ceribethlem a ddywedodd:CapS a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Yn ol y roonster, dyna'n union beth ddylen ni fod yn 'neud.CapS a ddywedodd:Briliynt. Ydyn ni'n cael aberthu'n merched ni a lladd yr ych i gyd?
Plis?
Smashing. Af i adeiladu'r pair yn yr ardd bac nawr. Oes gen ti fatsh?
Llond bocs boi. Beth ni'n llosgi gynta? Cyw iar fel practis? Neu'n syth at yr afr?
Gofynnais i i Dduw sicrhau bod brechdan ham a chreision blas halen a finegr ar gael yn y ffreutur yn y gwaith heddiw. Cytunodd ar yr amod mod i'n aberthu'r creadur gyntaf i fy nghyfarch wrth ddychwelyd heno iddo. Roedd y wraig yn fishi'n gwylio Neighbours, felly'r ci sy'n ei chael hi. Dwi am ei hanfon i'r anialwch i galaru am y ffaith ei bod hi'n fyrjin am ddeufis (hyn ers inni rhoi hysterectomi iddi hi fel anrheg penblwydd yn un oed)*. Unwaith iddi ddod nol, hot dogs all round fydd hi.
Yn gywir
Cap "Jephthah" S
* Ym....rhag ofn bod yna gamddealltwriaeth, y ci fi'n son am fan hyn.