Tudalen 3 o 3

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Chw 2008 7:01 pm
gan rooney
Macsen a ddywedodd:Rooney, does dim amheuaeth am awdurdod y Beibl fel dogfen lled-hanesyddol. Y rhannau goruwchnaturiol ynddo a ddrwgdybir. Mae'n un peth i honni bod hwn a hwn wedi byw ar y pryd, sy'n ddigon tebygol o fod yn wir, ond chwedlau yw'r rhannau o'r Beibl sy'n honni gwyrthiau (esboniad ofergoelus pobol hanesyddol am ddigwyddiadau naturiol) a does dim tystiolaeth i'w profi.


mae gen ti "naturalistic presupposition" sydd yn dy rwystro rhag derbyn yr ysgrythur. Does dim prawf fod dy presupposition yn wir.

Petawn i'n sgwennu ar ddarn o bapur 'Fy enw i yw Ifan a dw i'n byw yn Aberystwyth, a heddiw wnes i droi dwr yn win,' a'i gladdu yn y ddaear, fe fyddai'n ddigon teg i bobol mewn 3,000 o flynyddoedd edrych ar y darn papur hwnnw a cydsynio bod person o'r enw Ifan wedi byw yn Aberyswyth yn y 21fed ganrif, ond fydden nhw'n ffol i gredu ail hanner cwbwl anhebygol y datganiad jesd oherwydd bod y rhan cynta'n wir. Ti'n dallt be sgen i?


nac ydw gan nad yw'r analogy yn gyfatebol i'r ysgrythurau o gwbl

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Chw 2008 7:06 pm
gan rooney
Positif80 a ddywedodd:Cytuno hefo Macsen o ran sail hanesyddoil y Beibl. Ok, mae'n eithaf sicr fod dyn o'r Iesu wedi byw rywbryd o gwmpas yr amser a soniwyd amdani yn y Beibl. Iawn, 'roedd y Rhufeiniaid yn y rhan yna o'r byd.

Ond ewch yn ol i'r hen Destament...lle mae'r tystiolaeth fod Abraham a Moses wedi bodoli go iawn? Lle mae'r tystiolaeth dros gwaith adeiladu Twr Babel. Ddim cytundebau na tendrau' wedi goroesi :winc:. Lle mae'r tystiolaeth fod Noah wedi bodoli, a nid jest rip off o hanes frenin o lle mae'r Iran presennol oedd o? Lle mae'r tystiolaeth i brofi fod Job wedi bodoli?


Mae wedi ei gofnodi yn yr hen destament, mae archaeoleg yn cefnogi'r Beibl dro ar ol tro. Pa fath o dystiolaeth wyt ti'n chwilio amdano? Onid y gwir yw dy fod yn cyfyngu y dystiolath ti'n fodlon derbyn, gan honni dy fod ond am dderbyn tystiolaeth ti'n gwybod sydd ddim ar gael e.e. cytundebau a tendrau twr babel. Nid yw pobl yn dueddol o drafferth ymosod ar y Beibl yn hanesyddol bellach gan fod darganfyddiadau yn cefnogi ei gywirdeb dro ar ol tro.

Mae'r Beibl yn gasgliad o straeon, fel rhai Aesop. Mae nhw yn i esbonio sut i fyw eich bywyd, ond nid yw'r straeon far-fetched cymeryd yn llythrennol - heblaw am y hippy o Nazareth oedd yn Dduw ond oedd dal yn siarad hefo Duw fel tasa Duw yn dad iddo - that makes perfect sense. Ydw i wir i fod i goelio stori Daniel neu Job? Duw yn cael bet hefo'r Diafol? Oedd Satan yn ymweld a'r nefoedd am beint neu ddau hefo Duw neu rywbeth?


pryd wyt ti am gynnig tystiolaeth i gefnogi dy honiadau?

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Chw 2008 7:11 pm
gan rooney
Llefenni a ddywedodd:Ond pa dystiolaeth hanesyddol cydamserol sy'na i 'brofi' bod Iesu Grist wedi atgyfodi? A pam bo ti mor keen ar gael y tystiolaeth ma pan na holl pwynt "ffydd" ydi'r ffaith bod dim angen tystiolaeth arna ti?


mae'r ffydd Gristnogol yn seiliedig ar dystiolaeth! Rwyf wedi pwyntio allan unwaith yn barod fod Cristnogaeth yn mynd "all-in" ar yr atgyfodiad. Edrycha ar y lincs ar fy llofnod youtube ac mae cyfresi o fideos yn ystyried y dystiolaeth am yr atgyfodiad.

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Chw 2008 7:17 pm
gan Macsen
rooney a ddywedodd:mae gen ti "naturalistic presupposition" sydd yn dy rwystro rhag derbyn yr ysgrythur. Does dim prawf fod dy presupposition yn wir.

Wel os wyt ti'n fy nghyhuddo o seilio fy marn o'r byd ar dystiolaeth yn hytrach nag straeon amheus wedi eu hadrodd gan dystion annibynadwy, yna dwi'n euog. Dwi'm yn meddwl fod derbyn y realiti o'm cwmpas yn 'rhagdybiaeth' o gwbwl - dw i heb weld unrhyw beth i awgrymu bod y byd yn gweithrdu fel arall, tu hwnt i greadigaethau gobeithiol fy nychymyg bywiog i ac eraill.

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

PostioPostiwyd: Maw 12 Chw 2008 3:17 pm
gan Senghennydd
A phob parch Rooney, wnei di stopio herwgipio'r drafodaeth hon am Yr Anghenfil Spageti i wthio dy Dduw di lawr corn gyddfau pobl yn eithaf sarhaus: "pam gwastraffu dy amser?" oedd dy ymateb i fy nghwestiwn i.
Dechrau'r edefyn yma wnes i i gael clywed gan eraill am y ffydd newydd hon.
Mae digon o drafodaethau eraill yn mynd ymlaen yn y Seiat hon am Gristnogaeth a'i 'thystiolaeth' honedig.
Oes rhywun wedi gweld tystiolaeth o waith Ei Nwdls yn hanes Cymru?

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

PostioPostiwyd: Maw 12 Chw 2008 3:32 pm
gan Llefenni
Mae lot wedi son daw'r un Nwdledig wnaeth hepgor Llewelyn ein Llyw Olaf yng nghilmeri, ac hyn nes y bydd Cymru yn dychwelyd i'r gwir ffydd sawslyd na fydd rhyddid i'r wlad fyth eto :(

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

PostioPostiwyd: Maw 12 Chw 2008 4:27 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Senghennydd a ddywedodd:Oes rhywun wedi gweld tystiolaeth o waith Ei Nwdls yn hanes Cymru?


Roedd 'na lofrudd Nwdledig yn trigo yn ardal Dolgellau unwaith... http://flickr.com/photos/53326223@N00/202700089/

Re: The Gospel of the Flying Spaghetti Monster?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 2:09 pm
gan Senghennydd
Diolch am y linc a'r llun. Diddorol bod un wedi cymryd ei Enw E, er ei fod yn llofrudd: mae'r materion crefyddol 'ma'n ddyrys iawn.
Dim ond dechrau meddwl am y pwnc ydwi, ond dyma rai materion sydd wedi fy nharo:
Gwelaf bod yr Anghenfil yn ffafrio midgets yn ol yr efengyl. Onid yw Cymry yn draddodiadol wedi bod yn bobl fyr? Ai pwysau ei nwdls ar ein cyn-deidiau a achosodd hyn?
Byddai'n hynny'n ffitio dehongliad nifer o genedlaetholwyr o hanes Cymru?

Ai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod Cymry'n dalach nawr gan ein bod yn cael mwy o faeth gan fwydydd gwell - fel Pot Noodles, sydd yn ol hysbysebion diweddar yn cael eu cloddio yng Nghymru. Ydi hyn yn arwydd efallai ei fod E am ymddangos?