Macsen a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:Digon teg. Jest dweud.
Mae'n fwy na 'jesd dweud', tydi? Ti'n ein bygwth ni gyda artaith diderfyn, cael ein byta gan fwydod llwglyd ayyb, os na wnawn ni gredu'r un peth a ti.
Tyd lan Macsen, tyn y chip yna off dy ysgwydd. Nid fi, y Cristion, ddechreuodd yr edefyn yma yn pryfocio, ond Huw o'r garfan anffyddiol. Mi wyddost yna iawn na fuasw ni yn meiddio dechrau y fath edefyn pryfoclyd - dwi rioed wedi "bygwth" neb gyda fflamau uffern ar y maes nac ydw i?! Dim ond cyfrannu i drafodaeth wnaeth Huw ddechrau gwnes i a ti'n bwyta mhen i ffwrdd - wyt ti'n dweud nad oes hawl gen i gyfrannu? Y peth ydy, a'r gwir plaen amdani yw hyn, os nad oes yna Dduw does dim byd genna i golli, dyna'r pwynt oeddw ni'n trio gneud. Pe taw ni wedi dechrau'r edefyn yma o safbwynt Cristnogol "rooneyaidd" mi fuasw ni yn eich "bygwth" chi "gyda artaith diderfyn" ond wnes i ddim. Felly tyd i lawr o dy orsedd hunanfoddhaus wyt ti'n meddwl sydd gen ti jest oherwydd dy fod di'n "agnostig" dysgedig sydd wedi cael glimpse o'm byd Cristnogol i ond wedi bod digon "goleuedig" i adael, yn wahanol i mi. Mi wyddost yn iawn, ac mae pawb sydd wedi trafod ffydd gyda mi, yn enwedig yn y cnawd, yn gwybod yn iawn mae deialog ac nid "bygythiadau" yw fy steil i, felly tyn dy eiriau yn ol plis. [/rant]