìmae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.î 34 Mae'n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chiín gweld, dydy rhai pobl sy'n eich plith chiín gwybod dim am Dduw! Dw i'n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi.

Does dim mwy o dystiolaeth i gefnogi cywirdeb hanesyddol y Beibl nag sydd i gefnogi bodolaeth Arthur neu Robin Hood. Mae yna rhyw sail hanesyddol iddynt - mae'n bosib bod rhywun wedi bodoli sy'n sail i'r straeon - ond ymestyniad yw'r gweddill gan awduron ganrifoedd ar ol y digwyddiad/bodolaeth yr unigolyn real.

Ac os nad yw'r Beibl yn hanesyddol cywir, sut gallwn ni gredu pob gair ynddo? Ac os na allwn gredu pob gair, pa ddarnau ddylwn gredu? A phwy sy'n penderyfynnu?
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan rooney » Iau 07 Chw 2008 8:33 pm

CapS a ddywedodd:Does dim mwy o dystiolaeth i gefnogi cywirdeb hanesyddol y Beibl nag sydd i gefnogi bodolaeth Arthur neu Robin Hood. Mae yna rhyw sail hanesyddol iddynt - mae'n bosib bod rhywun wedi bodoli sy'n sail i'r straeon - ond ymestyniad yw'r gweddill gan awduron ganrifoedd ar ol y digwyddiad/bodolaeth yr unigolyn real.


Rwy'n anghytuno'n llwyr. Ble mae dy dystiolaeth?

http://www.seeking4truth.com/historical ... _bible.htm
http://www.christianadvice.net/the_bible_accuracy.htm
http://www.christianadvice.net/the_bible_as_history.htm
http://www.facingthechallenge.org/arch2.php

http://www.timesonline.co.uk/tol/commen ... 056362.ece
"The British Museum yesterday hailed a discovery within a modest clay tablet in its collection as a breakthrough for biblical archaeology – dramatic proof of the accuracy of the Old Testament.

The cuneiform inscription in a tablet dating from 595BC has been deciphered for the first time – revealing a reference to an official at the court of Nebuchadnezzar, king of Babylon, that proves the historical existence of a figure mentioned in the Book of Jeremiah.

This is rare evidence in a nonbiblical source of a real person, other than kings, featured in the Bible. "
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan Llefenni » Iau 07 Chw 2008 9:11 pm

Dim y ffaith nad ydyn nhw wedi bodoli ydir ddadl, ond tystiolaeth eu bod yn oruwchnaturiol / bod grym goruwchnaturiol neith ddiwedd y dadlau.

Ond eto, pam bo ti mor awyddys i roi "tystiolaeth" i bawb sy'n darllen, pan na ffydd ydi gyd sy' isio?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan Boibrychan » Gwe 08 Chw 2008 12:38 am

Rooney Rooney ymlacia a gad iddo dy gyffwrdd a'i atodiadau nwdlaidd.

Yna fy fyddet yn deall pam mor wag yw dy fywyd hebddo.

Ond paid a gwrando i'r diawliaid progresif sy'n credu ym mlas cyffrous Ragu, Dolmio am byth amen.
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan huwwaters » Gwe 08 Chw 2008 5:02 pm

rooney a ddywedodd:http://www.timesonline.co.uk/tol/comment/faith/article2056362.ece
"The British Museum yesterday hailed a discovery within a modest clay tablet in its collection as a breakthrough for biblical archaeology – dramatic proof of the accuracy of the Old Testament. "


Ond eto mae'r Crist yn dad-wneud popeth sydd wedi ei ddeud yn yr Hen Destament gyda ei ddysgiade fo?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan Macsen » Gwe 08 Chw 2008 5:22 pm

Rooney, does dim amheuaeth am awdurdod y Beibl fel dogfen lled-hanesyddol. Y rhannau goruwchnaturiol ynddo a ddrwgdybir. Mae'n un peth i honni bod hwn a hwn wedi byw ar y pryd, sy'n ddigon tebygol o fod yn wir, ond chwedlau yw'r rhannau o'r Beibl sy'n honni gwyrthiau (esboniad ofergoelus pobol hanesyddol am ddigwyddiadau naturiol) a does dim tystiolaeth i'w profi.

Petawn i'n sgwennu ar ddarn o bapur 'Fy enw i yw Ifan a dw i'n byw yn Aberystwyth, a heddiw wnes i droi dwr yn win,' a'i gladdu yn y ddaear, fe fyddai'n ddigon teg i bobol mewn 3,000 o flynyddoedd edrych ar y darn papur hwnnw a cydsynio bod person o'r enw Ifan wedi byw yn Aberyswyth yn y 21fed ganrif, ond fydden nhw'n ffol i gredu ail hanner cwbwl anhebygol y datganiad jesd oherwydd bod y rhan cynta'n wir. Ti'n dallt be sgen i?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

Postiogan Positif80 » Gwe 08 Chw 2008 6:56 pm

Cytuno hefo Macsen o ran sail hanesyddoil y Beibl. Ok, mae'n eithaf sicr fod dyn o'r Iesu wedi byw rywbryd o gwmpas yr amser a soniwyd amdani yn y Beibl. Iawn, 'roedd y Rhufeiniaid yn y rhan yna o'r byd.

Ond ewch yn ol i'r hen Destament...lle mae'r tystiolaeth fod Abraham a Moses wedi bodoli go iawn? Lle mae'r tystiolaeth dros gwaith adeiladu Twr Babel. Ddim cytundebau na tendrau' wedi goroesi :winc:. Lle mae'r tystiolaeth fod Noah wedi bodoli, a nid jest rip off o hanes frenin o lle mae'r Iran presennol oedd o? Lle mae'r tystiolaeth i brofi fod Job wedi bodoli?

Mae'r Beibl yn gasgliad o straeon, fel rhai Aesop. Mae nhw yn i esbonio sut i fyw eich bywyd, ond nid yw'r straeon far-fetched cymeryd yn llythrennol - heblaw am y hippy o Nazareth oedd yn Dduw ond oedd dal yn siarad hefo Duw fel tasa Duw yn dad iddo - that makes perfect sense. Ydw i wir i fod i goelio stori Daniel neu Job? Duw yn cael bet hefo'r Diafol? Oedd Satan yn ymweld a'r nefoedd am beint neu ddau hefo Duw neu rywbeth?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron