Rhys Llwyd a ddywedodd:Duw a ddywedodd:Cyfleus iawn bod ffydd personol yn rhywbeth sy'n methu cael ei gadarnhau gan eraill.
Dydy hyn ddim yn wir. Wyt ti wedi clywed am y phenomenon sy'n cael ei alw yn yr Eglwys Gristnogol?
Fel ddwedes i, gallwch weddio gyda'ch gilydd ac dweud amen yn unsain, ond pawb yn credu'r un peth a chlywed yr un llais yn eu penne? Os oedd hyn yn wir, ni fyddai holltiadau rydym yn ei weld heddi yn yr eglwys. Mae'n wir i ddweud bod cristnogion yn casau ei gilydd. Am wahanol ddehongliad, dryll a'r bom.
Beth yw'r pwynt o weddio beth bynnag? Os taw 14400 (neu beth bynnag yw'r rhif yn ol John) o bobl sydd yn mynd i gael eu hachub o uffern, mae'r siawns bo chi'n un o nhw yn fach iawn. Llai byth os ydych chi'n gristion wishi-washi. Beth os ydych yn credu mewn pre-destination fel Lutherans, Calvinists a Methodistiaid? Oes ots beth ydych chi'n gwneud wedyn? A oes gobaith? Yn sicr mae 14400 o bobl haeddiannol eisoes wedi byw. Beth am y miloedd ar filoedd o gristnogion cynnar, yr holl seintiau? Stim free pass ar ol, mae'r llefydd wedi mynd. Do not pass go do not collect £200. Neu sbwriel yw'r rhan hyn o'r t.n. Metaffor? Dehongliad eto.