rooney a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd: Yn hynny o beth ni ddylai rhywun beidio honni ffydd tan ei fod yn hollol siwr?
aros yn y gwch, a peidio rhoi cam ar y llyn?
yn y bywyd yma, dwyt ti byth yn "hollol siwr" o unrhywbeth mewn difri. Heblaw marwolaeth a threthi!
Mae'n ddigon posib i fod yn hollol siwr o bethau. Weithiau, o edrych nol, mae camgymeriad wedi cael ei wneud. Ar y llaw arall, yn aml mae'r ffydd yna'n cael ei wireddu. Er enghraifft, cyn gem Cymru ac Iwerddon ac eto cyn gem Cymru a Ffrainc, dihunais yn hollol ffyddiog y byddai Cymru yn ennill y gemau yna.
Y cyfan wyt ti'n gwneud yw gofyn cwestiynau hen ateb dim o'r rhai dwi'n eu codi. Os oes gen ti gwestiwn am fy nghredoau, neu syniadau, dwi'n ddigon parod i'w hateb. Byddaf yn ddiolchgar pe baent yn fodlon ateb cwestiynau hefyd, yn hytrach na thrial bod yn glefar ac ateb pob cwestiwn gyda chwestiwn arall, neu rhyw ddyfyniad smug o
http://www.answersingenesis.org