Os nad yw Duw yn bodoli...

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Iau 07 Chw 2008 2:42 am

Mr Gasyth a ddywedodd:dwi'n digwydd credu fod gan bobl y gallu i benderfynnu drosynt eu hunain be sy'n iawn a be sydd ddim, ac er fod yna rhai bobl ddrwg i gael mae'r rhan fwya o bobl yn sylfaenol dda.

Yn rhyfedd iawn 'might is right' oedd egwyddor sylfaenol trefn cymdeithas yn y gorllewin hyd tua dyw ganrif yn ol, pan ddaeth rhyddfrydiaeth a democratiaeth i gymryd drosodd. Aeth hyn law yn llaw efo lleihad yn nylanwad crefydd a'r eglwys ar ddeddf gwlad - felly roedd rheolaeth grefyddol a 'might is right' sy'n mynd efo'i gilydd tra bo democratiaeth yn cyd-fyw a seciwlariaeth. Rhyfedd de :rolio:


rwyt angen astudio hanes yr 20fed ganrif. Dan awdurdodau di-Dduw lladdwyd 100,000,000. Cei spinio cymaint ti'n hoffi ond rwyf i'n credu yn Nuw ac felly yr awdurdod yw Duw nid dyn. Nid wyt ti'n dymuno credu fod Duw yn bodoli felly i ti dyn yw'r awdurdod. Mae dyn wedi rhoi pwer i ddynion di-dduw ac mae 100,000,000 wedi eu lladd o ganlyniad. "Might" ti yw dyn, "might" fi yw God almighty. Rwyf i'n credu fod dyn yn bechadurus ac mae Duw yw'r unig awdurdod, rwyt ti'n meddwl mai dyn yw'r unig awdurdod a fod dyn ddim yn bechadurus.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Iau 07 Chw 2008 2:52 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Cristnogol "rooneyaidd" mi fuasw ni yn eich "bygwth" chi "gyda artaith diderfyn" ond wnes i ddim.


Rhys, rwyf yn dy barchu am fod yn Gristion ac am sefyll fyny am dy ffydd ar y maes. Ond gaf i ofyn "ffafr". Cei wadu fi gymaint ti'n hoffi, cei fy ngwawdio faint bynnag ti'n hoffi, ond mae fy safbwyntiau ynglyn a Cristnogaeth yn deillio o'r Beibl. Cei roi sialens i'r safbwyntiau yma os ti'n anghytuno, ond gobeithiaf fod ti am roi'r sialens o'r Beibl gan yn fy marn i dyma'r unig ffynhonell gyda awdurdod. Byddwn i mwy na hapus i newid fy safbwynt os ti'n gallu rhoi dadl Beiblaidd pam mae fy safbwynt yn anghywir. Rwyf wedi laru ar gymaint o Gristnogion yn anwybyddu neu'n gwadu'r Beibl i drio ffitio mewn i ffasiwn y gymdeithias bresennol. Nid wyf yn credu mae job yr Eglwys (pan dwi'n siarad am Egwlys rwyf wastad yn cyfeirio at yr Eglwys Crist fyd-eang sy'n cynnwys pob pobl sydd o ddifri am Crist, nid dim ond pobl sy'n cyfri eu hunain yn anglicans, catholics, methodistiaid, calfiniaid, bedyddwyr ayyb), nid wyf yn credu mae job yr eglwys yw i ffitio mewn i gymdeithas, ond yn hytrach, i rebelio yn erbyn cymdeithas WASTAD. Mae'r byd wastad yn mynd i fod yn bechadurus. Job yr eglwys yw aros yn gadarn, fel craig ddibynadwy, i roi arweiniad moesol a chymdeithasol. Oherwydd, Gair Duw sy'n gywir, mae Gair Duw wastad yn cael ei brofi'n gywir, mae pobl/cymdeithas/eglwysi/capeli/gwledydd sy'n anwydyddu Gair Duw yn cael eu dangos yn anghywir ac yn dioddef. Ac felly, rwyf yn sefyll ar air Duw yn y Beibl. Gan, os yw ni'n anwybyddu hyn yna ni'n chwalu ein ffydd- ac i blesio pwy? Wneith y sceptics ddim troi fyny i'ch eglwysi/capeli waeth faint chi'n gwerthu allan/gwadu y Beibl i fod yn cwl.
Golygwyd diwethaf gan rooney ar Iau 07 Chw 2008 3:17 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Iau 07 Chw 2008 3:06 am

Mr Gasyth a ddywedodd:dwi'n digwydd credu fod gan bobl y gallu i benderfynnu drosynt eu hunain be sy'n iawn a be sydd ddim, ac er fod yna rhai bobl ddrwg i gael mae'r rhan fwya o bobl yn sylfaenol dda.

Yn rhyfedd iawn 'might is right' oedd egwyddor sylfaenol trefn cymdeithas yn y gorllewin hyd tua dyw ganrif yn ol, pan ddaeth rhyddfrydiaeth a democratiaeth i gymryd drosodd. Aeth hyn law yn llaw efo lleihad yn nylanwad crefydd a'r eglwys ar ddeddf gwlad - felly roedd rheolaeth grefyddol a 'might is right' sy'n mynd efo'i gilydd tra bo democratiaeth yn cyd-fyw a seciwlariaeth. Rhyfedd de :rolio:


newydd sylweddoli, er fod ti'n dyfynnu fy nghwestiynau, nid wyt mewn difri yn ymateb iddynt
yr wyt yn datgelu dy fod yn meddwl mae stad dynol yw fod pobl yn "sylfaenol dda". Mae gen i ofn fod nid dim ond y Bebil, ond tystiolaeth realiti ac hanesyddol yn gweiddi'n gryf yn erbyn y fath syniad.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Iau 07 Chw 2008 3:12 am

Mr Gasyth a ddywedodd:dwi'n digwydd credu fod gan bobl y gallu i benderfynnu drosynt eu hunain be sy'n iawn a be sydd ddim, ac er fod yna rhai bobl ddrwg i gael mae'r rhan fwya o bobl yn sylfaenol dda.


petae hyn yn wir yna fe fyddai regimes di-Dduw yn fwy llwyddianus, goddefgar, rhyddfrydol ayyb. na regimes Duwiol. Mae hanes yn dangos fod dy gred yn gwbl anghywir. Mae regimes di-Dduw wedi mwrdro 100,000,000 mewn can mlynedd, a gyda record hawliau dynol hynod o anoddefgar. Y regimes mwyaf goddefgar, llwyddianus, rhyddfrydol yw gwledydd sydd gyda sail Judeo-Cristnogol. Go figure.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Muralitharan » Iau 07 Chw 2008 8:34 am

Rooney,
Rwyt ti wedi gwrthod ateb fy nghwestiwn ar edefyn arall, ond mi rwyt ti'n mynd ati i ymosod ar Mr Gasyth yn fan hyn am wneud yr un peth!! Anghysondeb efallai?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Dan Dean » Iau 07 Chw 2008 9:12 am

rooney a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:dwi'n digwydd credu fod gan bobl y gallu i benderfynnu drosynt eu hunain be sy'n iawn a be sydd ddim, ac er fod yna rhai bobl ddrwg i gael mae'r rhan fwya o bobl yn sylfaenol dda.

Yn rhyfedd iawn 'might is right' oedd egwyddor sylfaenol trefn cymdeithas yn y gorllewin hyd tua dyw ganrif yn ol, pan ddaeth rhyddfrydiaeth a democratiaeth i gymryd drosodd. Aeth hyn law yn llaw efo lleihad yn nylanwad crefydd a'r eglwys ar ddeddf gwlad - felly roedd rheolaeth grefyddol a 'might is right' sy'n mynd efo'i gilydd tra bo democratiaeth yn cyd-fyw a seciwlariaeth. Rhyfedd de :rolio:


rwyt angen astudio hanes yr 20fed ganrif. Dan awdurdodau di-Dduw lladdwyd 100,000,000.

A rwyt ti angen astudio hanes i gyd yr idiot. Ti rioed di clywed am unrhyw awrdurdod sy'n credu mewn duw ac wedi lladd miliynau? Os felly, yna be ffwc ydi dy bwynt?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Iau 07 Chw 2008 9:15 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Tyd lan Macsen, tyn y chip yna off dy ysgwydd. Nid fi, y Cristion, ddechreuodd yr edefyn yma yn pryfocio, ond Huw o'r garfan anffyddiol.
...
felly tyn dy eiriau yn ol plis. [/rant]

Wel, a dweud y gwir Rooney o'r garfan gwrthanffyddiol ddechreuodd yr edefyn. Felly tawela'r rant lawr 'mbach :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 07 Chw 2008 9:48 am

rooney a ddywedodd:Rhys, rwyf yn dy barchu am fod yn Gristion ac am sefyll fyny am dy ffydd ar y maes. Ond gaf i ofyn "ffafr". Cei wadu fi gymaint ti'n hoffi, cei fy ngwawdio faint bynnag ti'n hoffi, ond mae fy safbwyntiau ynglyn a Cristnogaeth yn deillio o'r Beibl. Cei roi sialens i'r safbwyntiau yma os ti'n anghytuno, ond gobeithiaf fod ti am roi'r sialens o'r Beibl gan yn fy marn i dyma'r unig ffynhonell gyda awdurdod.


Ymuna a Chylch y Cristion a cawn barhau a'r drafodaeth yma..... yn ol at y pwnc dan sylw
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Mr Gasyth » Iau 07 Chw 2008 10:15 am

Y regimes mwyaf goddefgar, llwyddianus, rhyddfrydol yw gwledydd sydd gyda sail Judeo-Cristnogol.


Alli di roi enghreifftiau o'r theocracies llwyddianus yma os gweli di'n dda?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Macsen » Iau 07 Chw 2008 10:20 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:dwi rioed wedi "bygwth" neb gyda fflamau uffern ar y maes nac ydw i?!

Felly pan oeddet ti'n siarad am yr 'oblygiadau' i bobol nad sy'n coelio, at beth yn union oeddet ti'n cyfeirio? Dyn ni gyd yn gwybod beth yw'r oblygiadau yn ol y Beibl - credwch neu i'r fflamau a chi. Ta os gen ti rai gwahanol?

Felly tyd i lawr o dy orsedd hunanfoddhaus wyt ti'n meddwl sydd gen ti jest oherwydd dy fod di'n "agnostig" dysgedig sydd wedi cael glimpse o'm byd Cristnogol i ond wedi bod digon "goleuedig" i adael, yn wahanol i mi.

Handbags! Wn i ddim pam wyt ti'n rhoi pethau mewn dyfyniadau, gan awgrymu mod i wedi eu dweud nhw, am nad ydw i wedi honni'r fath bethau erioed. Dw i ddim yn fwy goleuedig na neb arall - trafodaeth gonest o gynnwys y Beibl dw i ei eisiau, y testun crai. Nid 'chip ar fy ysgwydd' sy gen i, yn chwilio am ffeit; mae cristnogaeth yn fater difrifol, bydded o'n wir neu gau, ac mae'n haeddu trafodaeth gonest. Ac os nad ydi'r Beibl (ac felly by extension ti pan wyt ti'n trafod 'oblygiadau' peidio credu) yn bygwth uffern ar yr anghredadyn dw i'n barod i gael fy nghywiro.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai