Os nad yw Duw yn bodoli...

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Kez » Gwe 21 Maw 2008 3:40 pm

ceribethlem a ddywedodd:

Yn union. Felly ydy rhywun da sydd heb ffydd Cristnogol yn gallu mynd i'r nefoedd? Beth am rhywun sy'n byw mor agos at y bywyd perffaith a phosib byth wedi clywed am Iesu, beth fydd ei dynged?


Fydd neb yn talu ei forgais e off :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 3:48 pm

ceribethlem a ddywedodd:Yn union. Felly ydy rhywun da sydd heb ffydd Cristnogol yn gallu mynd i'r nefoedd? Beth am rhywun sy'n byw mor agos at y bywyd perffaith a phosib byth wedi clywed am Iesu, beth fydd ei dynged?


cwestiwn teg a diddorol
rwyf angen cymorth pobl gyda'r ateb dwi am fentro cynnig, gan nid wyf yn ddigon sicr o'r ateb canlynol eto:-

ni'n rhoi ffydd fod Duw yn gyfiawn, felly sut mae am ddelio gyda'r bobl yma?
un eglurhad diddorol gan ddadansoddwyr proffwydoliaethau Beiblaidd yw ar ddiwedd y byd pan fydd Iesu yn dychwelyd a teyrnasu, bydd y Cristnogion yn cael eu atgyfodi ac yn byw a rhedeg y byd dan Frenhiniaeth Iesu. Wedyn bydd ail-atgyfodiad, y tro hwn i'r holl bobl na gafodd gyfle i ddod i wybod am Iesu. Ac felly hwn fydd eu cyfle nhw i roi ffydd ynddo neu ymwrthod ac ef. Yna bydd trydydd atgyfodiad o'r meirw wnaeth ymwrthod ac Iesu a bydd rhain yn cael eu taflu i'r llyn tan ynghyd a'r bobl eraill o'r ail atgyfodiad wnaeth ymwrthod ac Iesu.
Golygwyd diwethaf gan rooney ar Gwe 21 Maw 2008 4:09 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Kez » Gwe 21 Maw 2008 3:57 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Yn union. Felly ydy rhywun da sydd heb ffydd Cristnogol yn gallu mynd i'r nefoedd? Beth am rhywun sy'n byw mor agos at y bywyd perffaith a phosib byth wedi clywed am Iesu, beth fydd ei dynged?


cwestiwn teg a diddorol
rwyf angen cymorth pobl gyda'r ateb dwi am fentro cynnig, gan nid wyt yn ddigon sicr o'r ateb canlynol eto:-

ni'n rhoi ffydd fod Duw yn gyfiawn, felly sut mae am ddelio gyda'r bobl yma?
un eglurhad diddorol gan ddadansoddwyr proffwydoliaethau Beiblaidd yw ar ddiwedd y byd pan fydd Iesu yn dychwelyd a teyrnasu, bydd y Cristnogion yn cael eu atgyfodi ac yn byw a rhedeg y byd dan Frenhiniaeth Iesu. Wedyn bydd ail-atgyfodiad, y tro hwn i'r holl bobl na gafodd gyfle i ddod i wybod am Iesu. Ac felly hwn fydd eu cyfle nhw i roi ffydd ynddo neu ymwrthod ac ef. Yna bydd trydydd atgyfodiad o'r meirw wnaeth ymwrthod ac Iesu a bydd rhain yn cael eu taflu i'r llyn tan ynghyd a'r bobl eraill o'r ail atgyfodiad wnaeth ymwrthod ac Iesu.


Rwyt ti'n cytuno ag un o gredoau sylfaenol Hindwaeth felly os ti'n credu mewn ailymgnawdoliad er cyrraedd lefel mwy ysbrydol.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 4:10 pm

Kez a ddywedodd:Rwyt ti'n cytuno ag un o gredoau sylfaenol Hindwaeth felly os ti'n credu mewn ailymgnawdoliad er cyrraedd lefel mwy ysbrydol.


na
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan Kez » Gwe 21 Maw 2008 5:10 pm

rooney a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Rwyt ti'n cytuno ag un o gredoau sylfaenol Hindwaeth felly os ti'n credu mewn ailymgnawdoliad er cyrraedd lefel mwy ysbrydol.


na


Be' ddigwyddws i dy erthyglau hirfawr er mwyn ateb rhywun. Deall odw i nad ot ti ddim cweit yn gwpod be' i wneud a'r dadansoddwyr proffwydoliaethau Beiblaidd 'na - ond mae i weld dy fod wedi towlu eu syniadau nhw mas o'r ffenest. Os felly, ateba gwestiwn Ceri a pherlau eraill :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Sul 23 Maw 2008 7:45 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Yn union. Felly ydy rhywun da sydd heb ffydd Cristnogol yn gallu mynd i'r nefoedd? Beth am rhywun sy'n byw mor agos at y bywyd perffaith a phosib byth wedi clywed am Iesu, beth fydd ei dynged?


cwestiwn teg a diddorol
rwyf angen cymorth pobl gyda'r ateb dwi am fentro cynnig, gan nid wyf yn ddigon sicr o'r ateb canlynol eto:-

ni'n rhoi ffydd fod Duw yn gyfiawn, felly sut mae am ddelio gyda'r bobl yma?
un eglurhad diddorol gan ddadansoddwyr proffwydoliaethau Beiblaidd yw ar ddiwedd y byd pan fydd Iesu yn dychwelyd a teyrnasu, bydd y Cristnogion yn cael eu atgyfodi ac yn byw a rhedeg y byd dan Frenhiniaeth Iesu. Wedyn bydd ail-atgyfodiad, y tro hwn i'r holl bobl na gafodd gyfle i ddod i wybod am Iesu. Ac felly hwn fydd eu cyfle nhw i roi ffydd ynddo neu ymwrthod ac ef. Yna bydd trydydd atgyfodiad o'r meirw wnaeth ymwrthod ac Iesu a bydd rhain yn cael eu taflu i'r llyn tan ynghyd a'r bobl eraill o'r ail atgyfodiad wnaeth ymwrthod ac Iesu.

Oni fyddai Duw yn medru gweld drwy unrhyw un sy'n honni ffydd er mwyn cyrraedd y nefoedd? (h.y. pobl sy'n honni ffydd, ond ddim wir yn ei gredu). Yn hynny o beth ni ddylai rhywun beidio honni ffydd tan ei fod yn hollol siwr?
Os, yw'r unigolyn yma'n marw yn y cyfnod limbo yma, a fydd Duw yn cydnabod ei onestrwydd a'r ffaith ei fod ar y trywydd cywir, ac felly yn adael i'r nefoedd? Neu a fydd yn gwrthod unrhywun heb fydd?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan sian » Sul 23 Maw 2008 8:21 pm

ceribethlem a ddywedodd:Os, yw'r unigolyn yma'n marw yn y cyfnod limbo yma, a fydd Duw yn cydnabod ei onestrwydd a'r ffaith ei fod ar y trywydd cywir, ac felly yn adael i'r nefoedd? Neu a fydd yn gwrthod unrhywun heb fydd?


Dw i'n meddwl ei bod yn deg dweud nad oes neb yn gwybod yn iawn beth sy'n digwydd ar ôl i ni farw.
Ond yn y Beibl, rydyn ni'n cael ein hannog i gredu yn Nuw ac yn ei fab e Iesu Grist.
"Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist ac fe gei dy achub."
Dw i'n meddwl bod pobl fel rheol yn dod i gredu am eu bod yn gweld daioni Duw a Iesu, trwy Gristnogion eraill o bosib, ac eisiau diolch iddyn nhw yn hytrach na'u bod yn dweud "gwell i mi gredu rhag ofn"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan rooney » Sul 23 Maw 2008 8:24 pm

ceribethlem a ddywedodd:Oni fyddai Duw yn medru gweld drwy unrhyw un sy'n honni ffydd er mwyn cyrraedd y nefoedd? (h.y. pobl sy'n honni ffydd, ond ddim wir yn ei gredu).


hypocrit crefyddol fyddai person felly, mae Duw yn gwybod calonau pobl
ffydd gwag fyddai dim ond rhoi lip-service i frawddeg ddiwinyddol
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Sul 23 Maw 2008 8:29 pm

sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Os, yw'r unigolyn yma'n marw yn y cyfnod limbo yma, a fydd Duw yn cydnabod ei onestrwydd a'r ffaith ei fod ar y trywydd cywir, ac felly yn adael i'r nefoedd? Neu a fydd yn gwrthod unrhywun heb fydd?


Dw i'n meddwl ei bod yn deg dweud nad oes neb yn gwybod yn iawn beth sy'n digwydd ar ôl i ni farw.
Ond yn y Beibl, rydyn ni'n cael ein hannog i gredu yn Nuw ac yn ei fab e Iesu Grist.
"Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist ac fe gei dy achub."
Dw i'n meddwl bod pobl fel rheol yn dod i gredu am eu bod yn gweld daioni Duw a Iesu, trwy Gristnogion eraill o bosib, ac eisiau diolch iddyn nhw yn hytrach na'u bod yn dweud "gwell i mi gredu rhag ofn"
Ond mae'n ddigon posib i weld daioni pobl drwy eu gweithredoedd. Mae yna ddigon o bobl sydd ddim yn Gristnogion sydd yn bobl da (a digon o honedig Gristnogion sydd ddim yn "dda"). Mae llawer o bobl yn dweud yn dweud eu bod wedi cael eu "galw" at Dduw, neu wedi cael rhyw fath o droadigaeth. Beth am y bobl hynny sydd heb gael hyn, ond eto sy'n byw (neu yn ceisio byw) yn y modd cywir.
Fi'n derbyn for y Beibil yn dweud "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist ac fe gei dy achub.", ond mae'r byd wedi newid yn helaeth o'r dyddiau hynny. Mae nifer o bobl yn methu a chredu ar sail ffydd "dall". Mae nifer o bobol yn herio a chwestiynu'r byd o'u cwmpas. Mae'n rhaid cofio fod addysg i bobl cyffredin yn rhywbeth gymharol diweddar, ac felly ni fyddai pobl yn codi'r cwestiynau yma yn y gorffenol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Os nad yw Duw yn bodoli...

Postiogan ceribethlem » Sul 23 Maw 2008 8:30 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Oni fyddai Duw yn medru gweld drwy unrhyw un sy'n honni ffydd er mwyn cyrraedd y nefoedd? (h.y. pobl sy'n honni ffydd, ond ddim wir yn ei gredu).


hypocrit crefyddol fyddai person felly, mae Duw yn gwybod calonau pobl
ffydd gwag fyddai dim ond rhoi lip-service i frawddeg ddiwinyddol

Dyna oedd fy mhwynt rooneybach. Ti heb ateb y cwestiwn oeddwn i'n ei godi.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron