Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan rooney » Iau 07 Chw 2008 7:54 pm

Ymddengys fod Eglwys Lloegr yn colli'r plot.

Ddoe, Esgob Lerpwl yn colli'r plot
http://www.dailymail.co.uk/pages/live/a ... 0&ito=1490

Heddiw, Esgob Caergaint yn colli'r plot
http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/7233335.stm

Rwy'n rhagweld bydd y nonsens yma yn achosi mwy o bobl adael yr Eglwysi Anglicanaidd i fynd at y Catholics, Efengylwyr, Pentecostals, Bedyddwyr... unrhywun sydd yn rhoi eu ffydd yn awdurdod Gair Duw yn y Beibl. Rwy'n credu fod Duw yn barnu eglwysi/capeli sydd ddim yn sticio at ei air ac yn symud ei bobl fel fo'r angen.
Rhaid nodi hefyd nad yw sylwadau rhai esgobion o gwbl yn cynrhychioli barn llawer iawn o fewn yr Eglwys Anglicanaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan Ap Corwynt » Iau 07 Chw 2008 10:43 pm

welai ddim byd ffol, anghristnogol, an-feiblaidd yn un o'r ddwy erthygl wyt ti wedi ei chyfeirio ati. mae'r cynta'n annog sensetifrwydd ar ran yr eglwys anglicanaidd ar rhywbeth sy'n fater sensetif, a beth bynnag yw dy farn bersonol, mae'r unigolion yn haeddu cael ei trin a pharch a sensetifrwydd.
mae'r ail erthygl yn ogystal yn ddigon teg- mae'n cydnabod ein bod ni'n byw mewn cenedl aml-ffydd; fod gogwydd deddfwriaethol ein llywodraeth bellach yn methu fforddio anwybyddu'r ffaith honno.
welai ddim yma ond ymateb call, doeth, 'measured' i broblemau yn wynebu perthynas yr eglwys wladol a chymdeithas. a bod yn onest, dwi'n falch o weld y ddau esgob yn ceisio rhyngweithio a'u cymdeithas gan annog trafodaeth gall mewn iaith ddealladwy, ond dwi'n siwr fod gen ti dy resymau dros wrthwynebu hyn.
Post tenebras lux
Ap Corwynt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Mer 26 Rhag 2007 1:00 am

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan rooney » Gwe 08 Chw 2008 12:27 am

Ap Corwynt a ddywedodd:welai ddim byd ffol, anghristnogol, an-feiblaidd yn un o'r ddwy erthygl wyt ti wedi ei chyfeirio ati. mae'r cynta'n annog sensetifrwydd ar ran yr eglwys anglicanaidd ar rhywbeth sy'n fater sensetif, a beth bynnag yw dy farn bersonol, mae'r unigolion yn haeddu cael ei trin a pharch a sensetifrwydd.


Mae'r Beibl yn gwbl glir ynglyn a fod gwrywgydiaeth yn bechod yng ngolwg Duw. Mae hefyd yn ein dysgu i garu ein gilydd, ond ddim i garu pechodau ein gilydd. Dyletswydd yr unigolion yw edifarhau, ddim annog yr Eglwys i anwybyddu'r ysgrythurau, nac i fyhafio mewn modd i rwygo'r Eglwys oherwydd y pwnc yma pan ddylai fod y sylw yn mynd ar faterion llawer mwy pwysig yn ein cymdeithas. Yn y bon, dadl am awdurdod yr ysgrythurau vs barn unigolyn am bechod yw hi.

mae'r ail erthygl yn ogystal yn ddigon teg- mae'n cydnabod ein bod ni'n byw mewn cenedl aml-ffydd; fod gogwydd deddfwriaethol ein llywodraeth bellach yn methu fforddio anwybyddu'r ffaith honno.


Fedri di ddim cael deddfau i siwtio pawb o bob ffydd. Mae deddfau Prydain yn deillio o ethics judeo-cristnogol, nid islam. Os yw pobl eisiau sharia mae digon o wledydd i nhw fynd i fyw ynddo. Nid yw Eglwys Lloegr yn cael yr arweiniad call y mae angen i gyffwrdd y bobl a bod y graig y mae fod yn ein cymdeithas gynyddol ansicr.
Golygwyd diwethaf gan rooney ar Gwe 08 Chw 2008 12:31 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan Boibrychan » Gwe 08 Chw 2008 12:29 am

Colli'r plot trwy ymosod ar secilwriaeth trwy ddefnyddio islamaeth er mwyn cael mwy o sylw gan y press!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan rooney » Sad 09 Chw 2008 8:08 pm

Ap Corwynt a ddywedodd:mae'r ail erthygl yn ogystal yn ddigon teg- mae'n cydnabod ein bod ni'n byw mewn cenedl aml-ffydd; fod gogwydd deddfwriaethol ein llywodraeth bellach yn methu fforddio anwybyddu'r ffaith honno.


ar ol ystyried y mater yma fwy, rwyf yn dod i gytuno a ti, ac yn wir yn meddwl fod Rowan Williams wedi gwneud sylwadau clyfar iawn ar amser pwysig iawn, ac ddim wedi colli'r plot ond yn hytrach ac yn glyfar iawn wedi exposio gymaint o bobl eraill sydd wedi colli'r plot. Piti fod cymaint wedi ei gam-ddyfynu a defnyddio'r mater i wneud ymosodiadau personol, ond mae hynny i'w ddisgwyl gan elynion Crist. Ac mae wedi codi cwestiwn ynglyn a rol yr archesgob- fyddwn i'n hoffi meddwl mae gwneud ei rol draddodiadol fyddai orau ond mae'n debyg fod e'n sylweddoli fod ni'n byw mewn amseroedd a chymdeithas cwbl wahanol o'i gymharu a'r archesgobion blaenorol.

nid ydw i'n hapus o gwbl ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa yma. Ers blynyddoedd ni wedi ethol gwleidyddion gwleidyddol gywir yn dweud wrthom pa mor wych yw cymdeithas aml-ddiwyllianol, mor prowd ni i gyd fod Prydain yn wlad aml-ddiwyllianol bellach, a chymaint mae gweddill y byd yn genfigennus ohonom am gael cymdeithas o'r fath. Ac i bawb sy'n anghytuno a'r cyfeiriad yma- roedd nhw'n cael eu labelu fel pobl hiliol, ac ati. Ni wnaeth yr achos yn erbyn cymdeithas aml-ddiwyllianol a'i holl oblygiadau ddim cael ei gwneud ddigon pwerus gan yr eglwysi na cael ei chlywed yn gytbwys a theg gan y cyfryngau. Mae gwahaniaeth enfawr rhwng cymdeithas aml-hil, a chymdeithas aml-ddiwyllianol.

Ac felly gyda syndod oedd gweld gwleidyddion NewLabour yn ciwio fyny i ddweud "British laws based on British values". Ond beth yw British values bellach- NewLabour values?- a beth yw'r rheiny, yn sicr ddim "Biblical values". Mae nhw wedi deddfu'n groes i werthoedd Beiblaidd. Yn y gorffenol roedd y cwestiwn yma'n haws i'w ateb- roedd y wlad gyda moesau, ethics a gwerthoedd Judeo-Cristnogol. A gyda'r cefndir yma, roedd modd i ryw raddau cadw crefydd allan o wleidyddiaeth oherwydd roedd pawb yn ryw fath o Gristion beth bynnag. Ac felly roedd llawer o bethau'n cael eu cymryd yn ganiataol oherwydd fod y gwerthoedd sylfaenol gen bawb. Ond nawr ni gyda bron i 2 filiwn o fwslemiaid yn byw ym Mhrydain, sydd ddim yn bell o boblogaeth Cymru(!) sy'n cael llawer o blant, ac sydd dal yn dod i fewn... ac sydd yn dilyn moesau/deddfau/ethics islamaidd, nid judeo-cristion. Felly mae NewLabour wedi datgymalu sylfaen Judeo-Gristnogol rywfaint, ac mae miliynau o bobl sydd gyda sylfaen Islamaidd wedi dod i fewn- mae'r sylfaen yn amlwg wedi newid. I'w ychwanegu at hyn oll, ni'n cael anffyddwyr aggressive sydd yn casau crefydd ac am weld rol crefydd mewn bywyd cyhoeddus i bob pwrpas yn cael ei banio. Mae llawer o'n pobl wedi dod trwy system addysg eitha gwael heb fawr o syniad am ein hanes a'r rol mae'r Beibl wedi ei chwarae i ddod a ni lle roedd ni yn 1997 tan i'r NewLabour ddechrau datgymalu'r gwerthoedd Beiblaidd go iawn.

Beth sydd gen i ddiddordeb ynddo yw beth yn union mae NewLabour yn ei olygu felly gyda "British values". y gair sy'n dod allan o'r peiriant spin yw "our freedoms". Ond mae NewLabour yn prysur tynnu ffwrdd ein "freedoms" traddodiadol, ac yn rhoi "freedoms" i eraill and oeddent yn arfer cael pan oedd y wlad yn driw i'w sylfaen judeo-cristion. Ac os yw Iddewon yn cael delio gyda materion e.e. ysgaru yn eu cyrtiau crefyddol eu hunain yna pam ddim y moslemiaid? Mae anghysondeb, ac mae'r Archesgob wedi exposio hyn, a gobeithio bydd hyn yn agor y drws i drafodaeth o ddifri am ein cymdeithas.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Llun 11 Chw 2008 10:47 am

Erthygl tipyn bach mwy deallus o safbwynt James Jones* yma:
http://www.churchtimes.co.uk/content.asp?id=51149


* rwan, petawn i'n aelod blaenllaw o grefydd, mi fuaswn i'n meddwl ddwywaith am barhau i ddefnyddio'r enw yma, ond dyna ni.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan S.W. » Llun 11 Chw 2008 1:57 pm

Y peth gwirionach nath Rowan Williams oedd meddwl am eiliad bydde'r wasg torfol yn adrodd yr hun nath o ddweud yn hytrach na'r hyn y bydden nhw wedi hoffi iddo'i ddweud er mwyn cael stori dda.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan Dan Dean » Llun 11 Chw 2008 5:01 pm

SW a ddywedodd:Y peth gwirionach nath Rowan Williams oedd meddwl am eiliad bydde'r wasg torfol yn adrodd yr hun nath o ddweud yn hytrach na'r hyn y bydden nhw wedi hoffi iddo'i ddweud er mwyn cael stori dda.

Yn union, ond lwcus nad oedd hynnu wedi
UPROAR!
digwydd. Os fuaswn i yn Rowan Williams
OUTRAGE!
sw ni'n ddiolchgar o'r ffordd wnaeth
VICTORY FOR TERROR!
y cyfryngau ddeall ei bwyntiau yn iawn
BIN LADEN 1-0 BRITAIN!
a dadansoddi'r pwnc yn fanwl ac yn gall
MAD MULLAH OF CANTERBURY!
ar ol iddo ddweud yr araith yn hytrach a
THAT BEARD IS NOT A COINSIDENCE!
gwneud be ti'n ddisgrifio uchod.

Nes i weld engraifft da o hyn wythnos dwytha, ar wefan Daily Mail dwin meddwl, lle roedd na gwestiwn ar-lein i ddarllenwyr ateb i gymeryd rhan o'r mater dyfn yma: "Who's the biggest threat to Britain?" Y dewis oedd Rowan Williams neu Abu Hamza. :rolio: :lol:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 14 Chw 2008 1:40 pm

Darn diddorol ar ran y bibsi yn hyn.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Eglwys Lloegr yn colli'r plot?

Postiogan Positif80 » Iau 14 Chw 2008 5:38 pm

Dw i'm yn meddwl fod Dr Williams wedi colli'r plot, ond efalla dw i'n bod yn hael gan nad ydw i'n cydnabod ei awdurdod i siarad ar unrhywbeth ond boreuau coffi, jam, episodes gorau Songs of Praise a barfau hynod.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron