Os nad yw Duw yn bodoli...

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Llun 04 Chw 2008 2:47 am

Os nad yw Duw yn bodoli... mae popeth yn dod yn ganiatol. Heb bwer gyda awdurdod uwch na ni yn sefydlu gwerthoedd y dylai ni drio byw tuag at, yna pa reswm allai fod e.e. yn erbyn y cryf yn gorthrymu ac yn dileu'r gwan? Wedi'r cyfan, heb awdurdod uwch na ni yna dyn yw'r awdurdod, ac os yw dyn yn penderfynnu fod rhywbeth yn dderbyniol yna dyna fo?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Llun 04 Chw 2008 9:06 am

Beth yn union yw dy bwynt di? Ydy hyn fod yn brawf fod Duw yn bodoli?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ffwrchamotobeics » Llun 04 Chw 2008 11:43 am

Be???
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Mwnci Banana Brown » Llun 04 Chw 2008 11:52 am

Ond dyn sy di penderfynu bod Duw yn 'dderbyniol' y ploncer!
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Llefenni » Llun 04 Chw 2008 12:35 pm

rooney a ddywedodd:Os nad yw Duw yn bodoli...

Postio gan rooney ar Llun Chw 04, 2008 3:47 am


Fyny trwy'r nos yn meddwl am Dduw, neu jyst digwydd bod Duw yn neud wy o sens ar ôl cwpl o Baileys? :?: :?: :?:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan huwwaters » Llun 04 Chw 2008 12:46 pm

Os nad yw Duw yn bodoli, ene ma na lot o bobl wedi wastio eu hamser a'u bywydau.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 04 Chw 2008 5:21 pm

huwwaters a ddywedodd:Os nad yw Duw yn bodoli, ene ma na lot o bobl wedi wastio eu hamser a'u bywydau.


Ond dychmyga ffordd arall, beth os ydy Cristnogaeth yn wir? Dwi a phrofiad fod o. Mae'r oblygiadau fod Cristnogaeth yn wir yn fwy difrifol i bobl nad sy'n coeli nag ydy'r oblygiadau i Gristnogion os nad ydy Cristnogaeth yn wir.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan huwwaters » Llun 04 Chw 2008 5:43 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Os nad yw Duw yn bodoli, ene ma na lot o bobl wedi wastio eu hamser a'u bywydau.


Ond dychmyga ffordd arall, beth os ydy Cristnogaeth yn wir? Dwi a phrofiad fod o. Mae'r oblygiadau fod Cristnogaeth yn wir yn fwy difrifol i bobl nad sy'n coeli nag ydy'r oblygiadau i Gristnogion os nad ydy Cristnogaeth yn wir.


Ond dwi'n siwr byse Duw yn digon parod i faddau i'r anffyddwyr gan fod ne cymaint o amheuaeth o fewn Cristnogaeth ei hun gyda mathau uniongred, pabyddol a phrotestanaidd a wedyn ar ben hyn enwadau gwahanol. Be am sefyllfa o berson yn byw ar ynys, sydd erioed wedi clwed am Cristnogaeth? Wyt ti wir yn meddwl fod y person ene am gael ei farnu am beidio cweilio mewn rhywbeth nad oedd ganddo yr un syniad am y peth?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Positif80 » Llun 04 Chw 2008 7:31 pm

Os nad yw Duw yn bodoli, 'rydym yn marw a does dim byd wedyn.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Chip » Llun 04 Chw 2008 7:45 pm

rooney a ddywedodd:Os nad yw Duw yn bodoli... mae popeth yn dod yn ganiatol. Heb bwer gyda awdurdod uwch na ni yn sefydlu gwerthoedd y dylai ni drio byw tuag at, yna pa reswm allai fod e.e. yn erbyn y cryf yn gorthrymu ac yn dileu'r gwan? Wedi'r cyfan, heb awdurdod uwch na ni yna dyn yw'r awdurdod, ac os yw dyn yn penderfynnu fod rhywbeth yn dderbyniol yna dyna fo?



Felly wyt ti yn dweud bod pob dyn yn creulon a dwp heb bod nhw'n cael ei rheoli gan duw, elli di ddim dweud bod yna dim anffyddwyr sydd yn pobl da a moesol. :?

A wyt yn dweud os nad yw duw yn bodoli mae pobl mewn sefyllfa gryf yn dileu'r pobl sy'n wan, mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol gyda Natsiaid yn lladd ei elynion di-niwed felly wyt wedi profi dy hunan bod duw dim yn bodoli.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai