Os nad yw Duw yn bodoli...

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 2:36 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:ydy mae'n gwneud synnwyr. "Fi yw y gwir ..." felly o dderbyn ei ddysgeidiaeth fel y gwir, a fyddi di'n mynd i'r nefoedd? Neu ydy cael ffydd ym modolaeth Duw yn beth hanfodol?


eh? Fedri di ddim gwahanu Iesu na beth mae'n ddysgu neu'n gynrhychioli oddi wrth Dduw!
Diolch. Felly mae'n rhaid cael ffydd i gyrraedd y nefoedd?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 2:43 pm

ceribethlem a ddywedodd:Diolch. Felly mae'n rhaid cael ffydd i gyrraedd y nefoedd?


wrth gwrs fod angen ffydd, ddim yn deall o lle ti'n dod o gyda'r cwestiynau yma, beth am i ti egluro
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 2:45 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Diolch. Felly mae'n rhaid cael ffydd i gyrraedd y nefoedd?


wrth gwrs fod angen ffydd, ddim yn deall o lle ti'n dod o gyda'r cwestiynau yma, beth am i ti egluro

Ishe gwbod os mai ffydd neu gweithgareddau sydd bwysicaf. Ydy byw y ffordd iawn yn ddigonol? Neu ife ffydd yw'r tocyn hanfodol?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 2:50 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ishe gwbod os mai ffydd neu gweithgareddau sydd bwysicaf. Ydy byw y ffordd iawn yn ddigonol? Neu ife ffydd yw'r tocyn hanfodol?


cut to the chase ceri, dy wrthwynebiad yw?

does neb yn byw "y ffordd iawn" ddigon da i dalu'r ddyled i fynd i'r nefoedd, wyt ti'n honni fod ti?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 2:53 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Ishe gwbod os mai ffydd neu gweithgareddau sydd bwysicaf. Ydy byw y ffordd iawn yn ddigonol? Neu ife ffydd yw'r tocyn hanfodol?


cut to the chase ceri, dy wrthwynebiad yw?

Pa wrthwynebiad? Ishe gwbod mwy ydw i. Os ti ddim yn hapus am hynny, byddai'n stopio.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 3:08 pm

ffydd yn Iesu yw'r unig beth sy'n talu'r ddyled
mae dy weithgareddau yn ymateb i hyn.

Petae rhywun yn talu dy forgais ffwrdd fydde ti'n rhoi cic iddo rhwng ei goesau a'i redeg drosodd gyda dy gar? Neu fydde ti'n ei wahodd mewn am swper?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 3:11 pm

rooney a ddywedodd:ffydd yn Iesu yw'r unig beth sy'n talu'r ddyled
mae dy weithgareddau yn ymateb i hyn.
Diolch.

rooney a ddywedodd:Petae rhywun yn talu dy forgais ffwrdd fydde ti'n rhoi cic iddo rhwng ei goesau a'i redeg drosodd gyda dy gar? Neu fydde ti'n ei wahodd mewn am swper?
Fel person braidd yn sinigol, bydden i'n tybio pam ddiawl bydde rhywun yn talu fy morgais i ffwrdd. Bydden i'n sicr ddim yn ei wahodd e' mewn rhag ofn mae rhyw stalker yw e'.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan sian » Gwe 21 Maw 2008 3:20 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ishe gwbod os mai ffydd neu gweithgareddau sydd bwysicaf. Ydy byw y ffordd iawn yn ddigonol? Neu ife ffydd yw'r tocyn hanfodol?


Trwy ffydd mae rhywun yn cael ei achub. Fel maen nhw'n dweud:
"Man is saved by faith alone - but faith is never alone" - hynny yw, mae gweithredoedd yn dilyn ffydd.

Dydi hynny ddim yn dweud mai dim ond Cristnogion sy'n gwneud pethau da na bod pob Cristion yn ddymunol a charedig.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 3:24 pm

sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Ishe gwbod os mai ffydd neu gweithgareddau sydd bwysicaf. Ydy byw y ffordd iawn yn ddigonol? Neu ife ffydd yw'r tocyn hanfodol?


Trwy ffydd mae rhywun yn cael ei achub. Fel maen nhw'n dweud:
"Man is saved by faith alone - but faith is never alone" - hynny yw, mae gweithredoedd yn dilyn ffydd.

Dydi hynny ddim yn dweud mai dim ond Cristnogion sy'n gwneud pethau da na bod pob Cristion yn ddymunol a charedig.

Yn union. Felly ydy rhywun da sydd heb ffydd Cristnogol yn gallu mynd i'r nefoedd? Beth am rhywun sy'n byw mor agos at y bywyd perffaith a phosib byth wedi clywed am Iesu, beth fydd ei dynged?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan sian » Gwe 21 Maw 2008 3:35 pm

ceribethlem a ddywedodd:Beth am rhywun sy'n byw mor agos at y bywyd perffaith a phosib byth wedi clywed am Iesu, beth fydd ei dynged?


Mae 'na lot o bethe nad ydyn ni'n eu gwybod ond dw i'n meddwl mai dyma'r ateb mwya synhwyrol i'r cwestiwn yna:
Rhufeiniaid 1:
19 Mae beth sydd i'w wybod am Dduw yn amlwg – mae Duw wedi ei wneud yn ddigon clir i bawb. 20 Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi eu creu yn dangos yn glir mai fe ydy'r Duw go iawn, a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron