Ap Corwynt a ddywedodd:mae'r ail erthygl yn ogystal yn ddigon teg- mae'n cydnabod ein bod ni'n byw mewn cenedl aml-ffydd; fod gogwydd deddfwriaethol ein llywodraeth bellach yn methu fforddio anwybyddu'r ffaith honno.
ar ol ystyried y mater yma fwy, rwyf yn dod i gytuno a ti, ac yn wir yn meddwl fod Rowan Williams wedi gwneud sylwadau clyfar iawn ar amser pwysig iawn, ac ddim wedi colli'r plot ond yn hytrach ac yn glyfar iawn wedi exposio gymaint o bobl eraill sydd wedi colli'r plot. Piti fod cymaint wedi ei gam-ddyfynu a defnyddio'r mater i wneud ymosodiadau personol, ond mae hynny i'w ddisgwyl gan elynion Crist. Ac mae wedi codi cwestiwn ynglyn a rol yr archesgob- fyddwn i'n hoffi meddwl mae gwneud ei rol draddodiadol fyddai orau ond mae'n debyg fod e'n sylweddoli fod ni'n byw mewn amseroedd a chymdeithas cwbl wahanol o'i gymharu a'r archesgobion blaenorol.
nid ydw i'n hapus o gwbl ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa yma. Ers blynyddoedd ni wedi ethol gwleidyddion gwleidyddol gywir yn dweud wrthom pa mor wych yw cymdeithas aml-ddiwyllianol, mor prowd ni i gyd fod Prydain yn wlad aml-ddiwyllianol bellach, a chymaint mae gweddill y byd yn genfigennus ohonom am gael cymdeithas o'r fath. Ac i bawb sy'n anghytuno a'r cyfeiriad yma- roedd nhw'n cael eu labelu fel pobl hiliol, ac ati. Ni wnaeth yr achos yn erbyn cymdeithas aml-ddiwyllianol a'i holl oblygiadau ddim cael ei gwneud ddigon pwerus gan yr eglwysi na cael ei chlywed yn gytbwys a theg gan y cyfryngau. Mae gwahaniaeth enfawr rhwng cymdeithas aml-hil, a chymdeithas aml-ddiwyllianol.
Ac felly gyda syndod oedd gweld gwleidyddion NewLabour yn ciwio fyny i ddweud "British laws based on British values". Ond beth yw British values bellach- NewLabour values?- a beth yw'r rheiny, yn sicr ddim "Biblical values". Mae nhw wedi deddfu'n groes i werthoedd Beiblaidd. Yn y gorffenol roedd y cwestiwn yma'n haws i'w ateb- roedd y wlad gyda moesau, ethics a gwerthoedd Judeo-Cristnogol. A gyda'r cefndir yma, roedd modd i ryw raddau cadw crefydd allan o wleidyddiaeth oherwydd roedd pawb yn ryw fath o Gristion beth bynnag. Ac felly roedd llawer o bethau'n cael eu cymryd yn ganiataol oherwydd fod y gwerthoedd sylfaenol gen bawb. Ond nawr ni gyda bron i 2 filiwn o fwslemiaid yn byw ym Mhrydain, sydd ddim yn bell o boblogaeth Cymru(!) sy'n cael llawer o blant, ac sydd dal yn dod i fewn... ac sydd yn dilyn moesau/deddfau/ethics islamaidd, nid judeo-cristion. Felly mae NewLabour wedi datgymalu sylfaen Judeo-Gristnogol rywfaint, ac mae miliynau o bobl sydd gyda sylfaen Islamaidd wedi dod i fewn- mae'r sylfaen yn amlwg wedi newid. I'w ychwanegu at hyn oll, ni'n cael anffyddwyr aggressive sydd yn casau crefydd ac am weld rol crefydd mewn bywyd cyhoeddus i bob pwrpas yn cael ei banio. Mae llawer o'n pobl wedi dod trwy system addysg eitha gwael heb fawr o syniad am ein hanes a'r rol mae'r Beibl wedi ei chwarae i ddod a ni lle roedd ni yn 1997 tan i'r NewLabour ddechrau datgymalu'r gwerthoedd Beiblaidd go iawn.
Beth sydd gen i ddiddordeb ynddo yw beth yn union mae NewLabour yn ei olygu felly gyda "British values". y gair sy'n dod allan o'r peiriant spin yw "our freedoms". Ond mae NewLabour yn prysur tynnu ffwrdd ein "freedoms" traddodiadol, ac yn rhoi "freedoms" i eraill and oeddent yn arfer cael pan oedd y wlad yn driw i'w sylfaen judeo-cristion. Ac os yw Iddewon yn cael delio gyda materion e.e. ysgaru yn eu cyrtiau crefyddol eu hunain yna pam ddim y moslemiaid? Mae anghysondeb, ac mae'r Archesgob wedi exposio hyn, a gobeithio bydd hyn yn agor y drws i drafodaeth o ddifri am ein cymdeithas.