ceribethlem a ddywedodd:Os, yw'r unigolyn yma'n marw yn y cyfnod limbo yma, a fydd Duw yn cydnabod ei onestrwydd a'r ffaith ei fod ar y trywydd cywir, ac felly yn adael i'r nefoedd? Neu a fydd yn gwrthod unrhywun heb fydd?
Dw i'n meddwl ei bod yn deg dweud nad oes neb yn gwybod yn iawn beth sy'n digwydd ar ôl i ni farw.
Ond yn y Beibl, rydyn ni'n cael ein hannog i gredu yn Nuw ac yn ei fab e Iesu Grist.
"Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist ac fe gei dy achub."
Dw i'n meddwl bod pobl fel rheol yn dod i gredu am eu bod yn gweld daioni Duw a Iesu, trwy Gristnogion eraill o bosib, ac eisiau diolch iddyn nhw yn hytrach na'u bod yn dweud "gwell i mi gredu rhag ofn"