Kez a ddywedodd:Ifa robot ych chi sy'n dod mas a phethau fel 'na - off the cuff fel petai - ac a yw hwnna'n meddwl bo chi ddim isha dod mas am beint, chi ddim isha dawnso, chi ddim isha shelffo, dim ganja ne drygs o unryw fath. Os felly fi wela i chi yn y cwrdd wthnos nesa- make that a pythewnos - ma'r drygs lot gryfach dyddia hyn WWWWWWWWWWWwwww
erm... fi'n trio dilyn Iesu, ok? ydw i'n byw fyny i safonau Iesu? nac ydw, a does neb arall 'chwaith yn dod yn agos,
oedd Iesu'n cuddio ei hun adref ac yn siarad dim ond hefo'r arweiwyr crefyddol? nacoedd. Yr oedd Iesu'n mynd at y lladron, puteiniaid, tlawd, sal ayyb.
dyna'r ddameg mwyaf anhygoel yn y Beibl. Ac fedri di fod yn siwr o'r ddameg yna beth bynnag ti'n dymuno gwneud, os ti'n dychwelyd at yr eglwys/capel yna ti'n cael dy dderbyn. Ac os ti ddim, atgoffa nhw o'r ddameg yna. Falle bydd llawer mewn cymdeithas yn dy wrthod ond fe fydd capel/eglwys o ddifri yn dy dderbyn. Mae'r maddeuant yn anhygoel. Pob lwc.