Mae'r drafodaeth yma'n prysur ferwi lawr i arminiaeth vs calfiniaeth. Rwy'n digyn ar ochr arminaidd, felly'n gweld fod pobl angen dewis a chydweithio gyda Duw.
Beth bynnag, trafodaeth athronyddol o fewn Cristnogaeth yw hyn ac mae'n haeddu edefyn ei hun. Fel ni'n gweld o gymaint o'r negeseuon ar maes-e ac ati, ni'n byw mewn oes lle mae anllythrenedd Beiblaidd yn rhemp. Yn gynyddol mae'n rhaid pwyntio allan diffyg deallusrwydd sylfaenol i bobl ynglyn a'r ffydd. Mae hyn yn rhan o efengylu dyddie yma, all ni ddim cymryd fod pobl yn credu fod Duw yn bodoli, rhywbeth oedd yn arfer cael ei gymryd yn ganiataol. Mae pobl yn cael eu brainwashio gyda pob math o systemau cred eraill fel fod rhaid clirio'r ardd cyn gollwng hedyn yr Efengyl. Mae ein cymdeithas yn fwy Groegaidd nac Iddewig. Gweler yn Actau fod rhannu'r efengyl gyda'r Iddew a'r Groegwr yn dod ac ymatebion gwahanol. Yr Iddew gyda sylfaen yr Hen Destament, y Groegwr ddim:-
1 Cor 22-23
22 Maeír Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, aír cwbl maeír Groegiaid eisiau ydy rhywbeth syín swnioín glyfar. 23 Felly pan dyn niín sÙn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae'r fath syniad yn sarhad i'r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill. 24 Ond i'r rhai mae Duw wedi eu galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) ñ iddyn nhw, y Meseia syín dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw.
Heb ddatgymalu'r credoau ffals a helpu pobl i gwestiynu eu credoau presennol, a chwalu'r myths yn meddyliau pobl ynglyn a Christnogaeth, anodd iawn yw disgwyl i'r hedyn ddisgyn a thyfu. Sori os yw hyn yn edrych fel cecran neu weiddi, ond rhaid sefyll yn gadarn a peidio gadael i bobl ledaenu celwyddau am y ffydd heb i nhw gael eu herio. Nid job pawb yw gwneud hyn ond mae Cristnogaeth angen pobl i wneud hyn dyddie yma.